Cafwyd amrywiaeth eang o eitemau gan gynnwys Parti Llefaru, Côr Cymysg, Côr Merched, Parti Deusain dan 15 oed, Parti Llefaru dan 15 oed, Unawdau, Noson Lawen yn ogystal ag eitemau gan fuddugwyr o ysgolion cynradd Cylch y Frenni, sef Ysgol Eglwyswrw ac Ysgol y Frenni. Derbyniwyd nifer o wobrau ar gyfer y raffl ar y noson.
Llongyfarchiadau mawr i'r parti llefaru a'i hyfforddwraig Eirian W. Jones ar ennill y safle cyntaf yn yr Eisteddfod eleni yn ogystal â Sioned Llewelyn a dderbyniodd y wobr gyntaf yn yr unawd a'r ail yn yr alaw werin. Cipiodd y Parti dan 15 yr ail wobr o dan hyfforddiant Rhian Davies a'u cyfeilyddes Meleri Williams. Cafodd yr aelwyd dipyn o hwyl hefyd wrth gyflwyno sioe a oedd yn seiliedig ar waith a bywyd y digrifwyr Ryan a Ronnie. Llwyddodd y corau dan 25ain oed gyrraedd safon uchel eleni eto. O dan hyfforddiant Catrin Davies a chyfeiliant Margaret Rhys cafwyd beirniadaeth arbennig a chanmoladwy.
Trefnir gwahanol weithgareddau i aelodau'r aelwyd ar draws y flwyddyn. Ac eleni eto daeth clod ac anrhydedd i'r aelodau wrth iddynt gystadlu yn sirol ac yn genedlaethol mewn meysydd eraill megis chwaraeon. Mae'r gwaith o drefnu rhaglen ddiddorol ac amrywiol yn anodd ac mae'n dyled yn fawr i'r arweinyddion Eleri Thomas a Siân Williams a'r gwirfoddolwyr eraill am eu gwaith diflino drwy gydol y flwyddyn.
|