100,000 o ymwelwyr, 15,000 o gystadleuwyr a miliwn o bobl yn gwylio'r digwyddiadau o Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Sir Gâr ar y cyfryngau. Ydi, mae'r blynyddoedd o waith diflino ar fin dwyn ffrwyth wrth i Eisteddfod Sir Gâr agor ei drysau a chroesawu'r genedl i Faes Sioe'r Siroedd Unedig.
"Mae'r bwrlwm yn Sir Gâr wedi bod yn heintus ers y cyfarfod cyntaf un," medd Siân Eirian, Cyfarwyddwr yr Eisteddfod. "Mae'r digwyddiadau wedi bod yn niferus a'r cymunedau yn dod at ei gilydd i godi arian. Gobeithio y bydd hyn yn parhau ymhell wedi i'r Eisteddfod hel ei phac a bod rhwydwaith newydd o gymdeithasau yn codi yn ei sgîl."
Sioeau a chyngherddau
Sioe Y Llyfr Du fydd yn agor yr ŵyl, nos Sadwrn yn y pafiliwn. Sioe liwgar, gerddorol yn dilyn hynt a helynt mynach bychan sy'n brwydro yn erbyn yr anawsterau o gofnodi hanesion pwysig yn y Llyfr Du, megis boddi Cantre'r Gwaelod a hanes y Brenin Arthur. A fydd yn llwyddo? Dewch i weld ac i glywed drosoch eich hun ond gyda nifer fechan o docynnau'n weddill, bydd rhaid archebu'n fuan os am osgoi siom.
"Mae'r arlwy o gyngherddau sy'n aros am Eisteddfodwyr 2007 yn wych," medd Siân Eirian. "Mae'r Cyngerdd Agoriadol yn sicr o fod yn brofiad theatrig gwefreiddiol ac yn gychwyn haeddiannol i'r Eisteddfod."
Nos Sul a nos Lun yn Theatr y Lyric, tro disgyblion yr ysgolion uwchradd fydd hi i ddiddanu'r Eisteddfodwyr. Carys Edwards sy'n cyfarwyddo 'Dagrau'r Coed' a Siwan Jones a Catrin Dafydd yn gyfrifol am y geiriau. Ac yn dilyn galw mawr am berfformiad ychwanegol, bydd 'Dagrau'r Coed' i'w gweld brynhawn dydd Sul, 27 Mai am 3.30 y prynhawn.
Nos Fawrth a nos Fercher, y plant ieuengaf fydd yn perfformio 'O, Bren Braf' o waith Elinor Wyn Reynolds a Fflur Dafydd gyda Delyth Mai Nicholas a Dafydd Hughes yn cyfarwyddo. Eto, mae'r tocynnau yn prinhau, felly mynnwch eich sedd.
Ar y maes, mae gwledd ar gyfer pob oedran. Y pafiliwn celf a chrefft, y Bws Coginio a'r cystadlaethau newydd o dan ofal Dudley Newbery, theatr fyw o amgylch y maes am y tro cyntaf ac wrth gwrs, y cystadlu yn y pafiliwn o 8 y bore ymlaen.
"Mae nifer o weithgareddau newydd i'w gweld ar faes yr Eisteddfod eleni," medd Siân Eirian. "Ac yn bwysicach na dim, efallai, yw'r effaith mae'r Eisteddfod yn ei gadael ar gymunedau Sir Gaerfyrddin. Y gobaith mawr yw y bydd plant a phobl ifanc yr ardal yn gyfoethocach eu profiadau yn dilyn yr ymweliad ac y bydd modd iddynt ddefnyddio'r sgiliau newydd hyn am flynyddoedd i ddod.
"Ydi, mae llwyfannu Gŵyl Ieuenctid fwyaf Ewrop yn waith caled and mae'n fuddsoddiad ym mhlant a phobl ifanc yr ardal a hoffwn ddiolch yn ddidwyll a diffuant i bobl Sir Gâr am eu hymateb anhygoel i'r her arbennig hon."
Llinell docynnau: 0845 257 1639
Mwy am Urdd 07 ar Lleol de orllewin