Archaeloeg Cambria sy'n cynnal y gloddfa archaeolegol hon er mwyn darganfod mwy am y prif borthdy a'r fynedfa i Gastell Caerfyrddin. Cychwynnwyd ar y prosiect i wella'r castell ym 1994 a bellach dim and un rhan o'r cynllun sydd ar ôl i'w gwblhau, sef y brif fynedfa o Sgwâr Nott, a maes o law bydd yn bosib cerdded o'r sgwar o gwmpas y castell i gyfeiriad Heol Spilman hefyd. Adeiladwyd castell tomen a beili yma yn 1109-10 a bu am ychydig yn bencadlys y brenhinoedd Normanaidd yn y gorllewin. Ail atgyfnerthwyd y castell gan ddefnyddio cerrig yn 12ed a'r 13eg ganrif ac adeiladwyd y porthdy sy'n wynebu Sgwâr Nott tua 1409. Tu allan i'r porthdy ceir cyfres o hen seleri o'r 18ed ganrif sy'n rhan o hen bont garreg a ddefnyddiwyd i groesi'r ffos ddofn a oedd yn amddiffyn y castell o flaen y porthdy tua'r Canol Oesoedd. Rhaid llongyfarch y Cyngor Sir am y gwaith ardderchog. Cofiwch ymweld â'r safle - i ddysgu rhagor am ein tref hanesyddol.
|