Heddiw ro'n i, ynghÅ·d ag o leiaf 500 arall wedi mynd i Faes y Sioe yn Llanelwedd am ddiwrnod o ddathlu gyda Chymorth Cristnogol a Cytun.
Roedd yn ddiwrnod o weithdai a seminarau i'n herio a'n hysbrydoli. Ar y funud olaf newidiwyd lleoliad y seminar gyntaf y dewisais fynd iddi gan fod ambell un yn methu ymdopi â grisiau. A dyna sut y bu i mi eistedd mewn stafell hirgul yn adeilad Undeb Amaethwyr Cymru (yr F.U.W. ar lafar gwlad!) yn wynebu rhes o luniau du a gwyn.
Roedd y seminar, o dan arweiniad y Parchedig Aled Edwards, yn trafod y problemau enbydus a wynebir gan y rhai sy'n ceisio lloches yng Nghymru, ond er mor fyrlymus a dirdynnol oedd ei neges roedd yn anodd i mi ganolbwyntio, achos, yr ail lun yn y rhes ar y wal, bron gyferbyn â mi, oedd llun fy athro ysgol Sul pan o'n i yn fy arddegau. Bu farw ddechrau'r 60au yn ddyn ifanc 54 oed.
Roedd gweld y wyneb cryf yn llun mor annisgwyl ond eto i'w groesawu achos rwy'n dal i drysori y pen Parker coch roiodd e'n anrheg i fi pan es i i'r coleg. Roedd D.T. Lewis, neu Defi Tom Llwynwermwd fel y galwai fy rhieni e, yn un o'r dwsin dewr o ffermwyr o Sir Gaerfyrddin a sefydlodd Undeb Amaethwyr Cymru yn Rhagfyr 1955. (Fel Cymorth Cristnogol, maen nhw hefyd yn dathlu eleni.) O'r dwsin yma roedd saith yn adnabyddus i mi fel plentyn.
Cyn hyn roedden nhw'n aelodau ffyddlon o'r NFU yn cael eu rheoli o Lundain ond yn ystod gaeaf caled 1953/4 roedd ffermwyr Cymru wedi dioddef llawer ac roedd cangen Meirionnydd o'r NFU wedi ceisio galw cynhadledd genedlaethol yng Nghymru i drafod eu problemau ond dywedodd arweinwyr yr NFU eu bod yn rhy brysur i ddod i'r cyfarfod. Roedd y Llywydd newydd ddod nôl o Rwsia a'r Is-¬lywydd wedi bod i Seland Newydd. Yn wir, yn ystod y ddwy flynedd flaenorol roedd y ddau ddyn yma wedi ymweld â 40 o wledydd tramor ond doedd dim amser i ymweld â Chymru. Pa ryfedd i'r deuddeg yma fynd ati ymysg llawer o wrthwynebiad a drwgdeimlad i sefydlu undeb a fyddai'n cynrychioli buddiannau ffermydd teuluol Cymru yn hytrach na ffermwyr mawr gwastadeddau Lloegr.
Roedd D.T. Lewis yn gymeriad cryf a thawel a dyma ddywedodd yr Arglwydd Geraint Howells amdano. "Dw i erioed wedi gweld unrhyw un yn datblygu gymaint mewn bywyd cyhoeddus ag y gwnaeth e. Fe flodeuodd." Fe oedd Is-lywydd cynta'r Undeb ac wedyn yn llywydd rhwng 1958-61 (cyn rhoi'r gorau oherwydd afiechyd) a dyna pam mae ei lun ar y wal yn Llanelwedd.
Roedd y swyddi hyn yn golygu ei fod yn teithio Cymru benbaladr i annerch cyfarfodydd a chymell aelodau newydd ond am 2 o'r gloch ar brynhawn Sul roedd e yn Seion yn ein hyfforddi ni'r ieuenctid yn y pethau gorau. Ro'n i wrth fy modd yn gwrando arno ac yn synhwyro mai ei bleser mwya' oedd ein gweld ni yn datblygu i fod yn oedolion cyfrifol.
Tua'r un adeg mewn pentre cyfagos roedd Gwynfor Evans yn dysgu dosbarth o bobl ifanc bob prynhawn Sul er ei fod ef hefyd ar grwydr drwy Gymru yn ystod yr wythnos yn annerch a chefnogi a chymell.
Ddwy flynedd yn ôl pan oedd sôn fod rhywun wedi gweld cath fawr ddu (panther!) yn agos at y ffordd fawr rhwng y ddau gapel yma disgrifiodd y "Western Mail" yr ardal yma fel "this remote area of North Carmarthenshire" (h.y. heb fod o fewn 20 milltir i M&S a Tesco!) Gymaint yn fwy "remote" oedd hi yn y 50au ond falle taw dyna oedd ein lwc ni'r ieuenctid ar y pryd fod y gymdeithas lleol yn fwy o ddylanwad arnon ni na dim arall.
Yn gymharol ddiweddar clywais rywun ar raglen radio yn defnyddio dywediad oedd yn newydd i mi "You need a village to bring up a child". Dyna oedd ein profiad ni. Un o lawer oedd D.T. Lewis - yr un a ddaeth yn adnabyddus y tu hwnt i'w bentref genedigol. Gallwn hefyd sôn am bobl fel Miss Richards a Mrs Davies - un yn ddibriod a'r llall yn weddw ers yn ifanc ac yn byw gyferbyn â'i gilydd ganllath o `nghartref i. Roedd y ddwy yn cydweithio yng nghegin ysgol y pentref ac er bod eu diwrnod gwaith yn gorffen yn gynt na diwrnod ysgol roedd y ddwy yna ar ddiwedd y prynhawn i gyd gerdded y filltir adre gyda rhyw hanner dwsin ohonon ni. Ro'n nhw ar eu ffordd i dai gwag ac yn mwynhau cwmni ifanc ond fe ddysgon ni gymaint yn eu cwmni nhw.
I fynd yn ôl at y FUW am funud, ceir stori am wleidydd neu swyddog amaethyddol yn gofyn cwestiwn diniwed i un o'r aelodau -
"Beth y'ch chi'n godi ar y tir `ma?"
"O, codi pobol y' n ni' n wneud yma".
Diolch amdanyn nhw a'r dylanwad gawson nhw sy'n egluro mwy na thebyg pam y bues i heddiw mewn gweithdai a seminarau yn ymwneud â chyfiawnder i bobl llai ffodus na fi.
Erthygl enillodd Coron Hwyl yr Hogwr 2005
Gan Heulwen Thomas