Mae'r ardal yn ymestyn o Eglwyswrw hyd at Fathri. Mae hon yn ardal o arwyddocâd ieithyddol arbennig sydd mewn safle hollbwysig i ddyfodol yr iaith Gymraeg yng Ngorllewin Cymru. Mae'r Gymraeg yn ganolog i etifeddiaeth ddiwylliannol y cylch a dylai barhau'n rhan annatod o wead cymdeithasol yr ardal. Nod y prosiect yw ehangu dwyieithrwydd a'r defnydd o'r Iaith Gymraeg o fewn ardal y Cynllun wrth ddenu cefnogaeth pobl leol i gymryd rhan mewn gweithgareddau dwyieithog.Yn ogystal, mae dau gynllun arall yn gweithio o dan y Fenter sef Cynllun Ogam dan Swyddogaeth Rhian Owens, cynllun er mwyn cynnal Tir a Môr, laith a Diwylliant; a Chynllun Estyn Llaw sydd yn gyfrifol am y sector gwirfoddol yn Sir Benfro, dan arweiniad Nerys Rhys.
Mae canlyniadau Cyfrifiad 2001 newydd eu rhyddhau, a braf oedd gweld bod cynnydd yn yr Iaith Gymraeg. "Mae'r cynnydd yma yn gam pwysig ymlaen i'r Gymraeg. Am bron i ganrif bu'r iaith yn colli tir ac yn dirywio'n gyflym ar hyd a lled y wlad, felly mae'n gadarnhaol iawn gweld cynnydd yn nifer y siaradwyr Cymraeg ar draws y, wlad," medd Rhodri Williams, Cadeirydd Bwrdd yr laith Gymraeg. Mae gwaith y Mentrau Iaith ym mhob rhan or wlad wedi cyfrannu at yr adfywiad hyn, gan gynnwys rôl bwysig partneriaethau eraill Bwrdd yr Iaith Gymraeg megis TWF a Mudiad Ysgolion Meithrin.
Ymunodd Menter Iaith Sir Benfro a Theatr Ffowm yn ddiweddar i greu perfformiad i deithio o amgylch ysgolion uwchradd y Sir. Bu disgyblion o Ysgol Bro Gwaun a Ysgol y Preseli yn cymryd rhan er mwyn creu drama o dan arweiniad Iwan Brioc.
Ar y deunawfed o Chwefror bu Cynllun Bro DJ yn cyd-weithio gyda Urdd Gobaith Cymru i drefnu Diwrnod Hwyl yng Nghanolfan Hamdden Abergwaun, lle bu dos 25 o blant y cylch yn cymryd rhan ac yn mwynhau'r gweithdai Golff, Saethyddiaeth (Archery) a Dawnsio Gwerin.
Mae'r berthynas rhwng Menter Iaith Sir Benfro a'r Urdd yn cryfhau, ac mae gwersi Tenis Cymraeg wedi dechrau yng Nghanolfan Chwaraeon Abergwaun. Mae gwersi ar gyfer plant rhwng 8-11 oed yn cael eu cynnal rhwng 5 a 6 o'r gloch ar brynhawn ddydd Gwener a chwrs ar gyfer pobl ifanc rhwng 11-14 oed yn dilyn rhwng 6 a 7 o'r gloch. Bydd y cyrsiau yn parhau am ddeg wythnos. Os oes diddordeb gyda'ch plant fynychu'r cwrs, cysylltwch gyda Darren Bowen o Swyddfa'r Urdd yn Llangrannog ar (01239) 654196.
Aelwyd yr Urdd newydd Abergwaun
Mae Aelwyd yr Urdd wedi agor yn Abergwaun ers rhai misoedd bellach; ac mae plant yr ardal yn cael siawns i wneud amrywiaeth o weithgareddau trwy gyfrwng yr Iaith Gymraeg gan gynnwys gwneud Crempog a Wyau Pasg, ymweld â Grosaf dân Abergwaun, Sgio yng Ngwersyll yr Urdd Llangrannog, ag ymweld â pherfformiadau yn Theatrau yr ardal, a llawer llawer mwy.
Er mwyn sicrhau parhad Aelwyd Abergwaun, mae angen eich help!! Mae o hyd yn braf gweld oedolion ifanc yn ymuno gydag Aelwydydd yr ardal, felly os oes unrhyw un o chwi ddarllenwyr Clebran yn dymuno fod yn rhan o Aelwyd Abergwaun neu' n dymuno cynorthwyo gydar gwaith, cysylltwch gyda Michael yn Swyddfa'r Fenter yn Abergwaun.
Mae staff y Fenter hefyd yn medru cyfieithu hyd at 250 o eiriau am ddim yn y Swyddfa yn Abergwaun, felly os oes angen rhywbeth wedi ei gyfieithu arnoch galwch i mewn i'n gweld yn 17, Y Wesh, Abergwaun. Rhif Ffôn: - (01348) 873700. Gwnewch yn siwr fod cynnydd yn y defnydd o'r iaith Gymraeg yn parhau yn eich ardal chi trwy gefnogi Cynllun Bro DJ a Menter laith Sir Benfro. Os oes gennych syniadau neu os hoffech gefnogi neu gyfrannu at y prosiect mewn unrhyw ffordd byddwn yn falch o glywed wrthych.
Michael Llewelyn. Swyddog Cynllun Bro.