Fel ei gyndeidiau dros genedlaethau, gof yw John Gomer Williams ym Mhencaer, Wdig. Gwr y mae Gorsedd y Beirdd a'r Eisteddfod Genedlaethol, yn fawr eu dyled iddo.
Bu'n Gadeirydd Pwyllgor yr Orsedd, Eisteddfod Abergwaun 1986 ac yn Is-Gadeirydd Pwyllgor yr Orsedd yn Nhyddewi 2002. Bu'n gyfrifol am ddod o hyd i feini'r Cylch yn y ddwy Eisteddfod. Ef hefyd a drefnodd atgyweirio'r union injan a dynnodd feini'r Cylch i'w lle yn Eisteddfod Genedlaethol Abergwaun 1936 a'i defnyddio i wneud y gwaith eto yn Eisteddfodau 1986 a 2002.
Dyn ei filltir sgwâr Yn ogystal â'i gyfraniad cenedlaethol, mae'n ddyn ei filltir sgwâr. Ef yw Cadeirydd Cyngor Cymuned Pencaer ac o dan ei ddylanwad ef y mae'r Cyngor wedi parhau i weithredu trwy gyfrwng y Gymraeg.
Yn Eisteddfod flynyddol Rhys Thomas James, Llanbedr Pont Steffan 1999 enillodd y newyddiadurwr Hefin Wyn Fedal yr Wyl gyda'i bortread o John Gomer Williams.
Mewn cyfweliad dywedodd yr awdur: "Cefais fy swyno gan wybodaeth Jac o hanes a chwedloniaeth bro ei febyd a'i frwdfrydedd i rannu'r cyfoeth hwn gyda'r llu o ymwelwyr a ddaethai ar drywydd hanes y Ffrancod, a hynny yn syml ac yn ddirodres trwy gyfrwng ei famiaith, sef tafodiaith goeth Pencaer."
Y mae ymdrech oes John Gomer Williams i warchod iaith a diwylliant Pencaer yn nodedig. Iddo ef a'i debyg y mae'r diolch am barhad traddodiadau gorau'r bywyd Cymreig mewn ardaloedd gwledig fel Carreg Wastad a Phwllderi a Phencaer.
Anrhydeddu baswr enwog Pleser mawr hefyd yw gweld enw'r baswr enwog Eirwyn Charles, Llundain, yn enedigol o Glasfryn, Y Sgwâr, ger Trefin, yn y rhestr o bobol fydd yn cael eu hurddo â'r wisg werdd.
Cafodd Eirwyn ei addysgu yn Ysgol Ramadeg Tyddewi (Ysgol Dewi Sant) a Choleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, lle graddiodd mewn mathemateg. Bu'n athro mewn amryw o ysgolion gan gynnwys Genefa.
Mae wedi canu dros y byd, ac wedi sefydlu cwmni opera sef 'Y Cwmni Opera Rhyngwladol Newydd' gyda'r bwriad o ddod ag opera i fannau lle na cheir cyfle i glywed operâu gan gwmnïau mawr.
Enw adnabyddus Mae enw Alun James, Cilgerran, yn adnabyddus i bawb sy'n mynychu Nosweithiau Llawen y sir, ac ar y teledu.
Ffermwr wrth ei alwedigaeth gwr a gafodd y fraint o dreulio'i oes yn yr un ardal ac yn ffermio'r un fferm.
Yn 1986 bu'n cystadlu am y tro cyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol Abergwaun, lle y cipiodd y wobr gyntaf yng nghystadleuaeth yr Adroddiad Digri. Mae hefyd yn ddiacon a chyn-Ysgrifennydd Eglwys y Bedyddwyr Peniel, Cilgerran. Llongyfarchiadau iddo ef hefyd ar gael y wisg werdd.
Bardd cynhyrchiol Yr un llongyfarchiadau i W. Reggie Smart, Llandudoch, a anwyd ym Mhantygwyddel, Llanfyrnach, Sir Benfro.
Wedi mynychu dosbarth Gweithdy'r Bardd o dan gyfarwyddyd y Prifardd Eirwyn George, trodd yn fardd cynhyrchiol iawn, gan ennill saith cadair mewn gwahanol eisteddfodau, nifer o wobrau yn Eisteddfod Gwyl Fawr Aberteifi yn cynnwys y Soned wyth o weithiau, y Faled dair gwaith a'r gerdd dafodiaith bedair gwaith.
|