Y tebygrwydd yw bydd yr argymhelliad hwn yn nodi'r bwriad i gau ysgolion cynradd Hermon, Blaenffos a Crymych ac yna adeiladu ysgol ardal newydd i 180 o blant yng Nghrymych. Ar hyn o bryd mae 53 o blant yn Ysgol Gynradd Hermon sy'n adlewyrchu llwyddiant yr ysgol a'r galw am ysgol gynradd wledig yn ardal pentrefi Llanfyrnach, Y Glôg a Hermon. Mae rhieni Ysgol Hermon yn anfodlon gyda phroses ymgynghorol y Cyngor Sir. Yn wir, ar sawl achlysur bu'n rhaid i rieni Hermon adael y cyfarfodydd ymgynghori heb elwa o gwbl o ran gwybodaeth bellach am y datblygiadau yng Nghrymych a fyddai'n effeithio ar addysg eu plant yn Ysgol Hermon. Teimlir felly na fu'r broses ymgynghorol yn un gyson a theg i rieni Hermon. Mae'r Bwrdd Llywodraethol a rhieni Ysgol Hermon gant y cant yn erbyn y bwriad i gau'r Ysgol. Pam cadw Ysgol Gymunedol Hermon ar agor? Dyma'r dadleuon. Nifer Mae'r ysgol yn llawn. Bydd 54 o ddisgyblion yma yn Nhymor yr Hydref 2003. Mae arwyddion pendant y bydd twf cyson yn ystod y blynyddoedd nesaf. Erbyn hyn mae'r Cyngor Sir wedi caniatáu dros 40 o safleoedd adeiladu tai yn ardal Hermon, Y Glôg a Llanfyrnach. Gwelwn fod nifer o bobl ifanc lleol Cymraeg yn penderfynu adeiladu yma. Mae nifer y teuluoedd ifanc felly yn tyfu a hefyd y niferoedd yn y Cylchoedd Ti a Fi a'r Meithrin yn Hermon. Dyfodol sicr felly o ran nifer. Adeilad Ysgol Hermon Mae'r adeilad yn hollol glyd a diogel heb angen gwariant arno. Cost Mae addysgu plentyn yn Ysgol Hermon yn cyfateb yn ffafriol â'r norm sirol. Iaith Mewn awyrgylch gartrefol a phersonol mae modd hybu Cymreictod a diogelu'r iaith Gymraeg i'r dyfodol. Addysg Mae ansawdd y dysgu a'r addysgu o safon uchel ac atebir gofynion y Cwricwlwm Cenedlaethol yn llawn. Y Cymunedau yn Hermon, Y Glôg a Llanfyrnach Mae'r ysgol yn ganolbwynt i weithgareddau a bywyd y gymuned ac yn diogelu traddodiadau a datblygiadau cymunedol. Cymreictod Mewn ysgol fawr, bydd y broses o ddi-Gymreigio'r plant yn anochel ac yn arwain at golli Cymreictod Dymuniadau'r rhieni Nid oes cyfiawnhad o fath yn y byd dros gau ysgol fach wledig fel Hermon sydd yn ffynnu ac yn llwyddo.Mae gan Ysgol Gynradd Hermon frwydr anodd o'i blaen i ddarbwyllo aelodau Cabinet Cyngor Sir Penfro i gadw'r ysgol bentref ar agor ond hoffai'r rhieni annog unrhyw gynddisgyblion o'r ysgol neu aelod o'r cyhoedd sy 'n cefnogi cadw ysgolion bach gwledig ar agor i ysgrifennu at aelodau'r Cabinet yn ystod yr wythnos nesaf i ddangos eich gwrthwynebiad. Enwau aelodau'r Cabinet yw: Cyng. Maurice Hughes (Cadeirydd), Cyng. John Allen-Mirehuse (Is-gadeirydd), Cyng. John Davies, Cyng. Roy Folland. Cyng. Patricia Griffiths, Cyng. Brian Hall, Cyng. William Hitchings, Cyng. Brian Howells, Cyng William Roberts a'r Cyng. Peter Stock. Y cyfeiriad i anfon eich llythyrau o wrthwynebiad yw: Aelodau Cabinet Cyngor Sir Penfro, Neuadd Y Sir, Hwlffordd, Sir Benfro. SA61 1TP Diolch am ddarllen yr uchod. Rhaid gweithredu ar unwaith i warchod gwir werthoedd ein cymunedau gwledig er mwyn diogelu i'r cenedlaethau a ddaw " y glendid a fu". Rhieni disgyblion Ysgol Gymunedol Hermon
|