Rob Weale, enillodd un o ddwy fedal aur Cymru yn Delhi, fu'n cario baner y Ddraig Goch yn Stadiwm Jawaharlal Nehru yn y seremoni i glo'r gemau. Gorffennodd Cymru'r Gemau gyda chyfanswm o 19 o fedalau, yr un nifer a sicrhawyd yn Melbourne bedair blynedd yn ôl.
Weale a Dai Greene gipiodd y medalau aur i ychwanegu at saith medal arian a deg efydd yr enillodd Cymru yn ystod unarddeg diwrnod o gystadlu.
Ond dyma'r cyfanswm lleiaf o fedalau aur i Gymru sicrhau ers gemau Edmonton ym 1978.
Er hynny fe ddywedodd Chef de Mission Cymru Chris Jenkins yr oedd yn fodlon iawn gyda pherfformiad y tîm yn Delhi.
"Mae pobl yn canolbwyntio ar y medalau aur ac mi fydde hi wedi bod yn dda pe byddwn wedi gallu troi rhai o'r medalau arian yn aur," meddai Jenkins.
"Ni allem fod wedi gofyn am fwy gan yr athletwyr. Fe wnaethon nhw roi popeth i geisio ennill aur.
"Ond weithiau tydi hynny ddim cweit yn ddigon.
Dywedodd Jenkins fod Gemau'r Gymanwlad yn golygu gymaint i'r Cymry.
"Tydyn nhw ddim yn cael y cyfle i gystadlu dros Gymru yn aml a 'dwi'n gwybod bod ennill wrth wisgo'r fest coch yn bwysig iawn.
"Fe welsom hynny gyda Dai Greene y Sul diwethaf."
Ychwanegodd Jenkins fod tîm Cymru eisoes yn edrych ymlaen at y Gemau nesaf a fydd yn cael eu cynnal yn Glasgow yn 2014.
"Ry' ni wedi dod yma gyda thîm eithaf ifanc ac wedi gweld perfformiadau cryf," meddai Jenkins.
"Does ond rhaid i chi edrych ar Becky James, Jazz Carlin, Jenny McLoughlin a Sean McGoldrick i weld bod gennym gystadleuwyr talentog.
"Mae hynny yn argoeli yn dda ar gyfer Glasgow 2014 a thu hwnt."
Dywedodd Jenkins fod Gemau'r Gymanwlad yn brofiad amhrisiadwy i'r cystadleuwyr fydd yn gobeithio cymryd rhan yn y Gemau Olympaidd yn y dyfodol.
"Mae amgylchedd aml gamp yn wahanol i Bencampwriaeth Byd mewn campau unigol," meddai Jenkins.
"Mae 'na fwy o bethau yn mynd 'mlaen, gyda mwy o sylw gan y cyfryngau ac amgylchedd pentref y cystadleuwyr.
"Fe fydd ein cystadleuwyr ifanc wedi dysgu gymaint o'r Gemau hyd fydd yn eu helwa'n fawr ar gyfer Gemau'r dyfodol.
Bu Jenkins hefyd yn talu teyrnged i dîm cefnogol Cymru, oedd wedi gorfod gweithio'n galed i sicrhau bod pentref y cystadleuwyr yn barod.
Bu pryderon am lendid a diogelwch cyn dechrau'r Gemau gyda Chymru ond yn cadarnhau eu presenoldeb ar ôl derbyn addewidion gan y trefnwyr.
"Mae 'na dim cefnogol hynod brofiadol wedi bod yma yn Delhi ac maen nhw wedi bod yn allweddol," meddai Jenkins.
"Hoffwn yn benodol ddiolch i'r staff wnaeth gyrraedd yn gynnar yn Delhi ac oedd yn benderfynol o ddatrys problemau er mwyn sicrhau bod y cystadleuwyr yn cyrraedd amgylchedd oedd yn eu galluogi i ganolbwyntio ar eu perfformiadau."