Mae Bryniau'r Preselau, elltydd Dyffryn Nyfer ac arfordir gogledd Penfro wedi eu nodi o safbwynt gwarchodaeth natur yn safleoedd o bwysigrwydd Ewropeaidd. Mae miloedd yn cael eu hudo yn flynyddol gan brydferthwch "gwlad y machlud mwyn".
Yn yr un modd, mae gennym dreftadaeth ddiwylliannol heb ei ail. Cafodd eisteddfodwyr Tyddewi eleni gipolwg arni drwy gyfrwng y rhaglenni teyrnged i Waldo a W.R. Magwyd cenedlaethau o feirdd, llenorion, artistiaid, actorion a cherddorion yn ein hardal.
Ein braint a'n dyletswydd ni yw ceisio trosglwyddo holl gyfoeth ein bro - "y glendid a fu" (ac a sydd) i'r cenedlaethau a ddaw.
Angen gwarchod Er mwyn gwneud hyn rhaid gwarchod yr hyn sydd gennym. Mae nifer fawr o bobol yn gweithredu'n feunyddiol i sicrhau dyfodol ein hiaith, diwylliant ac amgylchedd.
Yn anffodus, yn hanesyddol, mae'r bobol hyn wedi gweithredu'n annibynnol gan sianelu eu holl egni a'u brwdfrydedd i feysydd dethol heb weld y darlun ehangach a'r dolennau sy'n eu cysylltu.
Ond o ystyried, gwahanol agweddau o'r un gynneddf yw gofalu am iaith, diwylliant a'r amgylchedd. Mae cysylltiadau agos rhwng y tirwedd a'i holl gynefinoedd a datblygiad ein hiaith a'n diwylliant.
Amaethyddiaeth yn bennaf sydd wedi llunio yr hyn a welwn ac a werthfawrogwn yn nhalgylch Clebran heddiw. Amaethu hefyd sydd wedi rhoi i ni waddol amhrisiadwy o werthoedd gorau cymdogaeth dda, ddiwylliedig.
Mae dyletswydd allweddol ar ffermwyr ein bro fel eu cyndadau i warchod dyfodol ein hiaith, ein cynefinoedd cyfoethocaf, ein llên gwerin, ein traddodiadau cefn gwlad a chyfrannu at economi gynaladwy.
Yn anffodus, mae'n ffordd o fyw sydd o dan fygythiad dirfawr. Rhaid i ni uno gyda'n gilydd i gefnogi'r diwydiant allweddol hwn.
Gweithredu gyda'n gilydd Os ydym yn mynd i drosglwyddo i'r genhedlaeth nesaf yr hyn sydd wedi ei drosglwyddo i ni, rhaid i ni weithredu gyda'n gilydd. Yn amgylcheddwyr, ffermwyr, hoelion wyth 'y pethau', a hynafieithwyr.
Dim ond trwy werthfawrogi, atgyfnerthu a chyfoethogi dealltwriaeth ein gilydd o'n bro y cawn lwyddiant gan roi i'n plant a phlant ein plant y dreftadaeth gyfoethog a roddwyd i ni gan ein cyndadau.
Ar sail hyn, sefydlwyd Ogam, partneriaeth newydd a chyffrous a grewyd gan Fenter Iaith Sir Benfro mewn cydweithrediad â Chyngor Cefn Gwlad Cymru ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.
Nod y cynllun yw creu ymwybyddiaeth o'r berthynas glos rhwng ein hiaith, diwylliant a'r amgylchedd, a'r angen i'w gwarchod.
Eisoes mae rhaglen waith fyrlymus ac amrywiol wedi ei chreu sydd yn cynnwys teithiau cerdded, sgyrsiau, darlithoedd, cyflwyniadau, arddangosfeydd a phrosiectau ymarferol.
Un o uchafbwyntiau'r prosiect hyd yn hyn yw'r arddangosfa a osodwyd yng Nghanolfan y Parc Cenedlaethol yn Nhyddewi.
Arddangosfa yw hon sydd yn arwain rhywun drwy ddwsin o leoliadau yng Ngogledd Sir Benfro drwy gyfrwng lluniau ynghyd â thestunau amgylcheddol a diwylliannol. Mae'r arddangosfa ar agor tan ddiwedd Tachwedd.
Erthygl gan Geraint Jones
|