A dyma ni wedi cyrraedd pen blwydd Clebran yn ddeg ar hugain oed. Rwy'n ei chael hi'n anodd i gredu bod v shildyn pedair tudalen a gyhoeddwyd gyntaf gennym ni yn Rhagfyr 1974 wedi tyfu i'r fath raddau. Nid tyfu yn nifer y tudalennau rwy'n ei feddwl, ond ym mhob agwedd sy'n rhan o waith y papur. Ddeng mlynedd ar hugain yn ôl, roedd yna bedwar ohonon ni'n casglu newyddion, tynnu lluniau, teipio, golygu, ysgrifennu erthyglau, gwneud gwaith ymchwil, mynd â'r papur o gwmpas y siopau ac ati.
Freuddwydiodd yr un ohonon ni y buasai gan y papur Bwyllgor Rheoli, cysodwyr, llu o ohebwyr, ffotograffwyr, dosbarthwyr, ac ati ac ati - heb sôn am y Prosiect Papurau Bro bellach hefyd yn cefnogi'r papur.
Do, tyfodd y papur ac aeddfedodd y rheolaeth y tu ôl iddo. Bu rhywun, rhywdro yn ystod y deng mlynedd ar hugain yn ddigon hirben i sylweddoli bod angen peirianwaith gadarn yn ei le i sicrhau bod dyfodol tymor hir i'r papur.
Ddeng mlynedd ar ôl ei sefydlu, pan benderfynodd y pedwar ohonom bod yr amser wedi dod i sianelu'n hegnïon i gyfeiriadau eraill dim ond o drwch blewyn gwybedyn y llwyddwyd i gael un i gymryd at yr awenau. Cofiaf yn glir, mewn cyfarfod yn ystafell gefn Neuadd y Farchnad, Crymych orfod cyhoeddi na fyddai rhifyn arall o Clebran yn ymddangos pe na bai rhywun yn bodloni ymgymryd â'r gwaith. Diolch i'r drefn, daeth dau i'r adwy. Gyda'r peirianwaith a'r systemau sydd yn eu lle erbyn hyn, fydd sefyllfa debyg i honna ddim yn debygol o ddigwydd eto.
O safbwynt trefnu a rheoli Clebran, beth ddaw i'r dyfodol, does neb a ŵyr. Gall fod y bydd papurau bro fel yr adwaenwn ni nhw heddiw yn diflannu, a phapur, neu bapurau wythnosol Cymraeg proffesiynol yn datblygu ohonynt. O edrych ar nifer darllenwyr papurau bro y parthau hyn, a chyda'r cefnogaeth ariannol sydd bellach yn bosibl i sefydlu mentrau o'r fath, mae'n sicr gen i y gallai menter o'r fath lwyddo.
Os yw'n bosibl sefydlu papur cenedlaethol dyddiol Cymraeg, beth sydd i rwystro sefydlu papur wythnosol lleol Cymraeg, gan anelu at ddiwallu anghenion darllenwyr ein papurau bro?
Bellach, mae Clebran yn rhan o'r sefydliad Cymraeg yng Ngogledd Penfro, ac mae'n cynnal ac yn cefnogi Cymreictod cynhenid Bro'r Preseli. Mae hynny'n beth braf. Un o lwyddiannau mawr papurau bro yn y saithdegau cynnar oedd newid meddylfryd pobl a fynnai nad oedden nhw'n darllen Cymraeg. Bryd hynny roedd sefydlu papur Cymraeg yn weithred herfeiddiol oedd yn gwthio'r ffiniau, ac yn herio pobl i newid. Yn yr un modd, roedd rhywfaint o'r cynnwys yn ceisio gwneud yr un peth - herio'r drefn arferol a chodi trafodaeth ar faterion o bwys i'r ardal. Buaswn i'n hoffi meddwl y bydd Clebran y dyfodol yn gwneud hynny hefyd, a dim yn bodloni ar fod yn bapur bach cysurus y sefydliad Cymraeg yn yr ardal.
Terwyn Tomos