Agorodd Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd yrn Medi 2008 ar hen safle Ysgol Gyfun Maesteg gydag 128 o ddisgyblion yrn mlwyddyn 7. Bydd yr ysgol yn gwasanaethu'r sir gyfan yn ei thalgylch ac yn cynnig addysg cyfrwng Cymraeg i ddisgyblion 11-18 yrn Mhen-y-bont ar Ogwr. Bu'r disgyblion yn y gorffennol yn mynychu addysg Gyrnraeg tu allan i'r sir yn Ysgol Gyfun Llanhari.
Disgwylir i dros 800 o ddisgyblion fynychu'r ysgol pan gyrhaedda ei llawn dwf gyda'r rhan fwyaf yn dod o ysgolion cynradd Bro Ogwr, Cwm Garw, Cynwyd Sant ac Ysgol y Ferch o'r Sger.
Amcan yr ysgol yw datblygu'n llwyddiannus gyda safonau uchel sy'n hunan-feirniadol, yn cynnig cyfleoedd eang a theg i bawb trwy ddatblygu sgiliau gydol oes.
Pennaeth yr ysgol yw Mark Jones a meddai: "Mae agoriad Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd yn garreg filltir arall yn nhwf addysg Gymraeg yn ne Cymru ac yn adeg hanesyddol i sir Pen-y-bont ar Ogwr. "Edrychaf yrnlaen at wireddu'r weledigaeth uchod drwy gydweithio â holl randdeiliad yr ysgol a'r gymuned er rnwyn cyfoethogi addysg a phrofiadau'r disgyblion trwy'r Gymraeg fel iaith gwaith a bywyd."
|