Wedi wythnosau o drefnu ac ymarfer daeth yr amser i ni fynd ar ein taith hir ddisgwyliedig i wledydd y Baltig. Yn wir, roedd yr holl drefniadau ar ran Kevin wrth drefnu'r daith ac ar ran Catrin a Margaret wrth baratoi'r côr wedi talu ar eu canfed, gan i'r daith fod yn un fythgofiadwy ... mewn sawl ystyr! Er i nifer ohonoch gael blas ar berfformiad y côr yn ein cyngerdd ar lwyfan Theatr y Gromlech ar yr 16eg Awst, dyma grynodeb o'n taith oherwydd cafwyd tipyn o dalent oddi ar y llwyfan hefyd!
Dydd Mawrth 22/8/06
O'r diwedd dyma'r amser wedi cyrraedd, a phawb wedi ymgynnull ar iard Ysgol y Preseli am 10.00 o'r gloch nos Lun er mwyn mynd i faes awyr Stanstead. Trwy lwc a bendith, llwyddodd yr offerynwyr a Kevin i ddal yr awyren o drwch blewyn wedi iddynt gael trafferth yn mynd drwy'r system ddiogelwch llym.
Wedi cyrraedd Tallinn, prifddinas Estonia, dyma ni'n ymlacio ychydig yn y gwesty cyn ein perfformiad cyntaf ar lwyfan awyr agored yn sgwâr y ddinas. Ond erbyn i ni
gyrraedd y sgwâr, roedd hi'n pistillo bwrw felly bu'n rhaid i ni gysgodi a chanu o dan fwau Neuadd y Ddinas!
Dydd Mercher 23/8/06
Gyda'r tywydd llawer yn well, cawsom gyfle i weld rhai o atyniadau mwyaf poblogaidd Tallinn drwy fynd ar wibdaith bws. Yn ystod y bore, buom yn ymweld â safle Gŵyl Gerdd y ddinas, sydd hefyd wedi bod yn lwyfan i enwogion fel Elton John, Rolling Stones a chôr Aelwyd Crymych hefyd erbyn hyn! Yna buom yn ymweld â nifer o hen adeiladau Tallinn. Roedd gennym brynhawn rhydd a dewisodd y rhan fwyaf ohonom gerdded o amgylch y ddinas, gan ymlacio mewn un neu ddau o Gafes Tallinn.
Cafwyd noson gofiadwy wrth i ni fentro i 'Troika' ac yn wahanol i'r noson gynt, penderfynodd rhai o'r dynion fanteisio ar y tywydd braf a gwneud perfformiad byrfyfyr cofiadwy ar y llwyfan awyr agored!
Dydd Iau 24/8/06
Dyma ni'n gadael Tallinn ac yn symud i Helsinki, y Ffindir. Siwrnai o awr a hanner oedd gennym ar y Seacat, ac nid oedd y daith arw hon wedi gwneud unrhyw ddaioni i'n stumogau. Wedi cyrraedd yr ochr draw, aethom yn syth i gartref Llysgennad Prydain i'r Ffindir, Dr. Valerie Caton, lle roeddwn yn perfformio mewn derbyniad yno. Aeth y derbyniad yn hynod o lwyddiannus, a braf oedd cael cyfarfod â nifer o'r gwestai a hwythau yn canmol ein perfformiad. Wedi cyrraedd ein gwesty yn Helsinki, aeth nifer i bwll nofio'r gwesty, tra bu'r gweddill yn cael pryd o fwyd yno. Heddiw, clywsom am lwyddiant Betsan yn yr arholiadau TG.A.U. Llongyfarchiadau mawr iddi!
Dydd Gwener 25/8/06
Roedd y bore hwn yn hynod o dwym ac felly aethom am dro o amgylch Helsinki. Cawsom daith ddiddorol iawn dan ofal tywysydd o amgylch Senedd y Ffindir, cyn cael derbyniad swyddogol yn y State Hall lle gwnaethom gwrdd â Dirprwy Brif Weinidog y Senedd. Yn y prynhawn aethom ar daith bws bleserus iawn dan ofal tywysydd o'r enw Lisa y gellir ond ei disgrifio fel 'haden'. Dangosodd Lisa brif
atyniadau'r ddinas i ni a bu Shôn a Dylan yn eu haddysgu hithau am Gymru hefyd! Cawsom gyfle i gerdded o amgylch y farchnad ger yr harbwr oedd yn gwerthu pob math o bethau, a bum fel côr yn canu'r emyn Finlandia o flaen cofgolofn y cyfansoddwr Sibelius oedd wedi cyfansoddi'r dôn.
Y noson honno, aethom oll i'r 'Zetor Restaurant' lie cawsom bryd o fwyd gwych. Roedd nifer ohonom ar bigau'r drain drwy'r nos wedi inni glywed fod yna glwb nos wedi'i wneud o iâ yn y ddinas, ac felly penderfynwyd bod rhaid i aelodau hŷn yr Aelwyd roi cynnig arno. Gydag Arwel a Shon ar flaen y gad yn arwain y ffordd, cyrhaeddom y clwb lle bu'n raid i ni wisgo cotiau a menyg am fod y tymheredd yn -5°C! Er gwaetha'r oerni, cafwyd noson gofiadwy lawn wrth i bawb gael eu synnu gan sgiliau dawnsio Arwel ac Aled!
Nos Sadwrn 26/8/06
Roedd heddiw yn ddiwrnod rhydd i ni gyd. Aeth rhai allan i'r môr ar daith i weld ynysoedd cyfagos, tra bu eraill yn ymweld ag amrywiaeth o atyniadau Helsinki neu yn siopa. Ond cysgodd Lon hyd 3.00 o'r gloch y prynhawn i wneud lan am yr hyn a gollodd hi neithiwr! Y noson honno, aeth nifer ohonom i Stadiwm Olympaidd Helsinki i wylio'r Ffindir a Sweden yn cystadlu yn erbyn ei gilydd mewn athletau. Wedi dychwelyd i'r gwesty cawsom gyfarwyddyd i gael noson dawel, o gofio fod gennym gyngerdd pwysig drannoeth.
Nos Sul 27/8/06
Roedd pawb wedi treulio'r rhan fwyaf o'r dydd yn ymlacio yn y gwesty, ac roedd meddwl pob un ar y gyngerdd y noson honno. Roedd y gyngerdd yn cael ei chynnal yn Temppeliaukion Kirko, sef eglwys sydd wedi'i hadeiladu yn y graig, ac roedd cynulleidfa fawr yno. Roeddem yn canu ar y cyd â Chôr Sibelius, ac roedd holl aelodau'r côr hwnnw yn mynychu Academi Sibelius. Mae'r côr hwn yn enwog ar draws y byd, ac roedd hyn yn amlwg o'i berfformiad.
Cafwyd cyngerdd amrywiol a chynhwysfawr, gyda Morys Rhys yn gwneud gwaith amhrisiadwy wrth drosi o'r Gymraeg i'r Saesneg wrth gyflwyno eitemau. Wrth gwrs, cafwyd perfformiadau gan y côr cymysg a'r parti merched. Yn ogystal â hynny, cafodd y gynulleidfa ei diddanu gan eitem dawnsio gwerin/clocsio gan Catrin a Nia, ynghyd ag eitemau gan y band gwerin. Cafwyd unawdau swynol gan Trystan, Donna ac Einir, a bu Claire yn swyno pawb wrth chwarae'r delyn. Ond i nifer yn y gynulleidfa, clywed y côr yn canu'r dôn Finlandia gan Sibelius oedd yr uchafbwynt, a phleser o'r mwyaf oedd clywed pobl yn canmol ein perfformiad wedi'r gyngerdd. Gyda phawb yn hapus â'r gyngerdd, aethom gydag aelodau Côr Sibelius yn ôl i'r gwesty am bryd o fwyd.
Dydd Llun 28/8/06
Dyma godi'n fore ar gyfer taith chwe awr mewn trên i St Petersburg, Rwsia. Roedd bolie pawb yn dechrau troi wrth agosau at y ddinas a gweld milltiroedd ar filltiroedd o fflatiau uchel, llwm, a doedd geirie Des "...dyma un o'r dinasoedd mwya' dansierus ..." ddim yn ein cysuro rhyw lawer chwaith! Yn goron ar y cwbl, wedi cyrraedd St Petersburg, cawsom 'groeso cynnes' gan ein gyrrwr bws wrth iddo adael y dasg o lwytho'r holl gesys ar y bws yn nwylo diogel Shon Midway! Roedd y gwesty yn enfawr gyda phob peth dan haul yno ac roedd yr olygfa o'r ddinas o'r ystafelloedd yn anhygoel. Wedi derbyn cyfarwyddyd i aros gyda'n gilydd drwy gydol ein hamser yn y ddinas, penderfynwyd y dylid aros yn y gwesty am y noson gyda nifer yn mynd i weld sioe Rwsieg draddodiadol a oedd yn cael ei chynnal yno. Dyma'r noswaith pan gefais i a Gwen vodka gyda'n swper a ninnau ond wedi gofyn am ddŵr!
Dydd Mawrth 29/8/06
Wedi cael brecwast y gallaf ond ei ddisgrifio fel un 'anarferol' (pwdin reis, quiche a cabej), cawsom daith mewn bws o amgylch St Petersburg. Roedd y profiad o weld adeiladau fel 'Palas y Gaeaf' yn wefreiddiol a bydd yn siŵr o aros yn ein cof ni gyd am byth. Roedd y prynhawn yn rhydd, felly wrth reswm, roedd rhaid i Helen, Margaret ac eraill i fynd i siopa tra aeth y gweddill ohonom i ymweld a chofgolofn Lenin. Roedd llawer ohonom ddim yn gwybod am hanes Lenin, felly cawsom wers hanes gyflym gan Phil Higginson wrth droed y dyn ei hun.
Y noson honno, cawsom bryd o fwyd ar gwch a oedd yn teithio ar hyd afon Neva, a bu DJ Shon Midway, Arwel 'Ifaciwi' Dole a Catrin 'Colli laith' Davies yn ein diddanu. Ac yn wir, parhaodd y canu tan oriau mân y bore.
Dydd Mercher 30/8/06
Roedd diwrnod hir o'n blaenau! Daeth 6.00 o'r gloch y bore'n rhy gynnar i rai ohonom, ac ni chafodd Dylan ddigon o amser i baco'r Russian Dolls hyd yn oed! Trên hen-ffasiwn iawn oedd gennym i'n cludo yn ôl i Helsinki, ac felly bu'n rhaid i mi a phump aelod anffodus arall o'r Aelwyd eistedd ar golau ein gilydd am bron i chwe awr! Roedd gweddill y dydd eisoes wedi'i drefnu, ac roedd pryd blasus o gig carw yn ein disgwyl yn Helsinki cyn i ni ddechrau ar ein siwrnai ar y Seacat nol i Tallinn. Gan mai dyma noson olaf y daith, trefnwyd ein bod yn mynd allan am fwyd gyda'n gilydd i fwyty Eidalaidd. Cafwyd noson dawel ar ôl rialtwch ein noson olaf yn St Petersburg, a chyflwynwyd anrhegion i Kevin a Catrin, Margaret a Morys, a Des a Helen am eu gwaith caled wrth drefnu'r daith ac am eu cyfraniad at lwyddiant y cyngherddau.
Roedd y dydd Iau yn dod a'n taith i
ben, ac ar y siwrnai o Stanstead i Grymych dyma Morys yn adrodd
penillion yn sôn am aelodau a digwyddiadau'r daith. Yn bendant,
bu'r holl brofiad yn un buddiol a phleserus i bawb. Gyda threfniadau'r
gwestai a'r gweithgareddau dyddiol wedi cwblhau'n drefnus ymlaen llaw,
llwyddwyd i sicrhau gwyliau hapus iawn. Ond yn ychwanegol at y
trefniadau, roedd cwmnïaeth dda pawb a oedd ar y daith yn sicrhau
gwyliau ardderchog. Edrychwn ymlaen at y daith nesaf!
Gwen Davies a Meleri Thomas