Ddydd Sadwrn, 28ain o Fehefin, mentrodd un ar ddeg ar hugain o feicwyr dewr ar daith seiclo noddedig yn enw Adran Iau Clwb Rygbi Crymych. Bwriad y daith oedd codi arian at Ymatebydd Cyntaf Crymych ac Ambiwlans Awyr Cymru sydd wedi bod o gymorth mawr i chwaraewyr ifanc y clwb dros sawl blwyddyn bellach.
Trefnwyd y diwrnod gan Euros Edwards a Kevin Phillips gyda chymorth parod nifer o bentrefwyr a noddwyr Ileol ynghyd ag aelodau'r Clwb Rygbi. Shelley Reynolds fu'n gyfrifol am y gwaith papur - posteri, ffurflenni noddi ac ati a diolch iddi am ei chymorth. Noddwyd y crysau T gan Teiars Evans (Hermon), Tudur Lewis Saer Coed, Cwmni Ardion (Eifion Howells a Richard Williams) ac 'EPL designs'.
Yn ogystal bu Carwyn Teiars a Carwyn Cbs (J.K.) yn gymorth mawr ar hyd y daith. Roedd Carwyn Clos a'i fwndel o fananas yn olygfa cyfarwydd ar hyd yr hewl rhwng Tregaron a Chrymych. Diolch yn fawr iddo am el fananas, ei jôcs a'i gefnogaeth.
Cafodd y beics eu carto gan Kevin Coynant i'r man cychwyn yn Nhregaron - llwyth o feics yn lle llwyth o dda yn yr horsbocs. Diolch i Brian Garej am lenwi'r tanc. Dymuna'r bois ddiolch i Midway Motors hefyd am roi defnydd o fws yn rhad ac am ddim er mwyn cludo'r seiclwyr i Dregaron - a diolch i Tudur am ddreifio'r bws! Bu cymorth Elvis a Lyn hefyd yn werthfawr wrth gyfarwyddo'r seiclwyr ar hyd yr hewl, tynnu lluniau a rhoi gair o gefnogaeth i'r coesau blinedig.
Bu dynion tân gorsafoedd Tregaron, Llandysul a Chastell Newydd Emlyn yn ddigon parod i agor y drysau ar gyfer cynnig lle diogel i'r beicwyr orffwyso a stwffio rhagor o fananas Carwyn!!
Mae'n debyg mai rhiw Llechryd a brofodd i fod yr un mwyaf twff i'r beicwyr, gyda sawl un yn ildio ac yn disgyn oddi ar ei feic i gerdded. Cyrhaeddodd y seiclwyr nôl yn un carfan blinedig tua 4.30 o'r gloch ar sgwâr Crymych i gymeradwyaeth ffrindiau a chefnogwyr. Diolch i'r menywod a wnaeth baratoi bwffe yn y clwb i bawb a gymerodd ran - roedd hi'n braf cael rhywbeth teidi i'w fwyta ar ôl yr holl fananas!
Llongyfarchiadau i'r holl feicwyr ar eu camp - o'r ifancaf i'r hynaf, o'r profiadol i'r rhai hollol dibrofiad a gobeithio bod y penolau'n well erbyn hyn! Dymuna Kevin ac Euros ddiolch i bawb sydd wedi noddi'r seiclwyr a gobeithir derbyn yr hol arian i law erbyn Gorffennaf 10fed er mwyn trosglwyddo'r sieciau i'r Ymatebydd Cyntaf a'r Ambiwlans Awyr yn y dyfodol agos. (A gyda llaw, os ych chi eisie prynu bananas, sdim lot ar ôl yn J.K. wes e,Carwyn ?!!)
|