Rwy'n dod o wlad sy'n baradwys ffrwythau a llysiau, lle mae'r bobl yn dal i fwyta'n iach.
Mae llawer wedi clywed am Bali ac yn gwybod am Java. Mae Indonesia yn cynnwys bron 14,000 o ynysoedd. Mae pobl yn byw'n barhaol ar 1,000 ohonynt yn unig. Mae tua 350 grwp ethnig a siaredir tua 250 o wahanol dafodieithoedd.
Indonesia yw gwlad Islamaidd fwya'r byd ac Islam yw crefydd nawdeg y cant o'r bobl. Mae rhai grwpiau bach tu allan i Jafa yn Gristnogion. Hindw yw crefydd Bali. Cristnogaeth neu Fwdiaeth yw crefydd mwyaf y Chiniaid. Sut bynnag, mae'r Nadolig yn un o wyliau swyddogol Indonesia.
Y ffordd orau o weld y dull traddodiadol o fyw yw ymweld a'r machnadoedd lleol, sy'n dangos gwir fywyd diddorol y werin.
Yn y marchnadoedd, mae 'na stondinau o bob math o fwyd gwahanol. Ar wahan i reis (y prif fwyd), Tofu a Tempe sy'n cael eu gwneud o ffa soia, yw bwyd bob dydd y werin bobl. Mae llawer o bysgod mor a chyflawnder o bysgod dwr croyw, corgimwch a sgwid ar gael o hyd. Mae rhai o'r pysgod yn cael eu halltu a'u sychu er mwyn eu cadw'n hirach.
Mae'r llysiau, ffrwythau, y cig a'r dofednod ar gael bob amser. Hefyd, mae'r blodau ffres yn cael eu gwerthu ar bob cornel o'r marchnadoedd - mae'n hyfryd.
Yn ystod y Nadolig mae'r marchnadoedd lleol o dan eu sang, oherwydd mae rhan fwya o'r bobl yn mwynhau bwyd cartref. Daw teuluoedd a ffrindiau agos at ei gilydd i ddathlu'r Wyl yn eu ty gwyliau ar y mynydd ac ymlacio o flaen y tân a siarad am y byd a'r betws tan oriau mân y bore.
Mae'r rhan fwyaf o'r adeiladau'n cael eu haddurno'n lliwgar. Mae
golau amryliw'r stryd yn wincio drwy'r nos. Mae partïon mewn gwestai moethus neu glybiau nos eitha poblogaidd. Clywir cerddoriaeth Nadoligaidd ym mhob man. Mae naws yr Wyl yn gryf a'r ddinas fel petai ar ddihun drwy'r nos.
Yn ystod y tymor hwn, does dim prinder o bethau diddorol i'n bodloni ni i gyd, ac mae'r dathliadau'n parhau tan ddydd Calan. Mae Gwyl y Nadolig i bawb!!
.
|