"Fe gaewn ni'r drws. A cha di dy ben!"
Dyna yn ôl y Prifardd Eirwyn George oedd ymateb un o geidwaid y drws i weiddi parhaus yr arweinydd o'r llwyfan yn ystod un o'r Eisteddfodau cynnar, a Neuadd yr Eglwys, Maenclochog dan ei sang hyd oriau mân y bore.
Efallai nad oes yr un bri ar yr Eisteddfodau bach heddiw a'r cynulleidfaoedd wedi lleihau, ond er hynny, fe fydd drws y Neuadd ar agor ar ddydd Llun y 7fed o Fai, sef Calan Mai, a rhywrai hefyd wrth y drws i groesawu yr Eisteddfod yn ôl i'w chartref naturiol. Mi fydd llawer wedi newid ers y noson honno yn ôl ym mhedwardegau'r ganrif ddiwethaf, yn un peth Neuadd Gymunedol Maenclochog yw'r enw ar y Neuadd bellach, neuadd fodern, gysurus yn cynnig y cyfleusterau diweddaraf.
Disgwylir i feirniadu eleni:
Canu- Gwyn Nicholas, Llanpumsaint; Llefaru, - Bronwen Morgan, Llangeitho; Llenyddiaeth - Y Prifardd Idris Reynolds, Brynhoffnant;
Cystadlaethau Llenyddol y Plant, - Maureen George, Maenclochog; Arlunio - Alun Ifans, Maenclochog.
Er fod 'na gystadleuaeth gorawl yn bodoli ar gyfer y plant a'r ieuenctid ers nifer o flynyddoedd, eleni fe gynhelir cystadleuaeth newydd ar gyfer corau o 25 o leisiau dros 15 oed i ganu dau ddarn cyferbyniol. Noddir y gystadleuaeth gan Gyngor Cymuned Maenclochog.
Fe fydd gan y plant o dan 12 oed gyfle i ennill Tarian Nest, sef Tarian a gyflwynwyd gan Wyn Thomas, Streatley on Thames, i'r cystadleuydd mwyaf addawol o dan 12 oed, er cof am ei chyfnither, Nest Llwyd. Mae 'na doreth o gystadlaethau llwyfan a llenyddol a chystadlaethau arbennig i'r dysgwyr. Am fwy o fanylion cysylltwch â'r ysgrifenyddion sef Heather Jenkins ar 01437 532392 neu Julie Thomas ar 01994 448756.
|