Rwy'n cofio sefyll, flynyddoedd lawer yn ôl, ar lan afon Tywi nid nepell o bont y dre, yn hwyr y dydd a'r afon yn llonydd. Yn y man dyma ddau ŵr canol oed yn nesau at lan yr afon. Yr oeddynt yn cario cwrwgl bob un ar eu cefnau. Gollyngwyd y ddau gwrwgl yn dawel ar wyneb y dŵr, ac wedi magu cydbwysedd bob un yn ei gwrwgl, arhosodd un ar ymyl y lan agosaf tra lledodd y llall y rhwyd rhyngddynt a rhwyfo tua'r lan arall. Yna yn y distawrwydd digyffro, symudodd y ddau yn araf i lawr yr afon, "gan rwyfo plwc yn awr ac yn y man," i gyfeiriad pont y rheilffordd islaw.
Roedd y pysgotwyr yn byw ar ochr y cei, yn Heol y Bont, Lôn y Jolly Tar a Dan y Banc. Roeddynt yn rhan o gymuned fwy a fu'n byw ers cenedlaethau lawer yn y parthau hynny. Gwaith tymhorol oedd pysgota a chwrwgl i'r dynion caled yma. Gweithio yn galed, yfed tipyn, cael ambell ffrwgwd a gobeithio am hir oes. Ond ymhen amser cliriwyd y cyfan o'r bythynnod yma a chreu Ffordd y Cwrwgl fel y mae heddiw. Yr oedd rhoi teitl felly i'r ffordd newydd yn goffâd teilwng i'r llu o ddynion a oedd wedi pysgota'r afon Tywi, ac, mewn nifer o achosion, wedi gwneud bywoliaeth o hynny.
Ni wnaeth Gerallt Gymro ymweld â thre Caerfyrddin ar ei daith o gwmpas Cymru yn 1188 ond y mae sôn iddo weld pysgotwyr yn defnyddio cwrwgl ar y Tywi.
Er i'r grefft o bysgota fel hyn gychwyn canrifoedd yn ôl, prin yw'r dystiolaeth ysgrifenedig am yr ardal hon. Rhaid yw aros hyd y ddeunawfed ganrif cyn cael unrhyw fath o ddarlun o bysgotwr ar yr afon. Yng nghofnodion Festri Llanegwad am Fedi 7, 1798, ceir y sylw bod John Hardy wedi prynu gwlanen, ynghyd â defnyddiau eraill, i wneud cwrwgl i John Lott. Tybed a ddefnyddiwyd y cwrwgl hwnnw ar yr afon Tywi yn ardal Nantgaredig! Fel y tystia'r cofnod, amrwd iawn oedd defnyddiau cynnar paratoi'r cwrwgl.
Y mae sôn am wlanen wedi ei baratoi'n arbennig, ond rhaid oedd gosod tair haenen o'r 'pitch' neu'r tar o gwmpas i sicrhau fod y cyfan yn dal dŵr. Yn ddiweddarach, defnyddiwyd calico neu gynfas a'i blethu o gwmpas stribedi o onnen cyn gosod y tar. Wrth ddefnyddio croen yr oedd hyn yn gwneud y cwrwgl yn drymach. Yn ôl y ddihareb Gymraeg, "llwyth gŵr ei gwrwgl."
Yn 1860, ceir tystiolaeth bod 400 yn pysgota gan ddefnyddio cwrwgl. Yr oedd hyn cyn oes y trwyddedu a'r pysgotwyr gwialen. Yng nghyfrifiad 1871 sonnir bod 40 o deuluoedd y dre yn ddibynnol ar bysgota ar y Tywi. Yr adeg fwya' ffafriol fyddai wrth iddi nosi, mynd gyda llanw a thrai'r afon, a dychwelyd gyda'r wawr. Dim ond sŵn yr afon a golau'r lleuad. Mae cyryglwyr heddiw, fel roedden nhw yn oes y Rhufeiniaid, yn adnabod pob tro a phwll yn yr afon. Ond y mae eu rhif gryn dipyn yn llai, a thrwy'r blynyddoedd y mae pris y drwydded wedi cynyddu fel petai'r awdurdodau am gael gwared o wŷr y cwrwgl, sy'n rhan o hen hanes y dre.
Ond mae'n hen stori. Dyma sylw o "Crwydro Sir Gâr" sy'n cyfeirio at 1954 ar yr afon Teifi,
"Mae perygl y bydd i'r cwrwgl ddiflannu o'r afon ymhen ychydig o flynydde...Wrth gwrs gŵyr pawb am ymdrech y cyryglwyr i gael gan yr awdurdodau i newid eu hagwedd, ond ofer fu'r cyfan hyd yma, ac ni allwn lai na gresynu wrth y fath gyndynrwydd diweledigaeth."
Gallai'r sylwadau yma fod yn perthyn i'r sefyllfa ar y Tywi eleni. Ar hyn o bryd caniateir dwsin o rhwydi ar y Tywi, llawer iawn yn llai na'r adeg pan oedd teuluoedd yn ennill eu bywoliaeth ar yr afon. Os am berchen trwydded, y mae'n rhaid bod o linach y cyryglwyr presennol. Y mae gofyn i'r rhai sydd yn awr a hawl i fynd ar yr afon, dalu £508 am drwydded blwyddyn. Yn ôl Asiantaeth yr Amgylchedd y mae'n ddigon posibl mai wyth trwydded yn unig a ganiateir yn y dyfodol a hynny mae'n debyg oherwydd prinder eogiaid a sewin. Y mae pysgotwyr gwialen hefyd yn tynnu o'r afon, ac y mae denu pysgotwyr gwialen wedi bod yn hwb i dwristiaid ac economi'r ardal ers blynyddoedd. A dyna ran o'r dadlau sydd yn digwydd ar hyn o bryd.
Mae'n rhaid diogelu traddodiad anrhydeddus Gwŷr y cwrwgl yn ogystal. Pa ffordd well i ddenu twristiaid na gofalu bod lle teilwng yn cael ei roi i'r cyryglwyr hyn, a gwario arian i wella'r ddarpariaeth o bysgod yn yr afon er lles pawb. O sôn am dwristiaid, nid oes gwybodaeth benodol ar gael am gysylltiad y Tywi a'r cwrwgl yng nghanolfan y twristiaid yn Heol Awst. Os bydd Asiant yr Amgylchedd yn penderfynu cwtogi ar y nifer o drwyddedau, efallai mai ar arfbais y dre yn unig y gwelir y cwrwgl yn y dyfodol.
Golygydd
Crefft y Cwrwgl
Gwefan Caerfyrddin