Recriwtiwyd pedwar myfyriwr sydd wedi cwblhau cyrsiau yn y coleg, fel wardeiniaid tymhorol gyda thimau Cynnal a Chadw Safleoedd a Llwybr yr Arfordir y Parc.
Ac, am y tro cyntaf, recriwtiwyd merched i'r timau awyr agored - Emily Hills, o Slebech, a Sian Davies, o Houghton. Maen nhw, a'u cydweithiwr Jonathan Copp, o Gilgeti, newydd gwblhau cwrs cadwraeth amgylcheddol gyda chymhwyster CGC Lefel II. Y pedwerydd 'recriwt' yw Joel Kemp, o Hwlffordd, sydd wedi cwblhau cwrs ar yr ardal arfordirol yn y Coleg yn flaenorol.
Yn ogystal ag amrywiaeth eang o dasgau gwaith gyda thimau'r Parc, mae'r myfyrwyr hefyd yn dilyn sawl cwrs hyfforddiant a fydd yn rhoi cymwysterau ychwanegol iddynt cymwysterau y mae cyflogwyr potensial yn chwilio amdanynt.
Fe ddywedodd Steve Brick, Swyddog Technegol Awdurdod y Parc, "Ers dechrau gyda ni, maen nhw wedi ennill tystysgrifau a gydnabyddir yn genedlaethol am drafod darnau amrywiol o offer fel torrwr brws a thorwyr ffustio. Mae'n profi'n gysylltiad llwyddiannus iawn gyda'r Coleg ac mae wedi datblygu trwy aelodaeth yr Awdurdod o Banel Cyswllt Diwydiannol Coleg Sir Benfro."
Roedd y cwrs diweddaraf, a gynhaliwyd ar safle'r Parc Cenedlaethol yn St Brides, yn gwrs ar ddefnyddio torwyr tractor lawnt. Fe aeth yr hyfforddwr Keith Coldwell, o Gylch Peiriannau Sir Benfro, sydd wedi cael cydnabyddiaeth gan Lantra, a'r myfyrwyr trwy'r gweithdrefnau gan ddefnyddio torwyr arbennig Awdurdod y Parc
Cenedlaethol sy'n gyfeillgar i'r amgylchedd. Mae'r torwyr, yr ydych yn eistedd arnynt i'w defnyddio, yr cael eu pweru 100% gan fio diesel.
Fe ddywedodd Jonathan Copp:
"Doeddwn i ddim yn disgwyl i'r gwaith fod mor amrywiol nac yn disgwyl cael gymaint o hyfforddiant fe rhan o'r gwaith. Mae'n ein helpu i feithrin y profiad a'r cymwysterau mae cyflogwyr potensial yn chwilio amdanynt, ac rydyn ni'n dysgu cymaint gan aelodau eraill ein timau hefyd."
|