Nid ai'r un diwrnod heibio pan na fyddai wedi cyflawni diwrnod caled o waith ond, ar yr un pryd, heb fod yn rhy brysur i gadw llygad ar anghenion cymdogion. Gwyddai'n dda beth oedd defnyddio nerth bôn braich yn ddyddiol a hynny er mwyn cyflawni cymwynasau yn ogystal â chyflawni ei ddyletswyddau ei hun. Tawelodd y tractor ar glos Dandderwen. Edrydd pawb eu straeon am gymwyn¬asgarwch a chyfeillgarwch y gŵr garw ei ffordd ond tyner ei galon.
Syfrdanwyd y frawdoliaeth rygbi yng Nghastell-nedd a thu hwnt gan farwolaeth annhymig y cyn-chwaraewr rhyngwladol na fu ei debyg o ran cadw'n heini. Roedd y dorf enfawr yn ei arwyl yng Nghapel Blaenconin ar Chwefror 14, a nifer llethol ohonyn nhw o Gwm-nedd, yn tystio i'r parch oedd iddo fel chwaraewr digymrodedd ar y cae ac fel cymeriad unigryw oddi arno.
Er i Gymru golli ar y pum achlysur y bu Brian yn cynrychioli ei wlad yn 1990-91 enillodd yntau lu o edmygwyr am ei ymrwymiad a'i allu i wrthsefyll y cryfaf o'i wrthwynebwyr. Yn hynny o beth roedd eisoes yn arwr ar y Gnoll.
Doedd ildio ddim yn rhan o eirfa Brian pa beth bynnag a wnai a phrin y byddai yfory'n gwneud y tro i gwblhau'r dasg os oedd cetyn o heddiw yn dal ar ôl. A byddai'n gawr yn yr hyn a wnâi. Arwain yn hytrach na dilyn oedd ei arwyddair. Doedd dim angen ei gymell i gyflawni uchelgais. Doedd dim rhwystrau'n bod. Pa angen campfa ac offer drudfawr i gryfhau'r coesau air breichiau pan fedrai seiclo i Faenclochog a nôl heb sedd ar y beic a gwthio whilber yn llawn o frics heb wynt yn y teiar i Langolman a nôl?
Mae'r straeon am ei arwriaeth yn ystod y cyfnod o ddeuddeng mlynedd y bu'n chwarae dros y Duon yng Nghastell-nedd eisoes yn lleng. Pa chwaraewr arall fyddai'n cyrraedd ar gyfer ymarfer heb boeni bod gwynt y beudy wedi'i ddilyn? Doedd neb tebyg iddo am ddefnyddio'r breichiau cryfion yna i rwygo'r bel o ryc, a phetai o fewn ychydig lathenni i'r llinell gais, pwy feiddiai ei atal rhag ei daearu? A gwyddai'r cefnogwyr mai siarad plaen, gonest, di-flewyn ar dafod, a ddeuai o enau'r crest main mewn crys-t, waeth pa mor oer oedd yr hin, ar ôl y gêm. Rhyfeddent at ei anallu i werthfawrogi diben cefnwyr ar y cae rygbi i'r un graddau ag y rhyfeddent at ei straeon am yr hyn a ddigwyddai ym myd dirgel y rheng flaen.
Tebyg y byddai Tomos Rees, Carnabwth, ac yntau wedi bod yn ddau enaid cytun. Perthynai cadernid a chonsyrn am ddyfodol y filltir sgwâr i gyfansoddiad y ddau. Gwelodd Cymru chwaraewr rygbi rhyngwladol nad oedd fyth le i amau ei deyrngarwch na'i ymroddiad. Collodd Llangolman air cylch gymwynaswr parod, cyfaill da a chymydog triw.
Erys y wên ddireidus yna a ddeuai gyda phob cyfarchiad yn wynebau ei rocesi. Wrth gydymdeimlo â'i weddw, Gwen, ynghyd â Mari a Betsan, air teulu cyfan, tra byddan nhw'n tafoli'r golled, dymunir nerth a rhwyddineb iddynt yn y dyfodol.
Hefin Wyn
|