Ers blynyddoedd mae'r syniad wedi bod yn troi yng nghefn fy meddwl ac ar ôl gweld gwahanol fudiadau a grwpiau yn ceisio gwneud rhywbeth tebyg, felly dyma fi yn bwrw ati. Fe ddaeth cyfnod rhai blynyddoedd yn ôl ble yr oeddwn yn meddwl rhoi'r gorau i'r syniad o gael gŵyl o'r fath, ond dyma fy mam yn fy annog i gynnal y digwyddiad neu byddem yn siŵr o ddifaru am weddill fy mywyd.Ac felly bwrw ati yn 2003 i gynnal y digwyddiad cyntaf. Yr oeddwn yn dipyn o nofydd ar y busnes a rhaid dweud, ar ôl trefnu'r un cyntaf dyma fi yn meddwl dyna ni, dim rhagor! Ond yn 2004 dyma ffactorau eraill yn dod i'r amlwg gyda nifer o bobl leol gyda phrofiad yn y maes trefniad gŵyl cymunedol yn cysylltu ac yn cynnig cymorth. Hefyd gyda'r ysgol gynradd yn Hermon yn ymgyrchu i gadw ar agor dyma gyfle hefyd i godi arian tuag at y costau cyfreithiol.
Felly bwrw ati a chael y pleser mwyaf o weld cymaint o bobl yn tynnu at ei gilydd i greu yr ŵyl yn 2004. Nifer fawr o stiwardiaid, bandiau a threfnwyr yn rhoi o'u hamser i greu gŵyl gymunedol go iawn wedi ei hadeiladu ar sail wirfoddol o'r gymdeithas leol.
Yn ystod yr un cyfnod fe wnaeth yr awdurdod lleol gynnal arolwg ymysg pobl ifanc y sir i weld beth yn gwmws a oedd pobl ifanc yn dymuno cael. Y casgliadau mwyaf oedd bod pobl ifanc yn dymuno cael rhywle i fynd i wrando ar fandiau yn chwarae yn fyw a hefyd bod bandiau ifanc yn dymuno cael rhywle i chwarae yn lleol o flaen gynulleidfa fyw. Felly rheswm eto am ddatblygu y syniad o'r fenter Roc y Garreg Las.
Erbyn heddiw mae'r fenter wedi ei chofrestru fel cwmni cyfyngedig drwv warrant a nawr yn cael ei chofrestru fel elusen.Felly i sôn am y datblygiadau pellach am lwyddiant yr Ŵyl am 2005. Fe welwyd dros 5,000 o bobl yn ymweld â'r ŵyl eleni, nifer fawr yn aros a gwersylla dros y nos Wener ar y 5ed o Awst. Bu cyfle i osod 4 llwyfan perfformio a dros 40 o fandiau yn perfformio eleni, y rhan fwyaf yn lleol gydag un neu ddau genedlaethol ac un band Gwyddeleg.
Rhaid cofio bod yr egwyddor gymunedol eto yn fyw a bod pawb wedi gwirfoddoli i ddod i chwarae yn yr ŵyl. Yn yr un modd roedd yna dros 80 o stiwardiaid, trefnwyr ac unigolion eraill yn rhoi cymorth gwirfoddol i'r ŵyl eleni eto, a hoffem ddiolch i bawb am eu parodrwydd i roi o'u hamser. Fel y llynedd roedd yna nifer o weithgareddau ar draws y 28 erw ble gynhaliwyd yr ŵyl: ardal gweithgareddau'r plant, bandiau Samba, Ceffyl Mecanyddol yn Taflu tân, ardal Eco, stondinau crefftau, arddangosfeydd, cerfluniaeth, gweithdai pypedau.
Yr oedd pawb a siarades gyda yn meddwl bod yr ŵyl wedi datblygu yn sylweddol a bod pob clod i'r trefnwyr a'r gweithwyr gwirfoddol am sicrhau proffesiynoldeb y digwyddiad cymunedol yma. Hyd yn oed yr awdurdodau heddlu ac adran trwyddedau adloniant cyhoeddus yn canmol dulliau hyfforddi'r stiwardiaid a chanllawiau diogelwch.
O ran ymrwymiad yr ŵyl tuag at werthoedd cymdeithasol ac amgylcheddol mae ein nod i annog pawb i rannu moduron wedi gweithio yn dda gyda'r anogaeth o gost parcio o £10 y modur fel yr unig gost o fynediad i'r ŵyl. Yna unrhyw un ar feic neu yn cerdded yn cael mynediad am ddim. Ein nod wrth gwrs yw cael pawb i feddwl am yr effaith mae ein moduron yn cael ar hinsawdd ein byd ac i arbed teithio yn unigol mewn modur. Rhaid i ni gyd i wneud ymdrech i ddiogelu dyfodol y blaned i'r cenedlaethau sydd i ddod.
Yn 2004 fe welodd mam, a oedd yn 81 oed, fy mreuddwyd yn cael ei gwireddu ac yn wir fe wnaeth hi fy helpu drwy fod yna yn fferm Dretawr i ateb y ffôn a derbyn yr holl barseli ac offer pan yr oeddwn i wrth fy ngwaith. Yr oeddwn yn siŵr bod hi yn gwybod mwy am yr ŵyl na finne.
Yn drist iawn fe wnaeth fy mam farw eleni ac ni gaeth cyfle i weld y datblygiadau pellach, ond yn sicr fydd y weledigaeth a'r ymrwymiad sydd wedi ac yn dal i fodoli yn Trefawrac ar draws yr ardal yn sicr o weld GwÅ·l Roc y Garreg Las yn datblygu i chwarae rhan bwysicach fyth wrth roi cyfle i bobl ifanc i wireddu eu breuddwydion hwy hefyd.
Bill Davies
Fferm Trefawr, Llanfyrnach