Ef yw un o'r diweddaraf ar y rhestr honno, gan mai ef yw pencampwr presennol rasio ceir 500cc Prydain, a deilydd Tlws John Parker am y gyrrwr gorau yn ei ddosbarth. Rasio ceir hanesyddol lan bryniau yw camp Alistair ac mae'n teithio ledled Prydain i rasio ei Hornet JAP gan hyd yn oed gystadlu yn erbyn ei dad!
Dechreuodd rasio ceir 500cc yn 1946, fel ffordd o geisio annog rasio ceir rhatach, drwy ddefnyddio injan beiciau modur 500cc yn lle peiriannau mwy pwerus. Yna, dechreuodd cystadlaethau rhyngwladol Fformiwla 3 yn 1950.
Mae llawer o enwogion y byd rasio wedi defnyddio ceir 500cc gan gynnwys Stirling Moss a Ken Tyrrell, a bellach mae Mudiad Perchnogion y 500 yn hyrwyddo rasio a dringo bryniau i geir hanesyddol a rhai modern.
Mae rasio ceir yng ngwaed Alistair, gan fod ei dad John hefyd yn yrrwr brwd. "R'on i'n cael fy llusgo i ble bynnag oedd e'n mynd!" meddai Alistair. "Cynigodd e i fi yrru ei gar sbâr ryw bymtheg mlynedd yn ôl, a ddechreues i gystadlu."
Wrth i ddiddordeb Alistair gynyddu, ac wrth iddo brofi llwyddiant wrth rasio fe brynodd ei gar ei hun, sef Hornet JAP a adeiladwyd yn 1948. Er iddo rasio mewn cystadlaethau 4x4 traws gwlad, y ceir 500cc oedd yn apelio fwyaf ato, ac mae ei ymroddiad i rasio a pharatoi ar gyfer rasus wedi talu ar ei ganfed.
"Roedd e'n deimlad da i ennill" Alistair. "Roedd e'n dymor lle casglodd y car bwyntiau'n rheolaidd, a hwnnw enillodd y bencampwriaeth i fi."
Erbynn hyn mae modd rasio lan bryniau yn Sir Benfro hefyd, gyda ras yn cael ei chynnal ym Mharc Gwledig Llysyfran. Enillodd Alistair y ras hon eleni, a gorffen gyda'r amser cyflymaf erioed am ddringo rhiw troellog Llysyfran, a hynny o dros ddwy eiliad!
"Roedd e'n deimlad arbennig i ennill y ras 'na" meddai Alistair, "yn enwedig gan ei bod hi'n cario pwyntiau ar gyfer y bencampwriaeth, a gan ei bod yn ras leol i fi."
Mae Alistair wedi cael cryn dipyn o lwyddiant dros y tymor diwetha' ond dyw pethau ddim yn fêl i gyd bob tro. Unwaith, fe deithiodd i Ddyfnaint ar gyfer penwythnos o rasio lan bryniau, a chael damwain ar y bore cyntaf.
"Wnes i fwrw mewn i'r bancyn ar y bore Sadwrn, a dyna ddiwedd rasio'r dydd i fi, " meddai. "Wnes i niwed i'r suspension blaen ond ffeindies i ddarnau sbâr yng Nghernyw felly wnes i yrru rhyw militir i gasglu'r darn a'i ffitio fel bod popeth yn barod i rasio erbyn y bore Sul! Des i'n ail hefyd!"
Gyda'r tymor newydd wedi dechrau a'r llwyddiant yn Llysyfran eisioes wedi'i sicrhau, mae Alistair yn gobeithio am fwy o lwyddiant eleni.
"Byddai mwy o'r un peth yn dda!" meddai Alistair gan chwerthin."Dw i'n gobeithio ennill y bencampwriaeth eto a chael llwyddiant yn y bencampwriaeth gwibio hefyd."
Pob lwc i Alistair dros y tymor sydd i ddod a gobeithio y daw mwy o gwpanau a llwyddiant i'r raswr o Rosebush!"