91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Clebran
Llun o Jane Wyn Ffarwél Jane Wyn
Rhagfyr 2007
Yn ddiweddar, daeth y newyddion trist i holl ddisgyblion a staff yr ysgol ein bod yn colli un o'n hathrawon ifanc mwyaf disglair.

Yr athrawes Saesneg a Gwleidyddiaeth, Miss Jane Wyn. Y mae Miss Wyn wedi cael ei phenodi i'r Adran Saesneg yn Ysgol Gyfun Llanbedr Pont Steffan, ac mi fydd hi'n dechrau ar ei swydd newydd ym mis Ionawr.

Ers cychwyn ei gwaith yn yr ysgol hon ym mis Medi 2005, y mae Miss Wyn wedi gwneud cyfraniad gwerthfawr a chlodwiw tu hwnt, gan ysgogi disgyblion di-ri' i ymddiddori mewn llenyddiaeth Saesneg drwy ei brwdfrydedd a'i chariad amlwg tuag at y pwnc.

Yn ogystal â'i dyletswyddau fel athrawes pwnc, mae Miss Wyn wedi gwneud cyfraniad hynod, ynghŷd â Mr Higginson, tuag at sefydlu traddodiad siarad cyhoeddus a dadlau yn yr ysgol. Mae'r tîm a sefydlwyd ganddi yn ystod ei hwythnosau cyntaf yn yr ysgol yn dal i gystadlu yn frwd, ac rwy'n sicr ein bod yn ddiolchgar tu hwnt am y cyfleodd a roddwyd i ni. Gan iddi hi ei hunan gynrychioli Cymru mewn cystadlaethau siarad cyhoeddus yn y gorffennol, y mae ei chyngor a'i chymorth bob amser yn ddeallus ac heb os nac oni bai, rydym wedi ffynnu o dan ei hadain fedrus.

Bu Miss Jane Wyn yn gweithio yn y cyfryngau fel newyddiadurwraig am nifer o flynyddoedd cyn troi ei doniau at ddysgu, ac mae'r profiadau y cafodd yn ystod y cyfnod hwnnw wedi darparu trysorfa o straeon a jôcs y mae'n mwynhau rhannu â 'r disgyblion yn ei gofal! Athrawes yw hon sy'n hoffi diddanu, a chlywn ei chwerthiniad rhwydd yn aml yn atseinio o gwmpas yr Adran Saesneg!

Mi fydd yr Adran Saesneg yn enwedig yn gweld eisiau Miss Wyn; un a oedd o hyd mor weithgar ac o hyd yn barod i helpu. Dywed Mr. P. Higginson fod Miss Wyn yn berson "byrlymus, bywiog, a chyda meddwl mor dreiddgar â chyllell". Yn sicr mae hyn yn farn sy'n cael ei rhannu gan bawb a fu'n cyd-weithio gyda hi.

Ond, wrth gwrs, mae'n rhaid edrych i'r dyfodol, ac i'r cyfleoedd gwych a fydd yn dod i law Miss Wyn wrth iddi gychwyn mewn swydd newydd. Er i ninnau dristáu o golli'r athrawes arbennig hon, mae'n rhaid inni lawenhau yn ei llwyddiant hi. Dymunwn bob lwc, bendith a rhwydd hynt iddi yn y dyfodol, a hyderwn y bydd hi'n parhau i ysbrydoli ac ehangu gorwelion cenedlaethau o ddisgyblion yn y dyfodol.

Gan: Iwan Davies


Cyfrannwch

Ben Vlismas, Crymych
Erthygl wych. Llongyfarchiadau i ti Iwan.
Tue Jan 15 15:01:16 2008


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Peidiwch â datgelu eich cyfenw os ydych o dan 16 oed.
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r 91Èȱ¬ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý