Yn ogystal â'i swydd fel hyfforddwraig llais yng Ngholeg Cerdd a Drama Cymru yng Nghaerdydd, mae Buddug wedi bod ar daith gyda'i sioe Castradiva, ac mae hi hefyd wedi cael ei dewis i actio rhan Lady Capulet yn y fersiwn Gymraeg o Romeo and Juliet gyda Theatr Genedlaethol Cymru. Fe fydd y cynhyrchiad hwn yn dechrau ei daith o gwmpas Cymru y mis hwn, ac yn gwmni i Buddug ar y daith bydd rhai o actorion amlycaf Cymru sef Wynford Elis Owen, Christine Pritchard, Maldwyn John a Delyth Wyn. Mae'n argoeli i fod yn gynhyrchiad arbennig o un o glasuron Shakespeare.
Shwd fenyw yw Lady Capulet, rôl Buddug yn y cynhyrchiad felly?
"Mae'n gymeriad calculated iawn ac mae'n gwybod yn iawn beth mae hi mo'yn!" meddai Buddug gyda gwên ar ei hwyneb.
"Mae'n debyg ei bod hi'n ceisio rheoli ei gŵr, sydd tipyn yn henach na hi a bach yn bumbling. Mae'n fenyw ddiddorol dros ben, achos ma' lot o wahanol facets iddi. Mae'n fenyw galed iawn, a bydd hi'n her i fi wrth chwarae'r rôl i fesur y caledi ma yn erbyn y cariad sydd ganddi tuag at ei merch, os oes 'na gariad na o gwbwl."
Mae Buddug yn edrych ymlaen yn fawr at fod yn rhan o'r daith hon, ac hefyd i fod yn rhan o Theatr Genedlaethol newydd Cymru.
"'Dwi erioed wedi ishe 'neud Shakespeare, ond wen i ddim yn meddwl bydden i'n 'neud e'n Gymraeg!" meddai, "ac ma' cael i neud e gyda'r Cwmni Cenedlaethol yn rhywbeth ffantastig!"
"Dwi bach yn ofnus wrth gwrs, achos mae'n sialens fowr, ond dwi'n edrych 'mlaen yn o ofnadwy!"
Er ei bod hi wedi actio rhai o gymeriadau benywaidd mwyaf y byd opera cyn hyn, mae Buddug yn fwy cyfarwydd â gwisgo lan fel dyn yn ddiweddar, wrth bortreadu chwe dyn gwahanol yn ei sioe Castradiva. Yn wahanol iawn i hynny, un cymeriad fydd ganddi yn Romeo a Juliet, a menyw fydd honno - mae Buddug yn edrych ymlaen gyda chwilfrydedd at hynny!
"Bydd e'n ddiddorol!" meddai gan chwerthin, cyn ychwanegu sylwadau rhywun wrth iddi bortreadu gwraig Hercules mewn cynhyrchiad diweddar, sef "Please don't make her so manly"!
Ond yn ôl Buddug, mae Lady Capulet yn fenyw awdurdodol iawn ond mae na ochr wrywaidd i hon eto! "Un cymeriad sydd gyda fi am y noson gyfan" meddai Buddug, 'ond gyda'r sbectrwm o emosiynau sydd gan hon, mae hi'n anrheg mowr i fi!"
Bydd Romeo a Juliet yn teithio theatrau ar draws Cymru gyfan, ond mae'n dod i ben mewn theatr sy'n gyfarwydd iawn i Buddug, Theatr Mwldan. "Mae'n 'brilliant' achos ti gatre" meddai.
Ydi, mae Theatr y Mwldan yn ail gartref i Buddug, ac yn ddiweddar cafodd y fraint o agor y theatr yn swyddogol ar ei newydd wedd, oedd yn bleser mawr iddi. "Pan ges i'r alwad, nes i biti torri lawr i lefen" meddai wrth edrych nôl. 'Wen i draw yn Iwerddon pan wnaethon nhw ofyn i fi a gofynnes i 'Are you sure there's no one else?!' Mae wedi bod yn rhan o 'mywyd i mewn mwy nag un ffordd, a ma' lot gyda fi fod yn ddiolchgar i'r theatr hon."
Er mai Romeo a Juliet sy'n mynd â sylw Buddug ar hyn o bryd, bu ar daith i Croatia yn ddiweddar gyda'r sioe Castradiva. Cawsant dderbyniad arbennig yno ac maent wedi cael gwahoddiad i fynd yn ôl y flwyddyn nesaf gyda chynhyrchiad o Hercules sy'n cynnwys unawdwyr Cymraeg a chôr o Slofenia. Yn ogystal â hyn oll, mae sioe arall wedi ei chomisiynu.
Does dim taw ar brysurdeb Buddug, oherwydd os nad yw hyn oll yn ddigon, mae hi'n gyfrifol am sioe newydd sbon sydd wedi ei chomisiynu yn arbennig, sef 'A Knife at the Opera', ac mae'r premiere yn Theatr Mwldan rhywbryd flwyddyn nesaf. Y cyfan mae Buddug yn fodlon dweud amdano yw "ma critics a llofruddiaeth ynddo!" Mae'n swnio'n ddiddorol iawn a dw i'n siŵr y bydd yn gynhyrchiad gwerth ei weld.
Dymunwn yn dda i Buddug gyda'r holl berfformiadau dros y misoedd nesaf, ac os ydych am fynd i weld Romeo and Juliet yn Theatr Mwldan gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw 9-11 Tachwedd yn rhydd!
Aled Vaughan
dan ofal Prosiect Papurau Bro