Pan yn saith mlwydd oed, yr oeddwn yn barod drwy berswâd 'Mamgu' wedi cychwyn fy nhaith tuag at fod yn gerddor drwy cael gwersi piano a ffidil. Ond ni chefais fy nghyflwyno i'r offeryn byddai'n trawsnewid fy mywyd tan fy negfed pen blwydd, deuddeng mlynedd yn ddiweddarach - hon yw cariad fy mywyd: y Delyn.
Ar y 22ain o fis Mai 2007, cefais y newyddion hynny bod Tywysog Cymru wedi penderfynu fy mhenodi fel ei Delynores Brenhinol nesaf, i ddilyn yn olion traed Catrin Finch a Jemima Phillips. Yr oedd hi wedi profi'n daith hir imi gyrraedd y pwynt yma, am fy mod yn gyntaf wedi gorfod cael fy enwebu ar gyfer y swydd ynghyd â chael cyfweliad o flaen panel o delynorion byd enwog yn Nhŷ Clarence.
Yn dilyn hynny y cefais fy nomineiddio yn unswydd i berfformio ar gyfer y Tywysog, am mai ei benodiad personol ef ydoedd. Ers blynyddoedd gwyddem mai fy mwriad tymor hir fyddai rhyw ddydd cael y siawns i wasanaethu fel Telynores i'r Tywysog. Wrth ddod yn nes at y rownd derfynol ar gyfer y swydd, gwyddem heb amheuaeth yr oedd rhaid i mi lwyddo; yr oeddwn yn benderfynol iawn am mai hwn oedd un o'm mreuddwydion mwya' i.
Mewn pum niwrnod, trawsnewidiwyd fy mywyd wrth imi ymddangos ar newyddion Cenedlaethol 91Èȱ¬, HTV, S4C, sioe frecwast GMTV, rhaglen Classic FM a rhaglenni radio cenedlaethol, papurau a chylchgronau trwy Brydain Fawr. O'r pwynt yna hyd yn hyn, rwyf wedi perfformio tair gwaith i'w Uchelder Brenhinol, ac mae pob eiliad o gynrychioli'r Tywysog fel ei delynores wedi bod yn anrhydedd o'r mwya' ar lefel personol yn ogystal ag ar lefel proffesiynol.
Byddaf yn perfformio yn seremoni agoriadol Eisteddfod Rhyngwladol Llangollen ar 11 o Orffennaf; hefyd byddaf yn ymddangos fel unawdydd yng nghyngerdd agoriadol yr Å´yl delynau rhyngwladol Arpa Viva Cymru yng Nghanolfan y Mileniwm, Caerdydd ar y 22ain o Orffennaf. Yn y gyngerdd arbennig hon byddaf yn rhannu llwyfan gyda Catrin Finch a Jemima Phillips ac yn perfformio darn a gafodd ei sgrifennu ar ein cyfer gan Karl Jenkins.
Dros fis Mehefin, cefais fy nghefnogi gan Menter Iaith Sir Benfro i gynnal gweithdai telyn yn ysgolion cynradd Crymych, Maenclochog, Eglwyswrw a hefyd Uned Iaith Bro Gwaun. Rwyf yn eiddgar i barhau gyda fy mwriad o godi proffil y delyn ac ysbrydoli plant ifanc fy ardal enedigol a thrwy Gymru gyfan i astudio'r delyn am ei fod yn rhan hynod o bwysig o'n hetifeddiaeth a'n diwylliant ni yng Nghymru.
Ynghyd â hyn bydd lansiad y CD newydd yn digwydd yn ystod tymor y Nadolig.
Mae'n fraint i mi i fod wedi treulio fy magwraeth mewn awyrgylch Gymreig pur yng Nghrymych, a theimlaf mewn dyled i gymaint o bobl sydd wedi fy hybu a'm cefnogi ar hyd y blynyddoedd. Mae'r personau hynny yn dal i fyw yng Nghrymych a'r cyffiniau, ac mi fydd o hyd le arbennig yn fy nghalon iddynt.
Pwy fuasai wedi meddwl mai'r ferch fach ddeng mlwydd oed yna o ardal y 'wes wes' byddai'n landio'i hunan mewn sefyllfa o fod yn delynores i Frenin y dyfodol!