Mae'r Gymdeithas yn ffodus iawn ei bod yn berchen neuadd hyfryd, sef "Neuadd Cambrian", 17th Ave. Main. Cafodd y neuadd ei hadeiladu gan wirfoddolwyr ac ariannwyd gan aelodau o Gymru a ymfudodd i Vancouver. Roedd Vancouver yn le poblogaidd iawn i ymfudwyr yn ystod dechrau yr ugeinfed ganrif. Agorwyd Neuadd Cambrian ar y cyntaf o Fedi 1929 gyda chyngerdd arbennig.
O hynny ymlaen aeth y Gymdeithas o nerth i nerth, gyda mwy a mwy o aelodau fel y profwyd i ni yn ystod ein ymweliad. Ceisiaf roi braslun i chi o'r gweithgareddau. Teimlaf fel rhannu ein profiadau gan ei bod wedi bod yn brofiad hyfryd i weld fod Cymry oddi cartref mor frwdfrydig dros yr iaith.
Ar y nos Iau, Tachwedd y cyntaf, cynhaliwyd Noson Lawen gyda'r rhan fwyaf o'r aelodau yn cymryd rhan, rhai yn darllen barddoniaeth, eraill yn canu, a gorfod i ni ffurfio parti bach yn ddirybudd!! Wrth gwrs, roedd y croeso mor dwymgalon fel nad oedd neb yn cael mynd heb rannu o'r "te bach". Hyfryd oedd cael noson hollol Gymreig mor bell o adref, gyda'r rhan fwyaf o'r aelodau yn rhugl yn y Gymraeg.
Mae'r Gymdeithas yn ffodus fod ganddynt ddau Gôr Bechgyn yn aelodau, sef Côr Meibion Orpheus Vancouver a Chôr Meibion Cymraeg Vancouver. Ar y nos Wener, gan fod cymaint o docynnau wedi'u gwerthu, bu raid iddynt logi Neuadd Michael J. Fox ac yr oedd yn orlawn. Cafwyd noson lewyrchus dros ben a phleser mawr i ni oedd cael clywed yr unawdydd, sef Eifion Thomas, arweinydd poblogaidd Côr Bechgyn Llanelli. Yr oedd Eifion wedi cael ei ddewis yn ŵr gwadd dros y dathliadau i gyd, ac yr oedd ei bersonoliaeth yn llanw y lle.
Noson arbennig iawn oedd nos Sadwrn pan fuom yn dathlu gyda "Banquet". Roedd y bwyd wedi ei drefnu ymlaen llaw, gan fod ganddynt ddwy ystafell yn y neuadd, sef llawr a llofft, yr oedd digon o le i bawb, sef tua cant a hanner ohonom, i fwyta gyda'n gilydd. Uchafbwynt y noson oedd torri y gacen dathlu gan aelod hynaf y Gymdeithas, sef Phyllis Owens, yn 93 oed. Hi oedd un o'r aelodau cyntaf.
Bore Sul cynhaliwyd gwasanaeth dwyieithog yn y Neuadd. Cynhelir gwasanaeth yno unwaith bob mis. Eto roedd y neuadd yn llawn, ac am fod y Gymanfa Ganu yn cael ei chynnal am 2.00 o'r gloch, roedd y gwragedd wedi paratoi cinio i bawb. Y Gymanfa Ganu oedd uchafbwynt y dathlu i mi. Gwnaethom gwrdd â Chymry o bob rhan o Ganada. Yr oedd Cymry yno wedi teithio cymaint a chan milltir, ac yr oeddynt wrth eu bodd. Arweiniodd Eifion Thomas gyda llawer o hwyl, ac er nad oedd llawer o'r gynulleidfa yn deall popeth, cadwyd y cyhoeddi emynau yn Gymraeg.
Ni wnawn byth anghofio y croeso Cymreig a gawsom gan aelodau y gymdeithas, a dymunwn yn dda iddynt i'r dyfodol. Gyda brwdfrydedd fel a welsom, rhaid i'r Gymdeithas lewyrchu i'r dyfodol. Os oes diddordeb gan rywrai, dyma eu cyfeiriad ar y we: www.welshsociety.com.