Bellach, mae dros 575,640 o bobl yng Nghymru, neu 20.5% o'r boblogaeth, yn medru'r iaith. Gyda rhagor na 65,000 mwy o bobl yn ei siarad nag ym 1991, dyma'r cynnydd mwyaf ers 1911. Nid yw'r Gymraeg wedi bod mor gryf, o ran niferoedd a chefnogaeth, ers degawdau.Mae'n anodd tynnu cymhariaeth rhwng y cyfrifiad diwethaf ym 1991 a chyfrifiad 2001 gan fod ffiniau'r cynghorau sir wedi newid ac nid oes gwybodaeth fanwl ar gael hyd yn hyn. Serch hynny, mae'n bosibl dweud bod y cynnydd mewn rhai llefydd yn y wlad wedi bod yn syfrdanol. Yng Nghaerdydd, er enghraifft, mae'r nifer o Gymry Cymraeg wedi dyblu bron ac mae mwy o Gymry yn byw yn y brifddinas bellach (sef rhyw 32,000 o bobl) nag sy'n byw yn Sir Benfro (sef 23,686 o bobl).
Dywedodd cadeirydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg, Rhodri Williams, bod "y cynnydd yma yn gam pwysig ymlaen i'r Gymraeg" a bod y cyhoeddiad "yn newyddion calonogol i'r Gymraeg". Mae'r arbenigwr ieithyddol ar Gymru, yr Athro Harold Carter, gynt o Brifysgol Cymru Aberystwyth, wedi ategu'r sylwadau hyn gan ddweud bod y newyddion i'w groesawu. "Dw i'n llawenhau yn y cynnydd hwn, ond bydd rhaid aros am ragor o fanylion cyn tynnu casgliadau", meddai.
Darlun cymysg y gorllewin
Yma yn y gorllewin, fodd bynnag, mae darlun cymysg. Yn Sir Benfro mae'r nifer o Gymry wedi codi bron 4,000 i gynrychioli 22% o'r boblogaeth, tra yng Ngheredigion mae'r niferoedd wedi codi rhyw 1,700 ond wedi gostwng fel canran. Effaith, mae'n siwr, o'r mewnfudo mawr i'r sir dros y blynyddoedd diwethaf a'r ffaith bod y cyfrifiad bellach yn cyfrif myfyrwyr yn Aberystwyth a Llanbedr Pont Steffan wrth eu prifysgolion yn hytrach nag o ble maent yn dod.
Yn anffodus, mae ffigurau Sir Gaerfyrddin wedi dangos peth siom i gefnogwyr yr iaith gan fod y nifer o Gymry wedi disgyn rhyw 5,000 a'r canran hefyd wedi disgyn fel bod 50% yn unig o frodorion Sir Gâr yn cyfrif eu hunain yn Gymry.
Nifer o siaradwyr y Gymraeg :
Sir Benfro 23,686
Ceredigion 37,772
Sir Gaerfyrddin 83,802
Cymru 575,640
Nifer o siaradwyr Cymraeg fel canran o'r boblogaeth :
Sir Benfro 22%
Ceredigion 52%
Sir Gaerfyrddin 50%
Cymru 20.5%
Bydd rhaid aros nawr tan ganol y flwyddyn cyn inni wybod am ganlyniadau manwl y cyfrifiad. Bydd hyn wedyn yn dangos ble yn lleol y mae'r Gymraeg wedi gwanychu a ble y mae'r Gymraeg wedi cryfhau. Ond yn ôl y sôn, mae'n debygol y bydd y niferoedd a'r canran yn codi eto wrth i fwy o fanylion ddod i'r fei.
Ceri Jones.