Dechreuodd y dathliadau i nod 50 mlwyddiant Ysgol y Preseli ddydd Sadwrn, 28ain o Fawrth ble cynhaliwyd dydd agored i groesawu disgyblion, staff a rhieni ddoe a heddiw i'r ysgol.
Nos Sul, 29 Mawrth, bu Cymanfa Ganu Fodern yng Nghapel Blaenconin.
Bydd sioe'r ysgol hyn, Garreg Las, yn cael ei llwyfannu rhwng 18-21 Ebrill yn Theatr y Gromlech. Bydd y perfformiadau yn dechrau am 7.30pm bob nos. Gellir cael tocynnau o swyddfa'r ysgol. Trefnir digwyddiadau pellach yn ystod y flwyddyn.
Agorwyd Ysgol y Preseli yn hydref 1958 ar ôl i Gyngor Sir Penfro benderfynu adeiladu ysgol uwchradd newydd i wasanaethau pentrefi yng ngogledd y Sir.
Cyn hynny, byddai disgyblion a lwyddodd yn yr arholiad 11+ yn mynychu ysgolion Aberteifi neu Arberth. Byddai eraill yn parhau yn eu hysgolion cynradd.
Y pennaeth cyntaf oedd W.R. Jones ac ym 1959 roedd 450 o ddisgyblion yn yr ysgol.
O'r cychwyn cyntaf, roedd yr ysgol ar gyfer y gymuned â nifer o ddosbarthiadau nos yn digwydd - fel heddiw.
Bu Jams Niclas yn bennaeth o 1963 hyd 1975. Ychwanegwyd adeiladau pellach yn ystod y 1960au.
Bu George Ladd yn bennaeth o 1975 hyd 1990. Agorwyd y pwll nofio ym 1975.
Bu Martin Lloyd yn bennaeth o 1991 tan ddechrau 2009. Daeth Ysgol y Preseli yn ysgol ddwyieithog benodedig ym 1991.
Dywedodd y pennaeth newydd, Mike Davies, a gymerodd yr awenau fis diwethaf, "Pan aeth yr ysgol yn gyfrwng Cymraeg y flwyddyn honno, gostyngodd nifer y disgyblion a ddaeth i'r ysgol y flwyddyn honno i 85, oherwydd ansicrwydd rhieni ynglyn â dynodi'r ysgol yn un ddwyieithog.
"Yn 1996 pan lwyddodd y grwp cyntaf o ddisgyblion yn eu harholiadau TGAU, gwelodd pobl y llwyddiant, a chynyddodd nifer y disgyblion yn aruthrol."
"Nawr mae'r niferoedd yn sefydlog. Bydd 164 o blant yn dod i'r ysgol ym mis Medi eleni. Mae 170 o ddisgyblion yn Nosbarth VI nawr."
Agorodd y Ganolfan Hamdden ym 1996 a'r bloc adeiladau y llynedd.
Mae pennaeth newydd Ysgol y Preseli yn gredwr cry' mewn gweithio fel tîm. Deillia'r argyhoeddiad hwn o'i yrfa fel chwaraewr pêl-droed rhyngwladol a gynrychiolodd Cymru yn yr 1980au cynnar.
Chwaraeodd Mr Michael Davies ar yr asgell i Gymru pan oedd yn 18 oed, a bu'n chwarae'n rheolaidd yn nhimoedd Tref Aberystwyth a Thref Caerfyrddin.
"Falle nad wyf mor ffit ag oeddwn i, ond ma' fy nghred mewn gweithio fel tîm a'i rôl bwysig i gynnal safonau uchel yn deillio o'r cyfnod o hyfforddi'n galed a gweithio'n galed", medde Mr Davies. "Alla i ddim pwysleisio'n ormodol gwerth gweithio gyda'n gilydd er mwyn cyrraedd nod gyffredinol, a dyma'r ethosy dymunaf ei gyflwyno yn fy rôl newydd fel pennaeth yma. Cydweithio rhagorol rhwng disgyblion, rhieni, staff a'r gymuned yw'r gyfrinach i lwyddiant yr ysgol hon a byddaf yn sicrhau ei fod yn parhau.
Ychwanegodd: "Mae safonau uchel iawn yn yr ysgol ac rwyf am sicrhau y byddan nhw'n parhau, ac yn gwella wrth i'r disgyblion anelu'n uwch eto."
Gobeithiaf ehangu'r cyfleoedd academaidd ac allgyrsiol ar gyfer yr holl ddisgyblion."
Dechreuodd Mr Davies, sy'n wreiddiol o Gastellnewydd Emlyn, ddysgu daearyddiaeth ym 1984 yn Ysgol Maes Garmon, Yr Wyddgrug.
Mae'n briod a chanddo ddau fab yn eu harddegau. Dechreuodd ddysgu yn Ysgol y Preseli ddwy flynedd yn ddiweddarach ac mae wedi bod yn ddirprwy bennaeth yr ysgol ers bron i bum mlynedd.
"Yn fwyaf pwysig, rwyf am redeg ysgol hapus, yn seiliedig ar bartneriaethau effeithiol a pherthynas waith rhwng disgyblion, staff, rhieni a'r gymuned," medde Mr Davies.
"Mae gennym dîm rhagorol o athrawon yma ac rydym am barhau'r gwaith da a wnaed gan Martin Lloyd, a fu'n bennaeth am 18 mlynedd."
Bu Mr Davies, sy'n dal i ddysgu daearyddiaeth TGAU a Safon Uwch, yn allweddol yn sefydlu Bagloriaeth Cymru yn Ysgol y Preseli.
"Mae gennym nawr dros 500 o ddisgyblion yn dilyn y Fagloriaeth yn ogystal â TGAU a Safon Uwch. Mae hyn yn rhoi iddyn nhw ragor o gymwysterau a phrofiad a sgiliau ychwanegol," dywedodd.
Mae arwyddair yr ysgol yn bwysig - Cofia Ddysgu Duw. "Mae'r neges hon yn ein helpu i sicrhau y bydd pob disgybl yn cofio sut mae dysgu byw. Mae hynny, ynghyd â chyrhaeddiad academaidd yn golygu llwyddiant."