91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Clebran
Clwb Ffermwyr Ifanc Eglwyswrw Clwb Ffermwyr Ifanc Eglwyswrw
Chwefror 2006
Misoedd prysur i Glwb Ffermwyr Ifanc Eglwyswrw.
Bu'r misoedd diwethaf yn rhai prysur i'r clwb. Cynhaliwyd Noson Gwis Eglwyswrw, gyda'r clwb yn cystadlu yn erbyn CFFI Martletwy. Mr Stephen Phillips oedd wedi paratoi'r cwestiynau ac yn holi'r ddau dîm.

Roedd y gystadleuaeth yn agos iawn gyda Martletwy yn fuddugol ac yn mynd ymlaen i'r rownd nesaf. Bu Eglwyswrw hefyd yn cymeryd rhan yn Eisteddfod CFFI Sir Benfro a gynhaliwyd yn Theatr y Gromlech. Buont yn fuddugol mewn sawl cystadleuaeth ac Eglwyswrw gipiodd y cwpan am y clwb â'r mwyaf o farciau yn yr adran gwaith cartref. Daethom yn gydradd cyntaf - hefyd am y clwb â'r marciau uchaf, gyda Llysfran yn rhannu'r wobr. Fe fu'r clwb yn llwyddiannus yn sawl cystadleuaeth ac roedd y rhain yn mynd ymlaen i Eisteddfod CFFI Cymru a gynhaliwyd yn Sir Fôn.

Llongyfarchiadau i'r canlynol a fu yn llwyddiannus yn Sir Fôn; Rhunedd George a ddaeth yn drydedd yn y gystadleuaeth adrodd dan 26, Sara Edwards a ddaeth yn drydydd yn y gystadleuaeth adrodd dan 26 oed, Sara Edwards a ddaeth yn drydydd am gyfansoddi cân i eiriau Cân y Cadeirio, ac hefyd aelodau'r clwb a ddaeth a ddaeth yn drydydd yn y Cywaith Clwb.

Cynhaliwyd cystadlaethau siarad cyhoeddus ym mis Hydref a gwnaeth y clwb gystadlu mewn sawl gwahanol categori. Bu'r Aelodau o dan 14 oed yn fuddugol yn y gystadleuaeth Gymraeg, a daeth yr aelodau o dan 16 ac o dan 21 yn ail.

Ymunodd y Clwb gydag aelodau Eglwys St Cristiolus, Eglwyswrw i gynnal cyfarfod Diolchgarwch. Cymerwyd rhan gan sawl aelod o'r clwb a rhoddwyd y casgliad i 'Tearfund'. Yn ystod y misoedd diwethaf cynhaliwyd sawl Gyrfa Chwist a rhoddwyd yr arian a godwyd i elusennau lleol. Dros adeg y Nadolig cynhaliwyd noson Fingo a bu'r aelodau hefyd allan yn canu carolau, gan godi £350 i Tenovus.

Cynhaliwyd sawl cyfarfod diddorol hefyd. Daeth yr aelodau ynghyd i ddathlu'r calan gaeaf ym mis Tachwedd ac yn ystod mis Rhagfyr cynhaliwyd noswaith chwaraeon yng Nghanolfan Chwaraeon Crymych, a noswaith addurno boncyff Nadolig. Bu aelodau hynaf y Clwb hefyd yn mwynhau noswaith o ddawnsio a chymdeithasu yn Dawns Frenhines Sir Benfro, a gynhaliwyd yn Ninbych y Pysgod.

Bydd yr aelodau yn paratoi ar gyfer y gystadleuaeth bantomeim a chynhelir ym mis Mawrth, dros yr wythnosau nesaf. Mae'r clwb yn dathlu pen-blwydd arbennig yn 50 oed eleni. Gwhoddir cyn aelodau a ffrindiau i ymuno yn y dathliadau fydd yn cael eu cynnal eleni.


Cyfrannwch

geraint
waw


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r 91Èȱ¬ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý