Y mae yna rimyn o borfa a elwir gan y trigolion yn green yn ffinio â'r traeth, ac ar ymyl yr heol gul sy'n arwain i'r traeth y mae tai crand yr olwg sydd yn dwyn enwau Saesneg ac yn ddim ond arlliw o'r hyn a fuon nhw yn hanes y cilcyn yma o ddaear Sir Gâr.
Fel plismon yn gofalu am y cyfan ar y graig uwchben y mae'r castell, sy'n begwn digon amlwg wrth i'r ymwelydd agosáu at y pentref o gyfeiriad Caerfyrddin.
Adfail o addurn Ond plismon digon di-glem sy'n gwarchod erbyn hyn gan fod ymwelwyr 'slawer dydd fel yr Arglwydd Rhys ifanc yn y 12fed ganrif a Llewelyn Fawr wedi gadael y castell yn adfail o addurn fel llawer o gestyll ar arfordir y Sir.
Yn rhannu'r don â Llansteffan ar draws y dwr y mae Glanyfferi, cwmwd o dai na fu lawn mor boblogaidd â Llansteffan, ond a fu'n fodd, fel yr esbonia'r enw, i ymwelwyr â Llansteffan or de i groesi ar y fferi.
Rhaid mynd yn ôl i'r 19eg ganrif a hanner cyntaf yr 20fed ganrif i ddeall poblogrwydd Llansteffan. Hyfrydwch i'r trigolion lleol yn unig a fu'r lle cyn hynny ond pan ddaeth teithio yn hwylus yn enwedig wedi agor y rheilffordd o Lanelli i Lanyfferi am Gaerfyrddin, daeth cyfle i lawer fwynhau haul a thraeth y pentre. Heidiai glowyr pyllau y Rhondda a'u teuluoedd i'r pentref, i ffwrdd o lwch y lofa, i fwynhau'r awyr iach. Yr oedd modd croesi i'r pentref ar y fferi wedi dod oddi ar y trên yng Nglanyfferi neu aros ar y trên a dal y bws o Gaerfyrddin.
Ymwelwyr yn tyrru yn eu cannoedd Golygfa gyffredin ar ddechrau pob mis Awst oedd gweld y tyrfaoedd yn Heol Awst yn aros am y bws i'w cludo i'r pentref. Tyrrai'r ymwelwyr wrth eu cannoedd adeg pythefnos wyliau'r glowyr yn enwedig.
Croesawyd yr ymwelwyr i'r cartrefi a llanwyd pob ystafell sbâr yn y fargen. Soniwyd yn gynharach am y tai mawr sy'n edrych allan ar y bae. Rhain erbyn heddiw yw'r atgof gweladwy am y gogoniant a fu.
Yr oedd yr ymwelwyr yn dod â'u bwyd eu hunain a rhan o waith gwraig y ty oedd paratoi'r bwyd ar eu cyfer. Yr oedd yr arian yn dderbyniol iawn hefyd.
Corau'n cystadlu Gan fod cymaint o ymwelwyr o'r un ardal arferid cynnal Eisteddfod lle byddai corau yn cystadlu yn erbyn ei gilydd. Rhwng y castell a'r traeth y mae llecyn a elwir y Sticks ac yno ar lwyfan yr oedd y cystadlu'n cael ei gynnal.
Y mae tafarn or enw Sticks yn y pentre ond nid oes tystiolaeth bod hwnnw yn ferw o ymwelwyr y 19eg ganrif a dechrau'r 20fed ganrif o gofio sefydlu cymdeithas y llwyrymwrthodwyr a diwygiad 1904.
Hyd heddiw y mae seremoni ethol ffug faer yn y pentre a chafwyd hwyl yn cynnal y traddodiad gan bobol a oedd yn ddieithriaid.
Yr oedd y plesera yn ymestyn i Lanyfferi gan fod yr aber yn llydan i hwylio cychod, a theithio ar y fferi wrth gwrs yn rhan o'r hwyl.
Llai o ymwelwyr Ond fel y deuai teithio yn hwylusach a pherchen car yn uchelgais, teneuo a wnaeth y torfeydd. Yn wir, erbyn Ionawr 1937 yr oedd Cyngor Sir Caerfyrddin yn ystyried dod â gwasanaeth y fferi i ben rhwng y ddau le.
Codwyd y mater o adeiladu pont ond buan yr anghofiwyd am hynny. Cafwyd peth llewyrch hyd at y 1960au ond erbyn hyn ymwelwyr yn eu ceir gyda'r nos yn yr haf yw'r rhai a welir yn cerdded ar hyd y traeth ar wahân i ambell deulu a ddaw i aros yn y maes carafannau.
Un o'r rhai a brofodd yr awyrgylch 'slawer dydd oedd y Parch Volander Jones, Llanymddyfri. Dyma a ysgrifennodd ar ddechrau'r ugeinfed ganrif:
Daw gwyr y mynydde i'r lle wrth eu ffyn Ar ôl bod yn treio bob ffynnon a llyn Ond awyr Llansteffan a nwyfiant y don A'u gwna i ddychwelyd o'r lle heb un ffon.
Does neb yma'n meddwi na gwneud dim o'r fath A'r unig dafarndy yw tafarn y llaeth, Ar ôl myned yno fe yfant ynghyd Nes sychu holl wartheg Llansteffan i gyd.
Daw awel fel anadl angel o'r don Gan ddwyn meddyginiaeth a chân i bob bron Mae pawb yma'n canu fel cregyn o'r môr A'u lleisiau fel lleisiau Caradog a'i gôr.
Caradog wrth gwrs aeth â chôr o Aberdâr i ganu o flaen y Frenhines Fictoria. Wrth sefyll ar brynhawn heulog ym mis Ionawr ar draeth Llansteffan nid yw hi'n rhy anodd dychmygu'r lleisiau yn bwrw ati â'r gân yn gymysg â'r awel sy'n chwythu trwy'r Sticks dros ganrif yn ddiweddarach.
Dymuna Len Richards, golygydd y mis, gydnabod help Eiluned Rees wrth baratoi'r erthygl.
|