Gwneir tri gosodiad syfrdanol yn yr erthygl gan Emyr Llywelyn.Yn gyntaf, dywedir bod y Cymry wedi dod yn wreiddiol o Siberia o ardal Llyn Baikal yn adeg Oes y Cerrig tua 30,000 o flynyddoedd yn ôl.Yn ail, hawlir bod Indiaid America, y Basgiaid, y Gwyddelod a'r Albanwyr Gaelaidd yn ogystal â llwyth sy'n byw yn Siberia, sef y Ketiaid, yn frodyr gwaed i'r Cymry.Yn drydydd, honnir bod y cromosomau yn datgelu mai'r Cymry oedd trigolion gwreiddiol Ynys Prydain ac iddyn nhw ddioddef glanhau ethnig pan oresgynnodd y Sacsoniaid y wlad ar ôl i'r Rhufeiniaid ymadael, sef yn y bumed a'r chweched ganrif. Prif sail y dystiolaeth yw astudiaeth o'r cromosom Y - sef y cromosom sy'n cael ei drosglwyddo o'r tad i'r mab.
Mae'r erthygl yn dyfynnu'r genetegydd o Gymro Steve Jones a gyhoeddodd yn ei lyfr "Y - The Descent of Man",
"Mae'r cromosomau yn datgelu cyswllt hynafol rhwng pobl Cymru a brodorion America. Yng Nghymru mae naw allan o bob deg dyn yn cludo rhyw fersiwn o haplogrwp 1 ... mae un is-deip yn gyfrifol am 70% o gromosomau gwryw... Mae brodorion America wedi eu cysylltu gyda phobl Cymru drwy eu cromosomau.
Roedd eu disgynyddion yn y de pell, pan groesawon nhw yr ymfudwyr ar y llong Mimosa, o ganlyniad (a heb yn wybod) yn cymryd rhan mewn aduniad teuluol". Pobl arall sy'n meddu ar yr un cromosomau Y â'r Cymry yw'r Basgiaid.
Yn ôl yr Athro David Goldstein o Goleg Prifysgol Llundain, "Yn ystadegol does dim modd gwahaniaethu rhwng cromosomau Y y Basgiaid a'r Cymry". Mae'r Basgiaid felly yn tarddu o'r un helwyr Palaeolithig â'r Cymry ac fel y Cymry fe gadwon nhw eu hunaniaeth genynnol. Ond yn wahanol i'r Cymry fe lwyddon nhw i gadw eu hiaith wreiddiol, iaith sy'n wahanol i bob iaith arall yn Ewrop. Roedd y Cymry a'r Basgiaid felly yn ddisgynyddion i'r Ewropeaid cynharaf, sef yr helwyr Paleolithig o Siberia a ddaeth i Ewrop yng nghyfnod enciliad yr iâ.
Mae arwyddocâd y darganfyddiadau hyn i hanes Cymru yn aruthrol. Ystyr hyn yw y bydd yn rhaid ailysgrifennu hanes cynnar Cymru yn llwyr.
Y ffaith drawiadol gyntaf yw fod ein gwareiddiad yn llawer hyn nag a dybiwyd. Nid rhywbeth a ddaeth i fodolaeth drwy fewnlifiad Celtaidd rhyw ychydig filoedd o flynyddoedd cyn Crist ydyw ond rhywbeth y mae ei wreiddiau yng Nghymru a Phrydain yn tarddu o Oes y Cerrig tua 30,000 o flynyddoedd yn ôl.
Yr ail ffaith drawiadol yw fod y dystiolaeth enynnol yn dangos fod y Cymry wedi bod yma ers Oes y Cerrig ond yn bwysicach fyth yn dangos na fu unrhyw doriad ym mharhad yr hen wareiddiad cynnar hwnnw - dim ond newid graddol a chymathu dylanwadau newydd. Rydyn ni heddiw yn etifeddion diwylliant sy'n barhad gwareiddiad sy'n llinyn di-dor ers dyddiau'r helwyr cyntefig.
Credodd yr haneswyr mai cwbl amherthnasol yn hanes Cymru fu'r helwyr cynnar ac na fu iddynt unrhyw barhad ac mai tonnau o fewnfudwyr diweddarach a greodd hanfod ethnig y Cymry. Meddai Glyn Daniel, "Efallai fod gwaed rhai o'r bobl (Paleolithig) hyn yn dal i lifo yn ein gwythiennau, ond nid oes un ffordd y medren nhw fod wedi bod yn elfen ethnig pwysig ym mhoblogaeth Cymru."
Diolch i ymchwil DNA fe wyddom erbyn hyn mai'r gwrthwyneb sy'n wir - gwaed ein cyndadau Paleolithig - gwaed yr helwyr cyntefig - yw'r brif elfen ethnig ym mhoblogaeth Cymru yn ôl tystiolaeth cromosomau. Yn ôl Steve Jones yr helwyr cyntefig yw'r brif elfen ethnig yng nghyfansoddiad y Cymry.
Yng Nghymru mae naw o bob deg dyn yn cludo rhyw fersiwn or haplogrwp 1, Is-deip unigol sy'n gyfrifol am 70% o gromosomau gwryw Cymry (sy'n rhoi i'r genedl yr hunaniaeth wryw fwyaf cydryw (homogeneous) yn Ewrop.
Y Cymry yn dioddef glanhau ethnig yn yr Oesoedd Tywyll.
Mae'r cromosomau nid yn unig yn adrodd ein hanes cynharaf ond hefyd yn rhoi darlun i ni o'r hyn a ddigwyddodd yn y cyfnod wedi cilio o'r Rhufeiniaid o Brydain. Awgryma tystiolaeth y genynnau bod math o lanhau ethnig wedi digwydd gyda rhwng 50% a 100% o boblogaeth wreiddiol Prydain wedi eu lladd neu eu dadleoli gyda Chlawdd 'Offa' yn gweithredu fel "rhagfur genynnol" yn amddiffyn y Cymry rhag dinistr llwyr.
Mae ysgolheigion o Ganolfan Anthropoleg Genynnol Prifysgol Llundain wedi cymharu dynion o Brydain gyda dynion o'r Iseldiroedd sef tarddiad tebygol y Sacsoniaid. Dewisodd yr ymchwilwyr saith tre sy'n cael eu henwi yn Llyfr Doomesday ac astudio 3,123 o wirfoddolwyr yr oedd eu tad-cu ar ochr eu tad wedi dod or ardal honno.
Ar sail hyn mae'r arbenigwyr yn awgrymu bod yna oresgyniad anferth o boblogaeth EinglSacsonaidd wedi bod a ddinistriodd y boblogaeth frodorol yn Lloegr yn llwyr, ond ir Cymry oroesi'r dinistr.
Yn ôl Dr Mark Thomas o Goleg Prifysgol Llundain "Maen ymddangos bod Lloegr wedi ei chreu gan ddigwyddiad glanhau ethnig gan bobl yn croesi o'r cyfandir ar ôl i'r Rhufeiniaid adael."
Seiliedig ar "Y Cromosomau yn Ailysgrifennu Hanes Cynnar y Cymry" gan Emyr Llywelyn: Rhif 26 o'r Faner Newydd Hydref 2003