Daeth y wobr ar yr union flwyddyn y mae Aelwyd yr Urdd y maen nhw'n ei harwain yn dathlu ei thrigain oed. Ond prysurodd Helen a Des i ddweud nad gwobr iddyn nhw yn bersonol oedd hon ond i'r tîm o weithwyr sydd wedi gwneud Aelwyd Crymych yn un mor arbennig dros y blynyddoedd. Mae'r tlws yn cael ei rhoi bob blwyddyn yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd i unigolion sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol i ieuenctid Cymru. Noddir ef gan Gerallt a Dewi Hughes yn enw eu rhieni gan mai ieuenctid a'u datblygiad oedd eu diddordeb mawr. Wrthi drwy'r flwyddyn Bu Des a Helen yn arian byw yn ardal Crymych ers blynyddoedd lawer gan ddod yn adnabyddus trwy Gymru, nid yn unig ymhlith dilynwyr Eisteddfod yr Urdd ond gweithgareddau eraill y mudiad fel pêl-droed a chwaraeon. Drannoeth dyfarnu'r tlws yr oedd Des yn teithio gyda thîm pêl-droed yr aelwyd i chwarae mewn gornest fyd yn Llydaw. Pwysleisiodd y ddau bwysigrwydd gynnig dewis eang o weithgareddau i bobl ifanc. "Mae Aelwyd Crymych yn aelwyd gydol y flwyddyn. Nid un sydd yn gweithio'n unig ar gyfer yr Eisteddfod ydi hi ond mae gennym ni weithgareddau drwy'r flwyddyn," meddai Des. 'Dewch yn ôl' Un o Abercych ydi Des yn wreiddiol a Helen o Grymych. Wedi cyfnod o ddysgu yn y Trallwng ar ôl gadael coleg, dychwelodd y ddau i fyw i Sir Benfro. A'u hapêl i ieuenctid yr ardal yn yr Eisteddfod oedd am iddynt hwythau ddychwelyd i'w bro i godi teulu. "Ewch ar bob cyfrif i weld y byd a theithio ond dowch yn ôl i fagu teulu, meddai Helen. Bu'r ddau yn arweinyddion yr Aelwyd yng Nghrymych er 1972 ond Helen wedi bod yn aelod gweithgar a brwdfrydig o'r Aelwyd yn ystod y 1950au a'r 1960au hefyd. Mae'r ddau wedi bod ynghlwm ag ysgrifennu sgriptiau nosweithiau llawen a rhaglenni nodwedd yr Aelwyd ar gyfer Eisteddfodau'r Urdd ers blynyddoedd. Mae Helen yn diddori'n fawr yn trefnu gwisgoedd a choluro, ac mae wedi treulio oriau yn chwilio, prynu a gwnïo gwisgoedd ar gyfer dramâu a nosweithiau llawen yr Aelwyd, yn wir hi yw Meistres gwisgoedd Aelwyd Crymych. Helen fu'n bennaf gyfrifol am wisgoedd sioeau ieuenctid Eisteddfod Bro'r Preseli 1995, a phasiant y plant yn Eisteddfod Genedlaethol Tyddewi 2002. Bu Helen yn mynd o gwmpas adrannau ac Aelwydydd yr Urdd yn rhannu ei dawn celf a chrefft a choluro. Bu Des yn Gadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod yr Urdd Bro Preseli yn 1995. Mae Des a Helen wedi trefnu nifer o deithiau cyfnewid i Lydaw gyda'r Aelwyd hefyd, ynghyd â threfnu nifer o weithgareddau amrywiol i godi arian at achosion da. "Ni allaf feddwl am neb sy'n haeddu'r anrhydedd hwn yn fwy na Des a Helen," meddai Catrin Davies ar ran Aelwyd Crymych. Stori o safle gwe Urdd03 ar 91Èȱ¬ Cymru'r Byd, a phapur bro Clebran.
|