"Ni fydd taith na barbeciw os fydd hi'n bwrw glaw."
Dyna oedd geiriad y poster a aeth allan i Ysgolion Sul Cyraanfa Bedyddwyr Penfro a phetai'r tywydd wedi bod yn debyg i weddill mis Awst ni fyddai'r digwyddiad wedi cymryd lle o gwbl.
Ond nid felly y bu gan i nos Wener, Awst 29ain, droi allan i fod yn noson orau'r haf a'r dyrfa dda a ddaeth ynghyd i Draeth Mawr Trefdraeth yn gwerthfawrogi pob eiliad o dywydd teg ac wrth eu boddau gyda'r olygfa dda.
Croesawyd pawb yno a chafwyd gair o weddi gan gadeirydd y pwyllgor y Parchg Eirian Wyn Lewis, ac wedi geiriau pwrpasol gan arweinydd y daith, Dyfed Elis Gruffydd, cafwyd mwynhad yn cerdded yn hamddenol ar hyd y llwybr sy'n mynd y tu ôl a thu blaen i'r Clwb Golff gan orffen nol unwaith eto ar y traeth lie roedd cigyddion Ken Davies, Crymych, wrthi'n paratoi'r barbiciw gorau a fu erioed.
Roedd pob un o'r plant a'r ieuenctid a aeth ar y daith yn cael rholiau selsig a byrgers am ddim ac roedd pop am ddim i bawb.
Wedi digoni'r awch am fwyd, ac wedi i'r plant gael cyfle i chwarae ychydig ar y tywod, braf oedd crynhoi o gwmpas i wrando ar y gwr a wahoddwyd i fod yn gyfrifol am adloniant y noson - y dawnus Peter Rees o Drefochlyd, Croesgoch.
Hyfryd hefyd oedd y modd y cafodd pawb gyfle i ymuno i mewn yn y canu a rhai o'r plant yn cael gyfle i ganu ar ben eu hunain.
Roedd y poster hefyd yn dweud "Croeso i BOB oed" a dyna yn wir a gafwyd, sef tyrfa dda gydag ystod eang o oedrannau - o bedwar mis oed (Morgan Phillips) i fyny i 89 oed.
Mae'r pwyllgor yn ddiolchgar i bawb a fu mor barod i roi eu hamser a'u gwasanaeth am ddim ac i bawb a ddaeth ynghyd i sicrhau noson lwyddiannus yn enw Ysgolion Sul Cymanfa Penfro.
|