Pan gawsom y syniad o gystadlu yng nghystadleuaeth Cân i Gymru, we ni byth yn meddwl y bydden ni'n sefyll ar ddydd Gŵyl Dewi gyda siec o ddeng mil o bunnau yn ein dwylo! Ond yn araf bach mae'r teimlad o ennill wedi dechre suddo mewn. Roedd e'n strocen a hanner i feddwl ein bod ni wedi ennill deng mlynedd i'r noson ar ôl i Dad, sef Richard Jones, ac Arwel John ennill gyda'r gân Cân i'r Ynys Werdd, gafodd ei chanu gan Gwenda Owen.
Dechreuodd ein partneriaeth ni i ysgrifennu'r gân am fod y ddau ohonom yn aelodau o'r grŵp Garej Dolwen, sydd wedi cael blwyddyn brysur dros ben - wedi ennill cystadleuaeth i grwpiau yn Eisteddfod yr Urdd Môn, a chyrraedd rownd derfynol Brwydr y Bandiau ar Radio Cymru. Roedd y fflam wedi ei chynnau a ninnau'n mwynhau ychwanegu caneuon newydd at set y grŵp.
Ar y dechrau, cytunodd Guto i ysgrifennu'r geiriau oherwydd dwi fy hun ddim yn rhy hoff o'r ochr honno! Ar ôl aros ac aros i Guto ysgrifennu'r geiriau, we ni'n meddwl y gallen ni anghofio am y syniad, ond ar ôl hanner awr o ishte lawr gyda dishgled o de ar brynhawn dydd Sadwrn, daeth Guto i ben â'r gamp, ac fe wnaeth gyflwyno set o eiriau i mi! Roedd y geiriau yn grêt a wen i'n disgwyl mlaen yn fowr iawn i ddechrau cyfansoddi'r alaw.
Dyw ysgrifennu alaw ddim yn broblem i fi fel arfer, ond gan fod yr achlysur hwn yn un mor arbennig wen i ddim yn siŵr pa fath o gân i'w hysgrifennu. lfe cân roc, bop, werinol, jas neu rhywbeth mwy traddodiadol fyddai'n addas? Ond ar ôl meddwl am y peth, roedd cân bop ysgafn yn swnio'n ddewis gwell i fi ac yn debycach i fy arddull i o gyfansoddi. Felly gwnes i ferwi llond mwg o goffi, gafael yn fy ngitâr ac eistedd lawr ar fy ngwely i greu tôn.
Ar ôl cyfansoddi'r alaw, roedd rhaid i ni wneud y penderfyniad anodd o ddewis pwy fydde'n cael y fraint o ganu ein cân ni ar dâp er mwyn ei hanfon at y cwmni teledu. I fod yn berffaith onest, dim ond un person oedd yn dod i'r meddwl, a'r person hwn oedd y Bonheddwr Trystan Griffiths!
Ry'n ni'n dau wedi nabod Trystan ers sbel fowr, ac yn ffrindiau da yn Ysgol y Preseli. Hefyd mae Trystan wedi hen arfer â pherfformio ac wedi ennill nifer o gystadlaethau yn cynnwys Eisteddfodau'r Urdd a'r Genedlaethol. Felly, dyma fynd i Stiwdio Fflach at Wyn i roi'r cyfan ar dâp, a'i anfon i ffwrdd bedwar diwrnod cyn y dyddiad cau!
Roedd Wyn yn help enfawr yn y broses recordio, a hoffem ni ddiolch yn fowr iddo am ei gymorth a'i gefnogaeth bob amser. Y rhan nesaf, a'r anodda', oedd aros i weld os oedden ni drwyddo i'r ffeinal. Hir yw pob ymaros ... ond wedd hi'n anodd peidio breuddwydio beth i'w wneud gyda £10, 000 pe bawn ni'n ennill!!
Tua wythnos yn diweddarach, fe ganodd y ffôn - 'Mae'ch can trwodd i'r wyth olaf.' Wel, dyna beth o'dd sioc! Ar ôl yr holl gyffro a'r edrych mlaen, dyma Fawrth y cyntaf yn cyrraedd o'r diwedd. Mynd ar y trên i Gasnewydd yn y bore bach, a chyrraedd erbyn un ar ddeg. Cawsom groeso gan bawb - yfed te, bwyta bisgedi a chwrdd â'r cyfansoddwyr a'r perfformwyr eraill.
Dyma'r tro cyntaf i ni gwrdd â Rhydian Bowen Phillips bachgen ffein iawn, ac fe wnaethom fwynhau ei gwmni. Cawsom hwyl yn cymdeithasu gyda'r gweddill hefyd, yn enwedig bois gwyllt y band Vanta! Braf hefyd oedd clywed Caryl Parry Jones yn canu "Mi glywais i, Mi glywais i .... " (ein cân ni!) wrth iddi gerdded yn hamddenol o gwmpas y stiwdio.
Roeddem yn teimlo'n gartrefol iawn yno, yn enwedig gyda chymaint o bobol Sir Benfro yno'n gweithio. Roedd dau o adre' yno sef Lowri Jones a Meirion Davies, a Shân Crofft o Faenclochog, Kevin Davies o Gapel Newydd (fu'n ein cyfweld ni ar y radio) a Llinor ap Gwynedd oedd yno'n canu gyda Côrdydd.
Ar ôl cinio 'All stations GO'. Cafodd y rhaglen gyfan ei hymarfer sawl gwaith - y cyfweliadau, y perfformiadau a chyflwyniadau Sarra ac Alun. Roedd y technegwyr wedi sicrhau bod pob dim yn ei le ac yn gweithio - y camerâu, y golau, y sain. Popeth yn barod! Tua saith o'r gloch, cyrhaeddodd y cefnogwyr yn gyffro i gyd. Daeth dau fws Midway yn llawn o deulu a ffrindiau gan gynnwys ein prifathro a'i wraig Mr a Mrs Lloyd.
Doedd dim llawer o amser i fynd nawr ac roeddem yn dechrau teimlo'n nerfus. Roedd yr awyrgylch yn drydanol a chyffrous iawn pan ddechreuodd y rhaglen, a'r gynulleidfa'n awyddus i glywed y caneuon. Yn ystod y rhaglen roeddem ni'r cyfansoddwyr a'r perfformwyr y tu ôl i'r llwyfan, lle roedd cyfweliadau byr yn cael eu ffilmio rhwng y caneuon er mwyn cael ein hymateb ni i'r perfformiadau. Cawson gwmni a chefnogaeth ein ffrindiau mynwesol sef Trystan, Caio, Owain, Steffan a Gareth yno.
Pan ddaeth yr amser i'n cân ni gael ei pherfformio, aeth ein cefnogwyr yn wallgo', gyda phawb yn bloeddio ac annog Rhydian i wneud ei orau AC MI WNAETH! Roedd wedi cael ei wefreiddio ac wedi mwynhau ymateb y dorf ac roedd e, a ni, yn hapus iawn â'r perfformiad. Mae Rhydian wedi gofyn i ni i ddiolch i'r cefnogwyr o'r ardal am eu brwdfrydedd a'u hanogaeth ar y noson, ac am wneud iddo deimlo'n gartrefol a hyderus ar y llwyfan.
Ar ôl i'r rhaglen orffen a'r wyth cân gael eu perfformio, roedd tua awr o aros pan roedd pawb yn cael cyfle i bleidleisio am eu hoff cân. Yn ystod y cyfnod yma cawsom gyfweliad gan Kevin Davies ar y radio, a awgrymodd y byddwn yn siŵr o brynu losin gyda'r arian petaem yn digwydd ennill! 'Chi'n rhy ifanc i wneud dim byd arall 'da fe!'
Yna y canlyniad mawr! Dechreuodd Sarra Elgan gyhoeddi nifer y pleidleisiau ar y bwrdd sgorio. Roedd ein nerfau'n rhacs! O un i un, cyhoeddwyd y pleidleisiau, a daeth ein tro ni ... WAW! Anhygoel! 3215 o bleidleisiau! Ro'n ni ymhell ar y blaen (ar hyn o bryd'). Wedyn y canlyniad nesaf - roedden yn gwybod ein bod o leiaf yn drydydd! Canlyniad arall - nawr roedden yn ail! A'r canlyniad olaf? Ein calonnau'n curo! BLOEDD FAWR! Roedden ni wedi ei gwneud hi! Anghredadwy! Roedd pawb yng nghefn y llwyfan yn ein llongyfarch. Roedd llawer o gyffro ac roedd rhaid symud yn gyflym i'r llwyfan i gael ein gwobr o £10,000 ac er mwyn i Rhydian ganu'r gân eto.
Wrth gyrraedd y llwyfan aeth ein cefnogwyr ni yn wyllt - sgrechen, gweiddi, neidio, dawnsio, chwifio breichiau a rhai yn llefen! A ni'n dau? Mewn sioc! Roedden ni ar ben ein digon, yn enwedig o feddwl mai ni oedd yr ifancaf i ennill Cân i Gymru erioed. Doedden ni ddim wedi dychmygu dod yn yr wyth olaf, heb sôn am ennill!
Erbyn hyn ry'n ni wedi dod nôl lawr i'r ddaear, ond rhaid i ni nawr gymryd y cyfle i ddiolch yn fowr i bawb a wnaeth ein cefnogi ym mhob ffordd - yn gefnogwyr a ddaeth i Gasnewydd ac i bawb wnaeth bleidleisio. Ry'n ni, fel Lisa (Waw Ffacor) a ysgrifennodd yn ei herthygl y mis diwethaf' yn hynod o browd a balch ein bod yn perthyn i'r gymuned glos yma hefyd. Wrth gyrraedd adref ar y bws yng Nghrymych yng nghanol yr eira y noson honno, cawsom syrpreis i weld bod arwydd enfawr wedi cael ei roi ar iet Ysgol y Preseli gan Forge Signs yn ein llongyfarch. Roedd siampên, baneri a balŵns yn ein disgwyl gartref; bu'r ffôn yn canu'n ddi-stop am ddiwrnodau, cyrhaeddodd nifer fawr o gardiau a phawb yn ein llongyfarch ac yn falch o'n llwyddiant.
Diolch o galon i chi bobol ardal y Preseli am eich cefnogaeth, eich llongyfarchion a'ch dymuniadau da i ni yn Iwerddon. IE! Iwerddon! Dyw pethe ddim wedi beni 'to. O na! Ry'n ni ar ein ffordd i'r ŵyl Ban Geltaidd yn Nhra-lÃ. Yn anffodus nid yw Rhydian yn gallu dod gyda ni i ganu'r gân yn yr Å´yl, ond YN FFODUS, mae Trystan yn gallu, a byddwn ni, aelodau Garej Dolwen yn cyfeilio iddo. Felly, bant â ni 'to! Ie wir gyda llond bws o gefnogwyr unwaith eto! Gwych! O ie, ma' rhai wedi bod yn gofyn i ni beth y'n wedi gwneud â'r arian - wel, prynu jelly babies, wrth gwrs!!
Dafydd Jones a Guto Vaughan
(dan ofal Prosiect papurau Bro)