Gwnaeth argraff safonol ar Andrew Lloyd Webber wrth iddo ganmol ei pherfformiadau o un wythnos i r llall, a gwych oedd gweld y ferch o Sir Benfro yn cipio'r wobr o gael ymddangos fel y prif gymeriad yn y sioe "The Sound of Music" yn Llundain.
Fe ddaeth y Wasg yng Nghymru i wybod yn go gyflym bod Connie yn medru siarad Cymraeg a bod ganddi gefndir o berfformio mewn Eisteddfodau ac wedi bod yn aelod brwd o Gôr Newyddion Da. Fe aeth Clebran i drafod gyda Marilyn Lewis, arweinydd Côr Newyddion Da, i gael hanes pellach am Connie.
Roedd yr amseriad am y drafodaeth yn un berffaith, oherwydd bod mam Connie, Janet Fisher, a hefyd mam-gu Connie, Nana Dot, yn y tÅ· gyda Marilyn. Yr oeddent yn galw ag anrheg a neges arbennig i Marilyn oddi wrth Connie.
"Roeddwn yn gwylio pob rhaglen o'r gyfres, ac yn naturiol yn gweld bod Connie â siawns dda o gyrraedd y tri olaf; roedd ganddi dalent amlwg a siawns dda o fod ar y brig; ond does neb yn gwybod sut mae'r cyhoedd yn mynd i bleidleisio," meddai Marilyn.
Soniodd mam Connie with Marilyn bod ei merch wedi cael 1,400,000 o bleidleisiau ar y noson ac ei bod ymhell ymlaen o ran cefnogaeth y cyhoedd.
Bu Connie, sydd nawr yn 23 oed, yn aelod o Gôr Newyddion Da o'r amser yr oedd yn 12 oed hyd 18 oed. Roedd Marilyn yn sôn am ei pherfformiadau gwych gyda'r côr ac am ei chyfraniadau fel unawdydd.
Ar y diwrnod roedd Clebran yn trafod gyda Marilyn, yr oedd hi'n brysur yn pacio i fynd ar daith arbennig i Seland Newydd i weld teulu ei mab a oedd yn byw yr ochr draw i'r byd. Yr oedd Connie wedi clywed ei bod yn teithio ac yn mynd i fod i ffwrdd am gyfnod, felly yr oedd Connie wedi gofyn i'w mam i alw ag anrheg cyn i Marilyn adael.
Dywedodd Marilyn, "yr oedd yn braf i glywed am ei llwyddiant a hefyd i wybod ei bod yn cofio amdanom ni nôl yma yng Ngorllewin Cymru. Fe fydd bws o'r ardal yn mynd i Lundain ar y 12fed o Chwefror i weld ei pherfformiad, a da yw cael deall bod Connie nawr wedi cael y contract i berfformio yr wyth sioe wythnosol yn hytrach na rhannu gyda rhywun arall".
O ran cefndir Connie, fe'i ganwyd yng Ngogledd Iwerddon cyn symud i Hwlffordd pan oedd yn chwe blwydd oed. Bu'n aelod o Theatr Gerddorol Ieuenctid Prydain Fawr ac fe enillodd ysgoloriaeth Wilbert Lloyd Roberts yn 2002. Aeth ymlaen i astudio Cerddoriaeth Theatr yn Academi Theatr Mountview yn Llundain am dair blynedd.
Fe fydd Connie nawr yn perfformio yn sioe gerdd "The Sound of Music" o fis Tachwedd ymlaen. Bydd y perfformiadau yn theatr enwog y London Palladium. Os oes rhywun am archebu tocynnau, mae modd ichi gysylltu â'r linell tocynnau ar 0800 083 2841.
Cris Tomos - Clebranwr y mis