91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Clebran
Einir Dafydd Einir yn ennill
Mai 2006
O fod yn gyndyn i gymryd rhan i fynd ymlaen i ennill y gyfres - mae Einir Dafydd yn sôn am y profiad o fod yn rhan o'r gyfres deledu Waw Ffactor ar S4C.
Ar y dechrau o'n i ddim mo'yn cymryd rhan yn y rhaglen Waw Ffactor o gwbl, credwch neu beidio! Roedd y clyweliadau eu hunain yng Nghaerdydd, Abertawe a'r trefi mawr eraill, felly o'n i heb feddwl am neud dim am y peth.

Ond daeth galwad ffon i swyddfa yr ysgol, yn dweud fod Caryl Parry Jones am ddod â dau gerddor gyda hi, ac am gynnal clyweliadau yn yr ysgol y diwrnod nesaf. O'n i dal ddim yn barod i gymryd rhan! Yr unig reswm wnes i oedd oherwydd mai gwers cerdd oedd gyda fi y bore hwnnw, ac yn yr ystafell honno roedd y clyweliadau yn cael eu cynnal, felly doedd dim llawer o ddewis da fi!

O'n i lan am benwythnos yng Nghaer, pan ges i alwad ffôn wrth Caryl Parry Jones, a fe wnaeth hi ddatgelu fy mod i wedi ei gwneud hi i mewn i'r 20 olaf. Dwi'n dal, nes y diwrnod hwn yn cael fy mhoeni am fy ymateb di-gyffro i'r newyddion!

Wnes i ddim cyffroi yn lân o gwbl; yn anffodus, o'n i'n fwy ofnus na hapus i ddweud y lleiaf. O'n i ddim ishe y wlad gyfan i 'ngweld i yn canu o flaen y beirniaid, gyda nhw yn fy meirniadu yn llym! O'n i wir ddim yn gwbod beth i neud! Ond fe wnes i feddwl am y cannoedd o bobl eraill a oedd wedi cael clyweliad, ac yn ysu am y siawns o fod yn yr 20 olaf, o'n i ddim ishe bod yn anniolchgar, felly fe es i amdani.

Yng Nghanolfan y Mileniwm oedd rownd 1 a 2 yn cael eu cynnal ac efallai dyma'r rowndiau mwyaf anodd a'r rhai roeddwn yn teimlo fwyaf nerfus gan nad o'n i yn nabod neb bron a'r sefyllfa ei hunan mor ddierth i fi.

Roedd rowndiau 3-5 yn stiwdio Enfys, yn y bae yng Nghaerdydd. Roedd canu mewn stiwdio teledu'n brofiad hollol newydd i fi, ac ar y dechrau o'n i ddim yn hoffi'r camerâu o gwbl, ond o'n i'n dod i arfer gyda chamera ym mhob man o'n i'n mynd erbyn y diwedd! Wrth gwrs ar gyfer y ffeinal fe wnaethom ni symud i stiwdio llawer iawn yn fwy, ac o'dd hwnna yn HTV, Croescwrlwys. Dim ond ar gyfer y ffeinal y cawsom ni wersi dawnsio, a fues i'n fwy lwcus na'r ddau arall, o'n i wedi cael y siawns i ddod nôl â'r gitâr unwaith eto, ac o'dd hynny'n grêt!

Y cerddorion oedd yn dewis y caneuon ar gyfer pawb yn y gystadleuaeth. Mae gen i ddau ffefryn o'r gyfres, yn gyntaf "Y Garreg Las" a gyfansoddwyd gan enillydd Cân i Gymru eleni, sef Ryland Teifi. O'dd hi'n brofiad anhygoel i gydweithio gydag un o gyfansoddwyr mwyaf blaenllaw Cymru, ac o'n i'n dwli ar y gân! Y ffefryn arall oedd y gân gyntaf wnes i ganu yn y ffeinal, sef "Rhywun fel ti. " Cyfieithiad yw hon wrth gwrs, ond mae hi'n yffach o gân dda! Allen i ddim fod wedi gofyn am well! Allwn i chwaith fod wedi gofyn am well hyfforddwraig canu na Caryl ParryJones.

Dwi'n dal i gredu fod rhaniad ym mhanel y beirniaid, o ran y ddau a oedd o'm mhlaid i a'r ddau arall o blaid Aimee. Teimlaf mai Bethan Elfyn a Huw Chiswell oedd fwyaf cefnogol ohona i yn ystod y gyfres, ond mae'r pedwar ohonynt yn bobl neis a chyfeillgar iawn mewn gwirionedd. Hefyd yn ystod y rowndiau a oedd wedi cael eu recordio o flaen llaw (sef pob un ohonynt heblaw'r ffeinal) roedd adborth y beirniaid yn parhau llawer yn hirach na beth weloch chi adre' ar y rhaglen. Cefais adborth positif iawn wrth Owen Powell yn un o'r rowndiau ond wnaethon nhw ddim ei ddangos ar y rhaglen.

Einir Dafydd Ar ôl cael ein torri lawr i 8, roedd pawb wedi adeiladu perthynas agos iawn, ac roedd nifer o bobl a oedd yn gweithio ar y rhaglen, tu ôl i'r camera yn dweud mai ni oedd y criw agosaf oedden nhw erioed wedi cael ar y gyfres. Dwi ddim yn siŵr pam, efallai oherwydd ein bod ni i gyd mor ifanc.

Roedden ni wedi gorffen recordio pob rhaglen erbyn dechrau mis Chwefror, cyn i'r gyfres hyd yn oed ddechrau ar y teledu, ac felly roedd y tri ohonom a oedd ar ôl, yn gorfod aros am amser hir iawn, iawn, cyn y cam nesaf. Gan fod gymaint o amser gyda ni, fe wnaethom ni ddod hyd yn oed yn fwy o ffrindie, gan fod mewn cysylltiad gyda'r ddau bron bob dydd, drwy decst!

Cyn i'r ffeinal fynd yn fyw drwy Gymru gyfan, roedd y pili palas yn hedfan yn wyllt yn fy stumog, fy ngheg yn sych grimp ond roedd y ddau arall yn hollol cŵl, felly i'r gwrthwyneb ag o'r blaen, fi o'dd yr un cŵl i fod! Unwaith roedd y gân gyntaf "Crazy Horses" drosodd, roedd y nerfau wedi diflannu ac fe wnes i fwynhau'r profiad o fod yn rhan o raglen fyw, am y tro cyntaf erioed, i'r eithaf.

Dwi wedi dechrau recordio fy sengl erbyn hyn, a fydd allan yn Eisteddfod yr Urdd, Sir Ddinbych. Ar y sengl mae "W Capten" gan Eliffant, "Y Garreg Las" gan Ryland Teifi, ac mi fydd un gân newydd sbon arni, ond allai ddim a datgelu beth yw honno eto. Felly gobeithio bydd hi'n gwerthu yn dda!

Dwi ddim yn siŵr ar hyn o bryd beth fydd yn digwydd yn y tymor hir. Wrth gwrs, hoffen i barhau i berfformio, ond rywffordd dwi ddim yn credu fyddai yn gallu gwneud bywoliaeth allan ohono.

Bydd y profiad yma yn aros yn y cof am amser hir, ac mae wedi bod yn daith hir, ond allai ddweud yn onest, nad ydw i'n difaru dim! Er mod i'n amau ar y dechre, rwy'n falch iawn mod i wedi cymryd y cyfle gan i'r profiad fod yn ffantastig.

Diolch i bawb a wnaeth fy nghefnogi, yr holl alwadau ffôn yn y ffeinal, roedd pob un ohonynt yn cyfri! Diolch hefyd am yr holl alwadau ffôn, pob tecst a chardiau di-ri wedi'r rhaglen. Diolch yn fawr!

Einir Dafydd


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r 91Èȱ¬ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý