Dyna eiriau'r Prifardd Jâms Nicolas o'i gywydd i Waldo a ddarllenodd adeg dadorchuddio'r gofeb i'r bardd ar gomin Rhos-fach ar 20 Mai 1978. Beth oedd cysylltiad Waldo â phlwyf Mynachlog-ddu a pham codi'r gofeb yn y llecyn hwn mwy nag yn rhywle arall?Cwta dair blynedd y treuliodd Waldo o fywyd ei blentyndod yn y plwyf. Ond mae tair blynedd yn amser hir ym mywyd plentyn a gall dylanwadu'r gymdeithas y megir ef ynddi dreiddio yn ddwfn i'w gyfansoddiad. Felly yn hanes Waldo. Daeth ei deulu i fyw yma yn 1911 pan benodwyd ei dad John Edwal Williams yn brifathro yr ysgol gynradd. Daeth cyfnod ei dad yn yr ysgol i ben yn Ionawr 1915, a gwelwyd y teulu yn symud i Landysilio. Buont yn byw yn Hwlffordd, lle cafodd Waldo ei eni yn Medi 1904 cyn symud i Fynachlog-ddu.
Gan mai Saesneg oedd prif iaith yr aelwyd mae'n rhaid mai ychydig o Gymraeg a wyddai'r plentyn seithmlwydd cyn symud i'r fro uniaith Gymraeg fel yr oedd mwy neu lai y pryd hynny. Ar iard yr ysgol gyda'r plant uniaith y daeth yn gyfarwydd â sŵn yr iaith ac yng ngeiriau B. G. Owens Aberystwyth (un o deulu Allt-y-gog) "hawl bennaf Mynachlog-ddu i glod yr oesoedd oedd dysgu Cymraeg i Waldo Williams." Cyfres y Meistri 2, golygydd Robert Rhys, Gwasg Christopher Davies, Abertawe. Crisialodd ei brofiad o ddod yn ymwybodol o'r iaith mewn cerdd gynnar o'i eiddo a ganodd yn 1927 o'r enw 'Yr iaith a Garaf'.
"Pan oeddwn blentyn seithmlwydd
oed
Dy lais a dorrodd ar fy nghlyw.
Fe lamaist ataf, ysgafn droed,
Ac, wele, deuthum innau'n fyw."
Mae'n gorffen y gerdd gyda'r pennill hwn,
"O, am dy ddwyn o'th wely claf.
O, n a chawn nerth i'm braich
gan Dduw.
Ond er fy ngwanned, tyngu wnaf
Na chei di farw tra bwyf byw."
Seren Gomer Gaeaf 1978.
Do, anwylodd yr iaith a gweithiodd yn ddygn drosti tra bu byw ac yn fwy na hynny, rhoes i'r oesoedd a ddêl drysor, drwy gyfrwng ei gyfrol o farddoniaeth 'Dail Pren', y bydd rhyfeddu a dotio arni tra pery'r iaith.
Yn 1936 dychwelodd Waldo i Fynachlog-ddu pan oedd yn athro cylchdeithiol i gymryd lle E. T. Lewis yr ysgolfeistr a gafodd ddamwain a'i rhwystrodd rhag gweithio am gyfnod hir. Bu Waldo yno am dri mis. Lletyai ar aelwyd E. T. Lewis ym Mryncleddau yn ystod y cyfnod hwn a cofia Beti Davies, Penrallt(sydd led cae o Bryncleddau) amdano yn ymweld droeon ag efail ei thad Morris Davies. Câi Waldo'r dasg o chwythu'r fegin. Mae gan Beti gof plentyn amdano fel athro. "Wedd stampen fach i gâl 'na, cofia," meddai, ond roedd yn ddigon cymodlon i gynnig losinen iddi hi a'i ffrind wedi i Waldo "hwrnu uwch ein penne ni am siarad yn dosbarth, wên ni'n ddigon drwg, cofia di."
Cofia Eric John, Dolaunewydd, a oedd hefyd yn ddisgybl yn yr ysgol ar y pryd, am Waldo yn eu cyfarwyddo mewn ffug-etholiad, adeg yr Etholiad Cyffredinol olaf cyn yr ail Ryfel Byd.
Diddorol nodi bod Waldo wedi dychwelyd i'r ysgol flynyddoedd yn ddiweddarach i gynnal cyfarfod pan safai fel ymgeisydd Plaid Cymru dros Sir Benfro yn 1959.
Rhwng 1951 a 1963 bu'n athro Dosbarthiadau Nos Adran Efrydiau Allanol, Aberystwyth a deuai yn ei dro i gynnal dosbarth yn ysgol Mynachlog-ddu. Medrai fod yn orchestol wrth draddodi ei ddarlith. Byddai'n aros ym Mryncleddau yn achlysurol hyd ei flynyddoedd olaf. Cofia Haydn Parry, gwas fferm Penrallt, y pryd hynny, am Waldo yn galw yn y glowty, lle gynt bu'r efail, ar ei ffordd i mofyn llaeth o stand Fferm-y-Capel.
Fel y tystia ei waith a'i weithredoedd ac atgofion ei gyfoedion a'i ffrindiau amdano yr oedd Waldo yn gyfuniad rhyfeddol o'r dwys a'r digri. Un o'i weithiau cynnar eto a gyhoeddwyd yn y gyfrol 'Chwilio am Nodau'r Gân' gan Robert Rhys, Gwasg Gomer, yw 'Awdl i Ddynion Mynachlog-ddu gyda'r sylw 'Mewn serch ac nid mewn gwawd' mae'n rhaid nodi! Cwpledi yn chwarae ar enwau pentrefi'r ardal yw'r darn ac mae'n gorffen fel hyn.
"Pe bai odl mewn grym
(Peth da bod e ddim)
Wrth dalu'r degwm
I Fishtir Rhigwm
Heb ddim hwmbwgan
Fel dynion Tre-wgan
A'r sir yn seigen
Mewn wyth awr a deigen
A byddai pobl Mynachlog-ddu
Yn gofyn cyn pen mis 'Beth sy?"
Cyfeiriad hwyrach at natur hamddenol y trigolion yn ei ddydd. Mae'n beth da cofnodi ein bod fel ardalwyr wedi codi'n ddigon cynnar eleni i drefnu gweithgareddau i ddathlu canmlwyddiant ei eni ac ni fydd raid i neb gobeithio, ofyn 'Beth sy'?! Wrth ysgrifennu'r geiriau hyn daw u n o'i linellau i'r meddwl 'Pa ddwli' nawr sydd ar y grwt?!'
Yn 1946, yn dilyn yr Ail Ryfel Byd, cyhoeddodd Swyddfa Ryfel Llywodraeth Prydain ei bod am feddiannu 16,000 o erwau'r Preseli. Gyda gwrthwynebiad cadarn y trigolion o dan arweiniad R. Parri Roberts, gweinidog Bethel, a phregethwyr ac arweinwyr eraill y fro, ataliwyd bwriadau'r swyddfa. Dyma'r cefndir a ysgogodd Waldo i ganu ei gerdd "Preseli' sydd yn cloi gyda'i un o'i linellau enwocaf
"Cadwn y mur rhag y bwystfil,
cadwn y ffynnon rhag y baw."
Wrth sôn am y bardd ar ardal medd B. G. Owens yn 'Cyfres y Meistri 2' "o fewn y gymdeithas glos hon, ar ei air ei hun, y gwelodd Waldo 'drefn yn fy mhalas draw", ac yma "ar glosydd, ar aelwydydd fy mhobl, - Hil y gwynt ar glaw a'r niwl a'r gelaets a'r grug' yr ymglywodd gyntaf ag egwyddor waelodol ei ganu, brawdoliaeth hanfodol dyn. 'Hon' meddai am y gymdogaeth 'oedd fy ffenestri', a thrwyddi hi, - y gwelodd ef Gymru."
O wybod y cefndir hwn, mae'n briodol iawn felly bod y maen coffa wedi ei godi ar y darn hwn o dir y bu Cymru bron â'i golli ac a oedd yn golygu cymaint i Waldo. Mae'n anodd crwydro llethrau'r Preseli bellach heb feddwl am fur mebyd y bardd, mae ei fywyd a'i waith wedi mynd yn rhan o fytholeg y bryniau hyn.
'Waldo a Mynachlog-ddu,
mae'r ddau yn anwahanadwy.'
Mi fydd yna ddathliadau yn cael eu cynnal i nodi can-mlwyddiant ers geni Waldo ganol mis Gorffennaf - 15,16 a 17eg wrth Garreg Waldo ar Gomin Mynachlog-ddu. Edrychwch allan am wybodaeth bellach am y digwyddiad hwn yn nes at yr amser.