Nawr te, lle we ni? O ie, newydd adael pentref El Chalten ac anelu i gyfeiriad y mynyddoedd. Cerdded wrth ymyl afon Fitz Roy drwy ddyffryn coediog a rhyfeddu at y golygfeydd a'r prydferthwch. Coedwig ffawydd ddeheuol sydd yma fel ymhob man arall o fewn Parc Cenedlaethol Los Glaciers.
Hedfanodd y diwrnod ac wedi i ni gyrraedd gwersyll De Agostini, ger Lago Torre, gwelsom ôl tân mawr oedd wedi bod yno tua tair blynedd nôl. Gadael ein bagiau yn y gwersyll a ffwrdd â ni eto am daith fer i weld Lago Torre a glacier Grande, sef y llyn a'r rhewlif. Wel, dyna beth oedd rhyfeddod! Roeddwn yn gyfarwydd â gweld effeithiau rhewlifiant ugain mil o flynyddoedd yn ôl ar dirwedd Cymru, ond gwelais y peth yn digwydd yn y presennol o flaen fy llygaid - gwefreiddiol.
Cerdded nôl i'r gwersyll a gweld dau gondor yn hedfan uwchben cyn mwynhau swper o gawl a pasta oedd wedi ei baratoi gan ein tywyswyr, hen fois iawn chwarae teg, a fu'n ymdrechu i siarad ychydig o Gymraeg â mi, a minnau Sbaeneg â hwythau!
Cawsom gyfle i gymdeithasu ychydig cyn i ni fynd i'n pebyll, roeddwn yn rhannu gyda Melfyn, meddyg o Borthmadog, gan wybod fy mod mewn cwmni da petawn yn mynd yn sâl. Clywed swn cadno a thylluan yn ystod y nos a'r eira'n disgyn yn ysgafn erbyn cynfas y babell.
Codi'n gynnar fore Sul a gweld trwch o eira yn gorchuddio'r gwersyll, yr awyrgylch yn anhygoel a'r tawelwch yn falm i'r enaid. Cawsom dost, miwsli a sudd oren i frecwast, pacio'r sach cefn, twymo'r corff ac ymestyn y cyhyrau, ac yna M O M F G (ma's o 'ma ffrindiau glou), chwedl Dewi Pws!
Roedd y tirwedd yn debyg iawn i ddoe - coed a pherthi a'r golygfeydd o'r mynyddoedd dan eira yn hyfryd. Gwnaeth Iolo ddarganfod baw piwma; mae'r piwma'n gallu bod yn anifail peryglus ond ar y cyfan, mae'n ofn pobl.
Dywedodd Diego, un o'r tywyswyr, ei fod wedi bod yn arwain teithiau cerdded ers pymtheg mlynedd ac nad oedd erioed wedi gweld yr un piwma!
Ymlaen â ni eto cyn aros am seibiant ar lan llyn lle buom yn canu 'Calon Lân', y tywyswyr wrth eu bodd ac yn cymeradwyo'n frwd!
Cerdded ar hyd dyffryn Hija a Madre. Cychwyn bwrw eira eto a'r gwynt yn chwythu'n arw, lluwchfeydd yn ffurfio a phawb â'u pennau lawr ac yn dawedog wrth ganolbwyntio ar y llwybr llithrig. Cerdded ymlaen drwy ddyffryn Chorillo del Salte ac yn falch o gyrraedd gwersyll Laguna Capri, y gwersyll yma eto yn gyntefig iawn; afraid dweud taw twll yn y ddaear oedd y ty bach a phabell fawr o gynfas oedd y bwyty!
Mynd am dro lawr i'r llyn i lenwi'r boteli dwr a gweld cara cara cribog, aderyn mawr lliwgar a busneslyd (sy'n perthyn i deulu'r fran), bronfraith austral ac adar y to gwddf rufus.
Swper yn y gwersyll a chael ein cynghori i wisgo digon o ddillad i osgoi hypothermia. Tymheredd yn disgyn i -8'C, ond y noson ore o gwsg hyd yn hyn.
Codi'n gynnar eto fore Llun (tua 6.30) a sylweddoli ei bod yn ddiwrnod pen-blwydd Ceirios, fy chwaer fach annwyl. Dim signal ar y symudol, felly methu anfon tecst ati na chysylltu gyda neb arall o ran hynny. Dychmygwch y peth, roeddwn yn byw heb gyfleusterau ac adnoddau megis trydan, ffôn, radio, papur newydd ac ati am bum diwrnod, felly nôl i natur go iawn!
Yr un drefn eto heddiw, sef brecwast cynnar, pacio'r sach cefn, casglu pecyn bwyd, twymo'r cyhyrau a bant â ni i gyfeiriad Piedra del Fraile. O fewn milltir, cael golygfa fendigedig o fynydd Fitz Roy, y trydydd mynydd prydferthaf yn y byd. Mae'n 3405m neu 11,073 troedfedd o uchder gyda thyrrau ithfaen yn ymestyn fel pinaclau. Roedd yr Indiaid yn arfer galw'r mynyddoedd yn Chalten (sy'n golygu mwg) oherwydd roeddent yn credu taw llosgfynyddoedd oeddent - beth oeddent yn gweld mewn gwirionedd oedd y cymylau a'r eira!
Eidalwr o'r enw De Agostini fu'n gyfrifol am y gwaith mapio ym 1933 a dyma restr gyflawn o enwau'r mynyddoedd: Mojon Rojo, S, Saint Exupery, Rafael, Poincenot, Kakito, M&M, Brecha de Los Italianos, De La Silla, Fitz Roy, Val Biois, Mermoz a Guillaumet.
Cerdded lawr drwy ddyffryn Rio Blanco ac yna gweld golygfa syfrdanol arall, sef rhewlif Piedras Blancas a llyn Laguna Piedras. Lliw'r dwr eto yn wyrddlas oherwydd y mwynau (minerals) oedd yno.
Gweld planhigyn pert o'r enw cascade neu blodyn y rhaeadr (oherwydd ei fod yn tyfu lle mae'r dwr yn llifo) ac yn yr union fan gweld cnocell y coed neu'r magellanic woodpecker, aderyn pert iawn yn enwedig y ceiliog gyda'i wddf coch.
Croesi afon Blanco ac yna cerdded i fyny dyffryn Electrico drwy goedwig ffawydd, gwrthgyferbyniad llwyr o gymharu â'r bore, dim eira o gwbl a gwyrddni ymhobman gyda'r haul yn tywynnu'n braf a'r gwynt erbyn hyn wedi gostwng. Gallwn daeru fy mod yn cerdded lawr dyffryn Taf tuag at gromlech Gwâl y Filiast ar brynhawn o Wanwyn (teg edrych tuag adref!).
Roeddwn yn falch o gyrraedd gwersyll Piedra del Fraile wedi i ni gerdded pellter o 18km, yn gwybod taw hwn fyddai ein cartref am y ddwy noson nesaf, ac na fyddai angen i ni gario sach gysgu a chymaint o ddillad ar ein taith yfory. Roeddwn yn gwybod hefyd taw heddiw oedd y diwrnod anoddaf o ran cerdded ac roedd pawb wedi llwyddo hyd yn hyn.
Roedd y cyfleusterau dipyn gwell yma hefyd, cawsom swper mewn sied sinc wrth ymyl tân coed a gwydraid neu ddau o lager i dorri syched - roeddwn wedi cyrraedd yr Hilton!
Noson hwylus a thipyn o ganu i ddiweddu diwrnod bythgofiadwy. Cododd un neu ddau yn ystod y nos i fynd i'r ty bach a chawsant eu gwefreiddio gyda golygfa anhygoel eto - llond awyr o sêr ac yn eu plith, Croes y De (Southern Cross). Siomedig fy mod wedi colli'r olygfa ond falch o gael noson dda o gwsg ar yr un pryd.