Llwyddodd pencampwr dan-23 Ewrop i sicrhau ei amser gorau erioed am yr ail ddiwrnod yn olynol wrth ddod yn ail yn ei rownd gynderfynol.
"Rwyf wrth fy modd fy mod wedi cyrraedd y rownd derfynol," meddai wrth Adran Chwaraeon 91Èȱ¬ Cymru.
"Mae popeth y mynd yn oce ond rwy'n gobeithio bydd gwell i ddod," ychwanegodd.
Daeth Williams, mab cyn asgellwr Cymru a'r Llewod, JJ Williams, i'r amlwg wrth ennill aur ym Mhencampwriaethau dan-23 Ewrop yn Yr Almaen llynedd.
A llwyddodd i sicrhau ei le yn nhîm Prydain ar gyfer pencampwriaethau'r byd yn Helsinki lle cyrhaeddodd y rowndiau cynderfynol.
Ond roedd siom i'r Cymro arall yn y gystadleuaeth wedi Matt Elias orffen yn chweched yn ei rownd gynderfynol a methu â sicrhau lle yn y rownd derfynol.
|