Does dim rhyfedd felly bod pobl yn ymddiddori yn hanes y lle ac yn mynd ati i ymchwilio i'w orffennol. Mae nifer o brosiectau hanesyddol ar y gweill yn Llandudoch ar hyn o bryd. Yr un mwyaf o bell ffordd yw'r gwaith y mae'r mudiad hanes lleol, Hanes Llan'doch, yn ei wneud i geisio troi yr hen Gertws ar gyrion yr abaty yn ganolfan dreftadaeth fydd yn lle i arddangos creiriau'r abaty, y cerrig Cristnogol cynnar sydd ar hyn o bryd allan o olwg y cyhoedd, yn ogystal â threfnu cyfres o arddangosfeydd amrywiol fydd yn edrych ar wahanol agweddau a chyfnodau yn hanes y pentref. Mae'n brosiect anferth, a'r gobaith yw y bydd y gwaith wedi ei gwblhau yn ystod 2006. Mae Grŵp Treftadaeth a Diwylliant Cymdeithas Llandudoch hefyd yn bwriadu gweithio ar ddau brosiect yn ystod y flwyddyn sydd i ddod. Y mae'r cyntaf yn perthyn yn agos i ddatblygiad y Certws, gan mai'r bwriad yw trefnu a llwyfannu'r arddangosfa symudol gyntaf pan fydd y Ganolfan Dreftadaeth yn agor. Thema'r arddangosfa gyntaf fydd Llandudoch a'r Môr a'r gobaith yw dwyn ynghyd â hanesion, lluniau ac arteffactau sy'n olrhain y cysylltiad hwnnw. Yn ystod Gŵyl Llandudoch ym mis Mai, cafwyd sesiwn agored (gyda chydweithrediad PLANED) i ddechrau hel syniadau a chynllunio. Daeth amryw o bobl i'r gweithdy agored gyda'u cynigion. Er enghraifft, daeth Trevor Griffiths, aelod o un o hen deuluoedd y pentref, a hanesion ei deulu ar deithiau amrywiol ar hyd a lled y byd; daeth Chris Evans a rhywfaint o hanes y diwydiant adeiladu llongau ar y Pinog ar lannau'r Teifi, gan gynnwys bwyell arbennig a ddefnyddiwyd wrth y gwaith hwnnw. Bydd rhain, ynghyd a'r llu o atgofion a hen luniau sydd eisoes ar gael yn y pentref yn siŵr o fod yn sail dda i'r arddangosfa. Ail brosiect y Grŵp Treftadaeth a Diwylliant yw i gofnodi ar fideo a/neu DVD atgofion nifer o drigolion y pentref am fywyd yn Llandudoch yn ystod yr All Ryfel Byd. Eto, yn ystod Gŵyl Llandudoch eleni, cynhaliwyd arddangosfa yn seiliedig ar y cyfnod, gan gynnwys perfformiad gan Bois y Frenni. Mae Cronfa'r Loteri fawr wedi caniatau cymhorthdal i Gymdeithas Llandudoch a fydd yn talu am y gwaith recordio, ffilmio, golygu a chynhyrchu'r fideo, er mwyn sicrhau cynnyrch safonol. Bydd y fideo gorffenedig, fydd yn gofnod parhaol dwyieithog o atgofion personol a darluniau, yn cael ei chyflwyno i'r Ganolfan Dreftadaeth newydd, ac i Ysgol Llandudoch fel adnodd addysgol, a bydd ar gael i'w phrynu. Nod Cymdeithas Llandudoch a Hanes Llan'doch yw gweithio i adfywio ac atgyfnerthu bywyd cymunedol yn Llandudoch. Braf yw meddwl y gall rhoi llais i orffennol y pentref - helpu i sicrhau ei ddyfodol fel cymuned fyw. Terwyn Tomos
|