Efallai mai'r canolbwynt amlycaf yw sgwâr y pentre. Heddiw mae nifer o adeiladau o bwys yn sefyll o amgylch y sgwâr sef tafarn y Serjeants, yr Arfdy ac eglwys y plwyf. O ddewis y rhain fel canolbwynt, gallwn adrodd llawer am hanes y fro.
Yn gefn i ni, mae yna ddwy ysgrif Gymraeg werthfawr iawn ar Hanes Eglwyswrw; y naill yn dyddio o 1870-75, gan awdur anhysbys, sy'n cael ei chadw yn Archifdy Hwlffordd, y llall gan Harry Lewis, Pantygarn sy'n dyddio o 1913 ac yn dal yn nwylo teulu lleol.
Ychydig a wyddom am hen hanes Eglwyswrw, ond pan ledaenwyd yr heol rhwng yr ysgol ar eglwys rai blynyddoedd yn ôl, cafwyd cipolwg i mewn i'r gorffennol pell wedi i Archeoleg Cambria fod yn cloddio (Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed gynt).Beddau o dan y ffordd
Am un peth, profodd archeolegwyr fod beddau o dan y ffordd ac i lawr i gyfeiriad y sgwâr - beddau sy'n gorwedd o dan haenen o gerrig sydd â darnau o grochenwaith canoloesol yn gymysg â nhw. Felly mae'n rhaid mai beddau canoloesol cynnar oedd y rhain: beddau trigolion yr ardal cyn y l3eg ganrif.
Diddorol nodi hen draddodiad sy'n cael sylw awdur anhysbys yr ysgrif yn Archifdy Hwlffordd, fod beddau wedi cael eu ffeindio o dan y sgwâr, o gwmpas y Serjeants a hyd yn oed draw i gyfeiriad y Swyddfa Bost a'r Plough yn y gorffennol.
Mae gwaith archeolegol modern felly wedi profi bod hyn yn debyg o fod yn wir, a bod y fynwent ganoloesol yn llawer mwy na'r fynwent bresennol.
O dan y beddau, gwelwyd olion cynharach. Datgelwyd rhan o ffos gron oedd o bosib yn dynodi ymyl claddfa neu garnedd o'r Oes Efydd, 4,000 o flynyddoedd yn ôl. Ond ni welwyd digon i fod yn sicr ac roedd rhaid gorffen cloddio heb gael atebion pendant.
Yr unig beth amlwg oedd bod y bryncyn lle saif yr eglwys heddiw wedi bod yn ganolbwynt i'r gymuned leol am dros 700 mlynedd, ac o bosib llawer hwy.
Pwy oedd Gwrw?
Un o'r cwestiynau cyntaf i mi ofyn pan welais Eglwyswrw am y tro cyntaf oedd: pwy oedd Gwrw? Wedi'r cyfan mae'r eglwys ei hun wedi ei chysegru i Sant Cristiolus. Yn sicr, nid Eglwys Erw yw'r esboniad cywir am enw'r pentre na'r plwyf.
Dywed traddodiad (a'r hanesydd Elisabethaidd enwog George Owen, Henllys, Felindre Farchog) mai gwyryf o sant oedd Gwrw neu Wrw, a bod capel yn gysegredig iddi wedi sefyll yn y fynwent, hyd at y l6eg ganrif o leiaf.
Dywed traddodiad hefyd bod ofn ar bobol yr ardal i gladdu'r meirw yn y capel am y byddai ysbryd y sant yn siwr o'u taflu allan; ni chysgai Wrw gyda neb arall am mai gwyryf ydoedd wrth gwrs.
Mae'r traddodiad yma yn rhoi gwir ystyr enw'r pentre i ni, dybiwn i, sef Eglwys Wrwyf - The Church of the Virgin. Byddai tafodiaith yr ardal yn sicrhau bod Eglwyswrwyf yn troi yn Eglwyswrwy ac wedyn yn Eglwyswrw.
Mae yna ffynnon sanctaidd hynafol yn ymyl y pentref hefyd (ger yr hen gastell). Ffynnon Fair yw honno ac mae'r cysylltiad rhwng enw'r Forwyn Fair, y ffynnon a'r eglwys yn un amlwg.
Adlais o ddylanwad yr hen eglwys Gatholig sydd i'w gael yma i bob golwg, wedi goroesi mewn traddodiad cymysglyd am Sant Gwrw ers canrifoedd lawer.
Dwy wyl flynyddol
Adlais arall o'r cyfnod Catholig oedd cynnal dwy wyl flynyddol yn y pentre 'slawer dydd. Ar Dachwedd y 3ydd y dathlwyd Dydd Gwyl Wrw yn Eglwyswrw, er yn rhyfedd iawn, Dydd Gwyl Cristiolus yw Tachwedd 3ydd yn ôl y calendr eglwysig. Hydref 21 oedd dyddiad cywir Gwyl Wrw.
Roedd dathlu mawr hefyd ar Iau'r Dyrchafael. Yn ôl awdur anhysbys yr ysgrif yn Archifdy Hwlffordd, roedd y gwyliau hyn wedi troi yn ffeiriau ac yn y diwedd dirywio i fod yn ddiwrnodau o ymladd.
Roedd Iau'r Dyrchafael yr achlysur i wyr Eglwyswrw ymladd yn erbyn gwyr yr Eglwyswen am flynyddoedd lawer. Tybed ai gêm o gnapan rhwng gwyr y ddau blwyf oedd y tu cefn i'r ymladdfa?
I droi yn ôl at hanes Ffynnon Fair, mae'n rhaid nodi bod y ffynnon hon yn dal i gynhyrchu miloedd o alwyni o ddwr ffres bob awr o'r dydd.
Erbyn tua 1800, roedd y llyfrwerthwr a'r siopwr enwog Caleb Evans, Eglwyswrw, wedi adeiladu bath oer iddo'i hun ar safle'r ffynnon sanctaidd.
Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, trowyd yr hen ffynnon a bath oer Caleb Evans i mewn i ffynhonnell ddwr ar gyfer canolfan y Land Army (oedd hefyd yn cael ei ddefnyddio fel gwersyll i garcharorion rhyfel am dro).
Mae'r gwersyll, i fyny'r rhiw y tu ôl i swyddfa bost y pentre, bellach yn dy annedd wedi ei foderneiddio. Darn mawr o goncrid hyll sy'n cuddio'r ffynnon sanctaidd, ond mae'r dwr gloyw glân yn dal i fyrlymu i'r wyneb a llifo tua'r afon Gafren gerllaw.
Erthygl gan Paul Sambrook o Eglwyswrw, archeolegydd yn gweithio gydag Archeoleg Cambria.
Mae Paul Sambrook bellach yn un o bartneriaid Trysor, ymgynghorwyr treftadaeth yn Ne-orllewin Cymru.
Gol. Mai, 2005.