Pan ofynnodd pwyllgor Clebran i fi fod yn Glebranwraig y mis, fe benderfynais na fyddem yn ysgrifennu amdano fi fy hunan, ond yn hytrach y byddem yn ysgrifennu am bwnc sy'n agos iawn at fy nghalon. Fel mae'r mwyafrif o bobl yn gwybod erbyn hyn, ceffylau yw'r pwnc hwnnw.A pha well person i ysgrifennu amdano, na'r marchog o fferm Pengegin yng Nghwm Gwaun, sydd erbyn hyn yn enwog dros Brydain a thu hwnt.
Criced, pêl-droed a rygbi yw'r chwaraeon hynny sy'n cael y sylw pennaf yn y cyfryngau torfol, ond mae'n bryd i bethau newid. Os gofynnwch chi i unrhyw berson i enwi marchog enwog, mae nhw'n dweud David Broome neu Harvey Smith, a pham lai. Mae'r marchogion yma wedi cynrychioli Prydain droeon mewn cystadlaethau byd eang dros y blynyddoedd ac un ohonyn nhw wedi cael cryn sylw oherwydd ei ymddygiad anghwrtais a melltigedig ar un achlysur cofiadwy!
Ond mae'n rhaid i ni gofio am y marchogion talentog lleol hefyd sydd wrthi'n ddiwyd bob penwythnos ac yn ystod yr wythnos hefyd yn cystadlu led led Cymru. Felly, adeg cinio ar ddydd Mawrth, fe gwrddais i ag Eurig Eynon am sgwrs. Roedd hi'n rhyfedd ei weld mewn dillad cyffredin yn hytrach na'i jodhpurs a'i grys farchogaeth, ond roedd siarad gydag e am geffylau fel jam i wenynen!
Gweithio ar fferm y Banc gyda Martin a Kath Hall yr Nhrefaser ger Wdig mae Eurig ar hyn o bryd. Fferm geffylau sy'n gartref i fridfa Penstrumbly, ac Eurig sy'n gyfrifol am yr iard. Mae e wedi gweithio iddyn nhw ers bron i dair blynedd bellach, ac mae e'n mwynhau pob eiliad.
"I ni bant bob penwythnos bron yn cystadlu yn rhywle, a dros yr haf ry'n ni bant bob yn ail ddydd yn dangos ceffylau, neidio, gwerthu neu'n beirniadu," dywedodd gar foddhaol.Mae Eurig wedi cael llwyddiant ysgubol ar hyd y blynyddoedd yn yr arena neidio. Ar hyn o bryd, mae e'n rhif 36 ar restr y British Show Jumping Association ac mor belled, mae Eurig wedi neidio dros Gymru rhyw 35 o weithiau. Tipyn o gamp i farchog ifanc sy'n byw yng ngorllewin Cymru gan fod y mwyafrif o gystadlaethau mawr wedi eu lleoli yn Lloegr a siwrnai hir o'i flaen tro ar ôl tro.
Ond nid neidio yn unig sy'n mynd a'i amser. Yng ngwerthiant y Cobiau Cymreig yn Llanelwedd ym mis Hydref y llynedd, fe werthodd Eurig gel hynod o fraf am bris mawr. Yn wir, does na ddim un ceffyl rhan frid Cob wedi cael eu werthu am gymaint o arian yn y sêl yma erioed. Tipyn o gamp ac un y mai Eurig yn falch iawn ohoni.
Doedd Eurig erioed yn un am addysg, ac ni allai aros i ffarwelio ag ysgol y Preseli yn un ar bymtheg."Dwi'n cyfaddef we ni'n ddrygionus yn yr ysgol a we ni rîli isie gadael i fynd i weithio gyda cheffylau. Dwi'n siŵr wedd yr athrawon yn falch o'ng ngweld i'n gadael hefyd," dywedodd gan chwerthin.
Mae ceffylau yn gryf iawn yng ngwaed y marchog ifanc, ac yn wir yn ei achau. Roedd ei ddatcu, y diweddar William Harries yn wyneb cyfarwydd iawn ym myd y ceffylau, ac mae ei fam a'i dad, Edward a Dorothy (Dosh), a'i chwaer Gwenno yn weithgar iawn yn y maes hefyd, yn cystadlu ac yn cefnogi ei gilydd. Fel mae pawb sy'n ymwneud â cheffylau yn gwybod, mae rhaid cael cefnogaeth i lwyddo a chefnogaeth eich teulu'n well na dim.
"Oni bai amdanyn nhw, bydde ni ddim ble ydw i nowr. Wnaethon nhw garto fi a'r ceffylau bob man dros Brydain," dywedodd Eurig, sydd yn hyfforddi ceffylau, yn eu prynu a'u gwerthu dros Brydain a thramor.
Ond er bod Eurig yn dal i fyw yn ei filltir sgwâr, fe wnaeth e dreulio dwy flynedd yn gweithio i'r marchog byd enwog, John Whitaker yn Swydd Efrog cyn dychwelyd i Sir Benfro. A gyda golygfeydd godidog, erwau o dir llewyrchus, ceffylau addawol a ffrindiau da, mae Eurig yn hapus ei fyd.
"Dwi'n cyfaddef fy mod i'n ffodus iawn yn 'neud beth dwi'n lico 'neud bob dydd. Ody, mae e'n waith caled ac yn waith llafurus weithiau, ac er na fyddai byth yn gwneud fy ffortiwn allai byth a dychmygu neud dim byd arall "
Ond mae cystadlu ar lefel cenedlaethol yn anos, a dyw hi ddim yn beth hawdd clod o hyd i geffyl da ychwaith. Uchelgais Eurig felly yw clod o hyd i'r ceffyl perffaith."Be dwi'n chwilio amdano yw'r un ceffyl 'na sy'n mynd i fynd â fi yn bell, ond mae'n rhwyddach i ennill y loteri siŵr o fod, ond ry'n ni gyd yn dal i chwilio," esboniodd â chwinc.Ac os ddaw Eurig o hyd i'w geffyl perffaith rhyw ddydd, pwy a ŵyr, efallai mai Eurig fydd y David Broome nesa.
Gan : Anwen Francis