91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Clebran
Ann Howells Rhocesi'r Preseli : Ann Howells
Chwefror 2005
Mae'r golofn hon o Clebran yn gyfle i un o ferched bro'r Preseli ddweud ei dweud bob mis. Y mis hwn, tro Ann Howells, Offeiriad plwyfi Clydau, Lianfyrnach a Llanglydwen yw hi.
Rydyn ni i gyd yn cwyno am rywbeth - y tywydd diflas a'r glaw (diderfyn, neu ein poenau bach a'r ffaith ein bod ni'n mynd yn hen. Pa mor aml ydyn ni'n eistedd i lawr i gyfrif ein bendithion? Mwy na' thebyg nid yn aml iawn, â bod yn onest. Weithiau mae'n cymryd rhywbeth mawr i'n hysgwyd ni, ac i i'n gwneud ni feddwl. Rhywbeth fel y ddaeargryn a ysgwydodd y Môr Indiaidd ar Ŵyl San Steffan 2004.

Yn gorwedd yn y gwely yn gwrando ar y newyddion y bore hwnnw, roedd hi'n anodd cymryd y manylion i mewn. Mae 'na ddaeargryn wedi bod... a miloedd wedi marw yn Sri Lanka, India, Indonesia a Gwlad Thai ... bydd rhaid i mi gofio gweddïo dros y sefyllfa yn y gwasanaeth yn yr eglwys y bore 'ma. Dim ond rhai oriau yn ôl, yn chwilio am gyrff eu hanwyliaid, roedd maint y drychineb wedi dechrau suddo i mewn.

Mae'n anodd i ni ddychmygu sut oedd y bobl yn teimlo ar ôl iddyn nhw golli popeth. Mae'r ffaith bod y ddaeargryn wedi taro yn ystod y gwyliau pan roedd pobl o'r wlad hon yn aros yn y gwledydd hyn, wedi gwneud i'r drychineb ddod yn nes adref. Nid rhywbeth sy'n effeithio ar bobl Asia yn unig ydy hon - ond rhywbeth sy'n effeithio arnom i gyd.

Mae'r ffaith bod cymaint o bobl yn y wlad hon wedi rhoi yn hael i apêl y Tsunami yn dangos bod dioddefaint y miliynau wedi cyffwrdd â'n calonnau. Mewn ychydig o amser daeth miloedd o bunnau i mewn, ac aeth llawer o bobl ati i drefnu gweithgareddau i godi arian. Mae rhai wedi bod yn awyddus i helpu trwy gasglu pethau ymarferol - dŵr, bwydydd a meddyginiaeth.

Mae Euryl y gŵr yn Gaplan yn Ysbyty Cyffredinol Gorllewin Cymru yng Nghaerfyrddin. Gwnaeth yr ysbyty apêl am bethau ymarferol, a threfnwyd i ddwy lori fawr gasglu'r rhoddion a'u hanfon i ffwrdd. Ar ôl cyhoeddi'r apêl yn fy eglwysi ar y Sul, daeth llawer o'r plwyfolion i'm swyddfa yng Nghrymych gyda bagiau plastig yn llawn o bethau ymarferol. Aeth tri llond car i lawr i'r ysbyty un bore Gwener, i ymuno â'r bobl eraill a oedd hefyd wedi bod wrthi yn casglu.

Rwy'n siŵr bydd angen help ar y bobl druenus yn Asia am fisoedd eto. Ond mae'r ffaith bod cymaint o bobl yn y wlad hon ac yn yr ardal hon wedi dangos eu parodrwydd i'w helpu yn codi calon rhywun. Mae'r ddaeargryn yn Asia wedi ein hatgoffa ni pa mor ffodus yr ydym ni i fyw yn y wlad hon. Gadewch i ni gyfrif ein bendithion, a pheidio â chwyno am y pethau bychain sydd yn ein poeni, wrth i ni gofio am y rhai sy'n dioddef yn ein byd.

Dan ofal Prosiect Papurau Bro


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r 91Èȱ¬ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý