Daethant er mwyn diolch am fywyd a gweinidogaeth y diweddar Barchedig T. R. Jones. Am yn agos i hanner canrif, bu'r gŵr o Danygrisiau yn Weinidog, yn fugail ac yn gyfaill i aelodau ei eglwysi.
Addas, felly, oedd dod ynghyd yn Ebeneser ar brynhawn Sul y 30ain o Fedi i anrhydeddu ei goffadwriaeth mewn oedfa arbennig, a dadorchuddio cofeb iddo ger glwyd y Capel.
Roedd y capel yn gyfforddus lawn, o aelodau, teulu a ffrindiau T. R. Braf oedd gweld cynifer o Weinidogion yno, yn awyddus i dalu teyrnged i gydweithiwr annwyl iddynt. Hyfryd oedd cael presenoldeb Llywydd Undeb Bedyddwyr Cymru, y Parchg Alwyn Daniels ac Ysgrifennydd Cyffredinol yr enwad, y Parchg Peter Thomas.
Llywyddwyd yr oedfa gan un o swyddogion Ebeneser a chyfaill T. R., Mr Glyndŵr Vaughan. Offrymodd weddi i agor y gwasanaeth, cyn gwahodd y gynulleidfa i ganu un emynau mwyaf T R. 'Wrth ddyfod Iesu, ger dy fron'.
Cafwyd darlleniad o'r Ysgrythur i ddilyn gan un o organyddion y capel, Mrs Olive James. Yna, offrymwyd gair o weddi gan y Parchg Eirian Wyn Lewis. Canwyd un arall o emynau poblogaidd T. R., 'Pan daena'r nos o'm cylch' a hyfryd oedd medru cofio ei ddawn barddonol drwy ganu ei gampweithiau.
Yn dilyn cafwyd tair teyrnged anrhydeddus iddo. Cofiodd Mrs Beti Thomas, ysgrifenyddes y capel, yn annwyl am 'Mr Jones' fel tynnwr coes heb ei ail. Cafwyd hanesion ei helyntion difyr a diolchodd am ei hiwmor. Adroddodd y Cyng. John Davies, trysorydd y capel, amdano fel un a luniai bregethau coeth a grymus.
Rhys ab Owen, nai T R., oedd yr olaf i dalu teyrnged iddo. Bu'n hel atgofion am ei 'Wncwl Tom' yn ogystal â diolch ar ran y teulu, am bob caredigrwydd a ddangoswyd i'w wncwl a'i deulu ym Mro'r Preseli.
Ymgasglodd y gynulleidfa o flaen y capel er mwyn dadorchuddio'r gofeb a chysegrwyd hi gan y Parchg Eirian Wyn Lewis. Dadorchuddiwyd y gofeb gan briod a meibion T. R., Mrs Marina Jones, Euros ac Emyr.
Roedd y gofeb o lechen hardd o ardal enedigol T. R., sef Blaenau Ffestiniog, a gerfiwyd gan Hedd Bleddyn a'i fab. Saif y gofeb drawiadol ger fynedfa'r capel, ac yn sicr yn gofeb clodwiw o'i weinidogaeth.
Lluniwyd y cwpled ar y gofeb gan y Prifardd Eirwyn George, oedd yn gyfaill mynwesol i T R. Yn sicr mae'r cwpled yn crisialu ei Weinidogaeth;
Gŵr clên a phen awenydd.
Dros Iesu bu'n ffaglu'r ffydd.
Diolchodd Euros yn wresog ar ran y teulu i gyd i swyddogion ac aelodau Ebeneser am eu haelioni a'u gweledigaeth i osod cofeb mor urddasol ar dir y capel i gofio am ei dad.
Y mae'n hollbwysig wrth gofio am y gorffennol i sicrhau y dyfodol. Braf oedd gwneud hynny yn yr oedfa arbennig hon.
Wedi darlleniad o'r Ysgrythur gan Mrs Beti Thomas, tystiwyd i fedydd pedwar o bobl ifanc yr Eglwys. Yn wir, bedyddiwyd dau frawd, Rhys a Rhodri, eu chwaer Rhian a'u cefnder Harri. Hyfryd oedd gweld cyflwyno aelodau newydd i ofal yr Arglwydd. Llawenydd i T.R. fyddai gweld pedwar o had yr eglwys yn Ebeneser yn tystio i'w cred yn Iesu Grist. Addas yw gorffen trwy ddefnyddio geiriau T R. ei hun;
'O deued wedi'r hirlwm maith
Dy wanwyn i fywhau y gwaith,
I'th eglwys lân, O anfon di
Gydweithwyr at y ddau neu dri.'
Rhodri ab Owen