"Mae wedi cymryd dwy fil o flynyddoedd o wareiddiad Cymraeg i greu dyn fel Waldo"Dyna'r dyfyniad herfeiddiol sydd ar glawr rhifyn arbennig o bapur bro ardal , Preselau sy'n dathlu canmlwyddiant geni y bardd, yr heddychwr a'r Cristion, Waldo Williams.
Emyr Llewelyn piau'r dyfyniad ac mae'n osodiad sy'n werth oedi uwch ei ben yn ôl Hefin Wyn, cydlynydd 'Clebran Sbesial Waldo,' sydd ar werth yn y siopau ar hyn o bryd.
"Yn sicr mae mawredd Waldo fel bardd yn cynyddu ac mae llawer o'r farn bellach ei fod n haeddu statws sant ar gownt ei safiad yn enw heddwch a'i frawdgarwch sylfaenol" ychwanegodd.
Mae'r rhifyn 44 tudalen yn cynnwys atgofion gan gydnabod yn amrywio o atgofion Dilwyn Vaughan yn cyfarfod â Waldo mewn siop tships yn Hwlffordd i atgofion Dafydd Iwan yn ei gyfarfod mewn ralïau gwladgarol.
Mae nifer o ysgolheigion megis Bobi Jones a Hywel Teifi Edwards yn ail asesu ei gyfraniad fel bardd.
Ceir cyfraniadau hefyd gan y prifeirdd Eirwyn George a Dylan Iorwerth yn ogystal â Menna Elfyn a Wyn Owens.
Llwyddwyd i ddod o hyd i'r disgyblion hynny a welwyd yng nghwmni Waldo yn y poster adnabyddus hwnnw o eiddo Cyngor y Celfyddydau.
Datgelu hanes 'Fel Hyn y Bu'
Am y tro cyntaf datgelir y gwir hanes y tu ôl i'r gerdd 'Fel Hyn y Bu' pan wrthododd Waldo ddangos ei 'Identity Card' a chael ei gamgymryd am ysbïwr Almaenig!
Mae nifer o artistiaid fydd yn cyfrannu at arddangosfa arbennig sydd i'w chynnal yn Hwlffordd yn fuan yn esbonio pa gerddi o eiddo Waldo sydd wedi eu hysbrydoli.
Ceir hanes yr englyn coch hwnnw y byddai Waldo yn cyfnewid un lafariad yn y gair cloi yn dibynnu pwy fyddai ei gynulleidfa pan yn ei adrodd.
Cyhoeddir llun o blant Ysgol Mynachlog-ddu ar ddiwrnod olaf Waldo yn ddisgybl yno. Y plant hynny fu'n gyfrifol am ddysgu'r Gymraeg i Waldo a hynny nid yn yr ystafell ddosbarth ond ar yr iard chwarae ac ar glosydd ac aelwydydd yr ardal.
Cyrhaeddodd Waldo bentref Mynachlog-ddu yn grwt seithmlwydd oed heb air o Gymraeg ac fe symudodd oddi yno bedair mlynedd yn ddiweddarach i bentref cyfagos Llandysilio yn Gymro rhugl.
Yn ôl yr unig un o'r disgyblion yn y llun sydd ar dir y byw, B G Owens (Aberystwyth), mae dyled cenedl yn fawr i fechgyn fel Dai Mwntan, Stanley Glynsaithmaen, Edgar Tycwta, Wil Allt-y-gog a Dai Carnabwth am ddysgu Cymraeg i Waldo trwy chwarae.
Codir y cwestiwn a ddylai addasu Rhosaeron, hen gartref teulu Waldo Williams yn Llandysilio, yn amgueddfa neu ganolfan ddehongli i hyrwyddo mawredd gŵr lleol a ystyrir ymhlith y mwyaf o feirdd y genedl.
Ni ddylai'r un o ddarllenwyr papurau bro fod heb ei gopi o Clebran Sbesial Waldo.
Beth yw eich barn am gerddi Waldo Williams? Dwedwch wrthyn ni - byddwch y cyntaf i ddweud eich dweud ar y ddalen yma!