Dyma ddyddiadur Carys o'r cyffro a'r tensiwn trwy gydol y gystadleuaeth.Y clyweliad
Cyn hyd yn oed dechrau ffilmio'r gyfres yn iawn rhaid oedd i ni gyd ganu o flaen panel o bobl a oedd yn cynnwys cynhyrchydd y gyfres Caryl Parri Jones. Digwyddodd hyn yng Ngwesty'r Grand, Abertawe ychydig cyn 'Dolig. A dweud y gwir, er bod clyweliadau dros Gymru gyfan ac yn yr ysgol, galw i mewn ar y ffordd i Gaerdydd wnes i, gyda dim gobeithion o fynd drwodd i'r rownd nesaf!
Es i i mewn yn meddwl bo' da fi ddim i'w golli a bydde fe'n bach o hwyl i fod yn rhan o rywbeth fel hyn. Ystafell fach dawel gyda'r panel difrifol yn eistedd o fy mlaen, ond gan nad y beirniaid iawn oedd yno, roeddwn yn teimlo tamaid yn llai nerfus, ac ar y cyfan roedden nhw i gyd yn gyfeillgar iawn. Un camgymeriad mawr wnes i oedd canu un o ganeuon Eden sef 'Y boen achosais i' a gyfansoddwyd gan Caryl, ond wps, pan orffennais i ganu yr unig beth ddywedodd Caryl o'dd "Un gair 'di enw'r gân 'na. Ti 'di cael enw'r gân yn anghywir." Teimlais fy hun yn troi'n goch o embaras, ond chwerthin wna'th pawb arall!
Tua mis wedyn fues i'n siarad gydag un o fy ffrindiau o Lanelli a fe ddywedodd hi ei bod yn mynd drwodd i Rownd Dau. Cymerais i yn ganiataol fy mod heb fynd drwodd. Tua mis yn ddiweddarach, fe ddaeth galwad ffon i'r tÅ·. Caryl Parri Jones oedd yno yn dweud bod ganddi newyddion da - fy mod wedi cael fy newis i fynd i Gaerdydd mewn mis. Tipyn o sioc oedd hi i gael yr alwad oherwydd bod cymaint o amser wedi mynd heibio ers y clyweliad a 'mod i wedi anghofio am y peth, bron!
Yr Ugain Olaf
Dewisais ddwy gân eto, cyn mynd i lawr i Gaerdydd er mwyn i'r cerddorion yno baratoi'r gerddoriaeth. Dewisais un o ganeuon gorau Cymru yn fy marn i sef 'Dagrau Ddoe' gan Emlyn Dole a Gwenda Owen. Roedd canu un o ganeuon Emlyn a Gwenda yn sialens oherwydd 'mod i'n eu hadnabod nhw a ro'n i'n ofni dinistrio'r gân wrth ei chanu.
Yr ail gân ddewisais oedd 'Mamma told me not to come', fersiwn Tom Jones a'r Stereophonics, am ei bod hi'n gân wrthgyferbyniol i'r gyntaf. Roedd popeth i'w weld yn mynd yn hwylus ond wythnos cyn y ffilmio daeth llythyr yn dweud bod yna broblem gyda trwyddedu'r ail gân, felly aros am gân arall bu raid. Diwrnodau yn hwyrach clywais mai 'Pishyn' oedd y gân newydd imi. Wel, ro'n i braidd yn
siomedig am fy mod yn cofio canu'r gân mewn caneuon actol yn Ysgol Nantgaredig yn 10 mlwydd oed! Ta beth, aeth 'Dagrau Ddoe' yn dda ac roeddwn i'n hapus gyda'r
perfformiad. Ges i feirniadaeth dda ac roedd rhaid aros o gwmpas y lle am sbel er mwyn cael gwybod pwy fyddai'n mynd o'r ugain i'r deg diwethaf.
Gallwch ddychmygu gydag Eleri Siôn, cawsom lawer o hwyl wrth aros, yn enwedig pan oedd y camerâu i ffwrdd. Ta beth, daeth yr amser a " .. ti trwyddo..." oedd yr ateb a glywais. Ro'n i'n hapus iawn ond roedd rhywbeth braidd yn od ar fin digwydd. Bu'n rhaid aros dros nos yng Nghanolfan y Mileniwm ar gyfer diwrnod llawn syrpreis!
Y Deg Olaf
7.00 yb [BANG, BANG, BANG] "Dihunwch! - lawr wedi gwisgo mewn dwy funud - dwy funud!
Wel dyma syrpreis. Agorais y drws a dyna lle roedd dau ddyn wedi gwisgo yn eu 'combat gear.' Neidio i mewn i'r bws mini nesa', a gan fy mod heb baratoi bu rhaid i mi wisgo crys-t fy sboner, y trowsus gorau roeddwn yn mynd i berfformio ynddynt a trainers y Cynhyrchydd. Na ddysgu wers i mi! Ta beth fe gaethon ni sesiwn o 'SAS Training' ac er fy mod i'n oer, gwlyb a mwdlyd fe 'nes i fwynhau'r sialens. Erbyn y prynhawn cawsom gyfle i ganu ein hail gan - sef 'Pishyn' gyda band proffesiynol byw. Dyma i mi oedd y profiad gorau am fod perfformio gyda band yn rhywbeth dwi'n fwynhau. Fel y gwelodd llawer o bobl ar y teledu, perfformiais y gân gyda bach o hwyl wrth ei chanu hi i'r beirniad BB Aled. Dwi'n mwynhau bod ar lwyfan a thynnu coes ond er bod y beirniaid i'w weld yn mwynhau y gân ar y pryd - nid felly y bu.
Pan gefais feirniadaeth Owen Powell, penderfynodd roi'r newyddion i mi. Aeth ei feirniadaeth ymlaen am dipyn. Ar ddiwedd y dydd mae'r beirniaid yno i roi eu barn am eu bod nhw wedi bod yn y byd yma ers blynyddoedd. Yn fy marn i roedd y profiad yma yn anhygoel ac roeddwn yn trio mwynhau pob eiliad. Mae pob cân a stori neu reswm y tu ôl iddi ac roeddwn wedi ceisio dangos hyn.
Ar ôl y rownd yma, er y feirniadaeth wael, ces gyfle arall i berfformio a mynd ymlaen i'r rownd nesaf. Ac i chi sydd ddim wedi bod yn dilyn y gyfres, do collais ddagrau ar ôl gadael yr ystafell - dim ond am fy mod wedi cael sioc o fynd trwodd ar ôl pregeth 'Owen Cowell'!
Yr Wyth Olaf
Roedd hi'n anrhydedd i gyrraedd y rownd yma am ein bod mewn stiwdio go iawn, gyda gwisgoedd a cholur. Cân gan Meinir Gwilym ganais i sef 'Golau yn y gwyll'. Roedd hi'n berfformiad cwbl wahanol i'r wythnos gynt, ond er hyn doedd y beirniad yn dal ddim yn ddigon hapus ac fe adewais y gystadleuaeth.
Roedd y profiad yn wych. Roedd y beirniaid a'r tîm cynhyrchu yn bobl ffantastig. Dwi wedi dysgu lot a dwi ddim yn edifar mynd i'r clyweliad cyntaf 'na yn Abertawe.
Llongyfarchiadau mawr a dymuniadau gorau i Beca Richards a Carys Davies wrth Cwlwm