Gorffennodd rownd derfynol y pwysau bantam rhwng McGoldrick a Manju Wanniarachchi o Sri Lanka yn gyfartal ar bwyntiau, 7-7. Ond wedi i'r beirniaid ail gyfri'r pwyntiau fe ddyfarnwyd mai'r paffiwr 30 mlwydd oed o Sri Lanka oedd yn haeddu'r aur. Yr oedd y Cymro 18 oed wedi bod ar y blaen am y rhan fwyaf o'r ornest ond Wanniarachchi oedd yn fuddugol wedi rownd olaf gryf. Erbyn hynny roedd McGoldrick, aelod ieuengaf tîm bocsio Cymru yn Delhi a disgybl yn Ysgol Uwchradd Duffryn yng Nghasnewydd, wedi dechrau blino. "'Dwi'n siomedig ond eto'n hapus fy mod wedi ennill medal arian yng Ngemau'r Gymanwlad," meddai McGoldrick. "'Dwi wedi curo gwrthwynebwyr gwych a tydi hi ddim 'di bod yn hawdd. Fe wnes i wneud fy ngorau ond doedd hynny ddim yn ddigon. "Mae 'na lot o bobl yn y cefndir sydd wedi fy helpu i gyflawni hyn." Dyma oedd y tro cyntaf i Gymru ennill medal yn yr adran pwysau bantam ers i Howard Winstone hawlio aur yng Ngemau'r Ymerodraeth yng Nghaerdydd ym 1958. Dyma oedd medal aur cyntaf erioed Sri Lanka yn y bocsio ac aur cyntaf y wlad mewn unrhyw gamp ers 72 mlynedd. Roedd dau focsiwr arall o Gymru, Jermaine Asare yn y pwysau is-drwm a Keiron Harding yn y pwysau canol, eisoes yn sicr o fedalau efydd. Ddydd Llun yn y rowndiau gynderfynol collodd Asare yn erbyn Callum Johnson o'r Alban gyda Eamonn O'Kane o Ogledd Iwerddon yn trechu Harding.
|