91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Clebran
Sgets o hen bigau a mast codi gwair Cofio Efail Pontyglasher


Ionawr 2003
Mae Ieuan James yn cofio yn ôl i ddyddiau gweithredol Efail Pontyglasher yn ei erthygl 'Llecynnau a Chwedl.'

Dim ond saith o dai sydd yna o gylch pont ar y ffordd o Grymych i Ffynnongroes, a dau arwydd yn dweud Pontyglasher, dyna'r cwbl.

Ond pentref bach a fu'n glwstwr o ddiwydiant unwaith, gyda ffarm, melin wlân, siop, gweithdy saer, efail, capel, ac ysgol fach Eglwyswen lan y ffordd. Distawodd y miri, peidiodd y ffermio, y felin, y siop, gweithdy saer, a'r efail ac nid yw'r plant yn heidio i'r ysgol ers blynyddoedd bellach. Mae mwy yn y fynwent nag yn y seddau.

Ond hen efail y pentref yw testun yr erthygl yma. Efail Thomas Morris, a fu'n enwog drwy'r wlad yn ei dydd, am ei ietiau haearn oedd ar fylchau caeau ymhell ac agos. Ond y pigau a'r mast codi gwair a'i gwnaeth yn fwyaf enwog, oherwydd yn efail Pontyglasher y cynlluniwyd y ddyfais arbennig hon a oedd yn boblogaidd iawn yn yr ardaloedd hyn slawer dydd, ar y ffermydd lle nad oedd sied wair.

Roedd y pigau neu'r bache yn cael eu defnyddio mewn siediau hefyd ond mewn system ychydig yn wahanol, ond roedd y mast gwair yn boblogaidd iawn.

Pigau a mast codi gwair
Polyn pren o tua deg troedfedd ar hugain neu ragor o uchder oedd hwn yn cael ei ddal i fyny gan bedair neu ragor o raffau. Tua tri chwarter y ffordd i fyny'r mast y lleolid y gaff, a fyddai yn troi o gwmpas y mast i'w alluogi i gario'r gwair trosodd i'r rhic neu'r das.

Ym môn y gaff ac yn ei flaen roedd pwli gyda rhaff yn rhedeg trostynt o'r pige neu'r bache i bwli arall yn môn y mast ac i'r ceffyl fyddai'n gwneud y gwaith caled o godi'r gwair. Byddai'r bachwr, sef yr un fyddai'n gweithior bache, yn aros ar y llawr neu ar ben y llwyth, ac wedi bacho'r bigaid wair byddai'r ceffyl yn tynnu nes codi'r gwair i fyny.

Wedyn byddai'r gaff yn troi tua'r rhic a phan fyddai'r bigaid uwch y fan gofynnol ar y rhic, roedd y bachwr yn tynnu wrth raff ysgafn oedd yn cysylltu â'r bache ac yn gollwng y gwair yn y fan a'r lle. Y gyfrinach gyntaf oedd sefydlu'r mast gyda'r goledd iawn tua'r rhic, ac ychydig i'r dde neu'r chwith fel y byddai'r angen, fel y byddai'r gaff a'r bigaid wair yn chwyrlïo tua'r rhic drwy nerth disgyrchiant ac allgyrchol (gravity a centrifugal) ac fe allasai bachiwr profiadol ollwng y bigiaid wair lle y mynno ar ben y rhic, ac arbed llawer o waith caled a chwys i'r sawl a fyddai'n gweithio'r rhic.

Yn hyn o beth roedd mast yn llawer gwell na'r pigau yn y sied wair a oedd yn fwy cyfyng yn eu gwaith. Fel y gallwch ddychmygu roedd yn ddyfais weddol beryglus, ac yr oedd yn rhaid bod yn wyliadwrus iawn wrth ei godi a'i weithio, mae hanes am fwy nag un a gafodd ei ddiwedd drwy esgeulustod neu ddiffyg parch at y mast gwair.

Gwnaeth yr efail fach gannoedd os nad miloedd o'r gaffiau a'r pigau hyn yn hanner gyntaf y ganrif ddiwethaf, a gwelwyd llwythi lori ohonynt yn mynd heibio hen ysgol fach Eglwyswen pan oeddwn yn blentyn, a phob un wedi ei beintio'n wyrdd golau, ac yn dwyn stamp Thomas Morris and son, Bridge Iron Works, Pontyglasher, Pembrokeshire.

Dim ond tri oedd yn gweithio yn yr efail fach yn fy nhôf i, sef Llewelyn Morris, y perchennog sef mab y Thomas Morris gwreiddiol, a Tom Edwards, pen crefftwr o of, a mab i chwaer Llewelyn Morris, yn cael ei gynorthwyo gan ei frawd yng nghyfraith, John Owen, gwr ei chwaer. Gwelwch ei fod yn fusnes weddol deuluol felly. Ond maen debyg fod yna bymtheg o ddynion yn gweithio yn yr hen efail fach yn ei hoes aur.

Dim ond y gwaith haearn i gyd oedd yr efail yn eu paratoi, rhan y ffermwr oedd canfod y pren a'i addasu. Ers blynyddoedd bellach mae'r adeilad wedi peidio â bod yn efail, heddiw mae'n garej cyweirio ceir hwylus i beiriannydd lleol o Grymych, Ryan Owen, a hynny yn gwbl nodweddiadol o'r oes-cyweirio ceir lle bu pedoli ceffylau.

O'r beler i'r peiriant silwair
Daeth y galw am wasanaeth y mast gwair i ben yn sydyn yn y pumdegau gyda dyfodiad y byrnwr gwair (y beler) yr hwn a wnaeth ddifetha hud y tymor gwair, ond gwthiwyd yntau hefyd i'r gornel gyda dyfodiad y peiriant silwair, ar rhai hynny erbyn hyn wedi tyfu mor fawr nes gallant gynaeafu dros gan erw mewn un diwrnod. Beth ddaw nesa meddech chi?

Er mai yn Efail Pontyglasher y dyfeisiwyd y mast codi gwair, cofiaf i mi weld hysbyseb yn y Farmers Weekly flynyddoedd yn ôl gan ryw gwmni peiriannau yn Lloegr a oedd yn cynhyrchu dyfais oedd yn gweithio yn union yr un fath, ond mae polyn haearn a rhaffau dur oedd i hwnnw. Ond ydyw'r Sais wedi capitaleiddio i'r eithaf ar bob cyfle erioed?

Does yna'r un mast gwair ar gael bellach, ond mae ietau haearn Pontyglasher yn hongian yn gryf o hyd, ac ambell un bron â dathlu canmlwyddiant.

Melin wlân y Dolgoed
Ychydig iawn a wyddom o hanes y felin wlân yn Dolgoed a oedd yn cael ei gweithio gan deulu'r Griffithsiaid ar y cyd, gyda'r felin a'r Rhos Glynmaen, yn yr adeilad a elwir heddiw yn Brynawelon. Roedd nhad yn dal i gyfeirio at yr adeilad fel 'Y Ffatri' hyd ei farw bron, ond daeth y gwaith i gyd i ben yn nhridegau'r ganrif ddiwethaf, pan ballodd iechyd yr hen Ifan Griffiths, tad-cu yr Ifan Griffiths presennol. Saif rhai o adeiladau felin Dolgoed o hyd, ac fe addaswyd adeilad Brynawelon yn dy byw, ac nid oes arwydd o'r henwaith yna bellach, dim ond olion llyn y rhod anarferol, am ei bod wedi ei gwneud o bren.

Roedd tylwyth y Griffithsiaid yn flaenllaw iawn yn y diwydiant gwlân, hwy oedd yn cynnal melin y Star, a melin Trewynshor, yn sir Aberteifi, ac mae'n dra phosib mae yr un hefyd oedd Griffithsiaid melin Tregwynt a Treamlod.

Ieuan James.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý