91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Clebran
Morwen Williams "Gwraig Siop Orau Cymru"
Tachwedd 2004
Goleuadau llachar, derbyniad siampên, a holl razzamatazz seremoni wobrwyo ddisglair mewn un o westai mwyaf crand Llundain!

Dyna'r profiad anhygoel a gafodd un wraig o Faenclochog yn ddiweddar, wedi iddi gael ei henwebu am wobr yn un o seremonïau pwysicaf y diwydiant siopau bach ym Mhrydain. Cafodd Morwen Williams ei henwebu am ei gwaith yn Siop Sarah ym Maenclochog, felly, bant â hithau a pherchennog y siop, Sarah Eynon i Llundain ar gyfer y noson wobrwyo.

Roedd hi'n ddechrau mis Hydref, a gwesty pum seren y Renaissance Chancery Court oedd y lleoliad ar gyfer gwobrwyon blynyddol y cylchgrawn Convenience Store. Mae'r noson hon yn uchafbwynt blwyddyn o waith caled i nifer o berchnogion siopau ar draws Prydain, ac adlewyrchwyd hynny yn y nifer fawr o bobol oedd yn bresennol yno.

Roedd pobol o bob cwr wedi eu henwebu am wobr - o Belffast, Cernyw ... a Maenclochog wrth gwrs! Wedi ei henwebu am Wraig Siop y Flwyddyn yng nghategori siopau'r sector annibynnol oedd Morwen, a hi oedd yr unig un o Gymru gyfan i ennill lle yn y categori hwn. Beth bynnag y canlyniad felly, roedd Morwen eisoes wedi ei choroni â'r teitl answyddogol Gwraig Siop Orau Cymru.'

Sarah, perchennog y siop oedd wedi cyflwyno enw Morwen i'r pair, a hynny oherwydd yr holl waith arbennig a wnaeth yn y cyfnod pan roedd Sarah i ffwrdd. Wedi iddyn nhw dderbyn yr enwebiadau, daeth "cwsmer cudd" i Faenclochog ar ran y cylchgrawn i Morwen wrth ei gwaith dros ei hun. Maen amlwg iddo gael ei blesio gan waith Morwen, felly cafodd wahoddiad i fynd i Lundain, yn un o bump yn unig oedd wedi cyrraedd y brig yn y dosbarth hwn.

"Wedd e'n gwmws fel mae'r seremonïau mowr' ma ar y teledu" meddai Morwen o'r seremoni crand yn Llundain. "Wedd pob un yn eistedd ar eu fordydd a chafodd pob un ymhob categori eu galw lan i'r llwyfan."

Wrth gyrraedd y llwyfan, gyda llun mawr ohoni ar y sgrin enfawr yn y cefndir, cyflwynwyd Morwen i'r dorf gan neb llai na'r llais tu ôl i'r Loteri Cenedlaethol, Alan Dedicoat.

"Na, don i ddim mor nerfus â hynny," meddai Morwen am ei phrofiad. "Wen i'n nerfus wrth ddisgwyl mynd mewn i gael cyfweliad y bore 'ny, ond wen i'n iawn."

Do, bu'n rhaid i Morwen wneud tipyn o waith ar fore'r seremoni, yn cael ei chyfweld gan banel oedd yn holi am ei ffordd o ddelio gyda chwsmeriaid yn y siop, a hefyd am gynnyrch noddwyr y gwobrwyon fel Coca Cola, Wrigleys a Mars.

Er na enillodd Morwen y prif deitl, fe adawodd Llundain gyda llond sach o gynnyrch noddwyr y gystadleuaeth, a llond côl o atgofion arbennig.

"Wedd e werth mynd, yn bendant," meddai. "Wedd popeth mor arbennig, a wedd e'n agoriad llygad hefyd i weld shwt ma'r hanner arall yn byw ... a ni'n dwy o Maenclochog yn eu canol nhw!"

Llongyfarchiadau mawr i Morwen ar ei champ ac am yr anrhydedd o fod ymhlith y 5 gorau trwy Brydain gyfan am weini cwsmeriaid - a'r gorau yng Nghymru gyfan. Pwy a ŵyr ... efallai y bydd Morwen ar ei ffordd ôl i Lundain i seremoni arall y flwyddyn nesaf eto. Byddai wrth ei bodd yn mynd dw i'n siŵr!

Aled Vaughan,
Prosiect Papurau Bro


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r 91Èȱ¬ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý