Daeth Bethan yn gyntaf allan o 181 o gystadleuwyr! Yng ngeiriau'r beirniad, Mr Dewi Jones, "Bu'n gystadleuaeth dda o ran nifer, amrywiaeth, ansawdd a safon. Ond yn y lle cyntaf mae Y Dylwythen Deg am ei darlun cynnil, cywrain, cofiadwy a gwreiddiol o frwydr y blodyn deniadol am le ar ein daear ddigroeso. Dyma'r tro cyntaf erioed iddi gystadlu'n llenyddol. Yn wir, dyma'r tro cyntaf i Ysgol Bro Ogwr gystadlu a bu nifer helaeth o'r disgyblion yn llwyddiannus. Cafwyd noson wobrwyo i gyflwyno tystysgrif i bob plentyn gymerodd ran. Dyma ran o'r gerdd fuddugol. (Mae'r gerdd yn ei chfanrwydd i'w gweld yn rhifyn mis Medi o'r Hogwr.) Y Frwydr am Fywyd Hedyn fel gronyn tywod, anweledig bron, anodd dala, diymgeledd a gwan. Ond yn annibynnol, yn reddfol, yn benderfynol o fyw. ... O'r diwedd blodyn llachar, deniadol, yn torheulo'n ffroenuchel a'r frwydr ar ben.
|