Llwyddodd i gael y swydd ac mae hi bellach yn gweithio fel yr unig feddyg yn gofalu am 21 o bobl ar Orsaf Ymchwil Rothera ar Ynys Adelaide.
Mae Lowri bellach gannoedd o filltiroedd i ffwrdd o gyfleusterau meddygol ac yn wynebu amodau sydd gyda'r anoddaf ar y blaned am gyfnod o 18 mis. Mae CWLWM yn ffodus o dderbyn darnau o ddyddiadur Lowri:
Ar drothwy'r Nadolig dyma fi yn aros am funud i gael meddwl yn ôl dros y mis diwethaf. Mae e wedi diflannu yn gyflym. Er bod yng nghanol yr eira a'r oerfel, dyw'r Nadolig ddim yn teimlo'n naturiol rhywsut. Wedi rhoi'r trimmings lan. Yn ddoniol iawn - rhai ffoil yn hongian o'r to yw'r rhan fwyaf, ac achos yr holl static os yw pen rhywun yn cyffwrdd ynddynt ma' nhw'n cael sioc. Mae e bach fel y 'dodgems'!
Wedi hen setlo lawr yn y syrjeri erbyn hyn. Wedi treulio sbel yn perffeithio gwneud pelydr-x ar Skua (aderyn mawr) marw ffeindes i. Mae e'n edrych fel pterodactyl! Odd Jo (y doc arall) yn meddwl bo' fi wedi fflipio!
Un o'r digwyddiadau mwyaf y mis yma oedd dyfodiad cwch y JCR. Roedd hi'n sownd yn yr iâ am ddau ddiwrnod ac yn agos i droi'n ôl. Trueni - am fod y cwrw wedi rhedeg mas fan hyn a dim ond Strongbow ar ôl! Roedd sôn am hedfan y bobl i fewn o Ganolfan Marsh. Er mwyn gwneud hyn roedd angen hedfan allan dros yr iâ i weld os oedd modd cael teithwyr y JCR i fewn rhyw ffordd arall. Ges i fynd ar yr awyren - profiad anhygoel.
Hedfan 200 milltir yr awr, 40 o droedfeddi uwchben y dŵr yn unig.
Gweld yr iâ, morloi - a cwch y JCR oedd ei hun 60 troedfedd o faint. Llwyddodd y JCR i lanio a'r holl nwyddau bwyd, diod, adeiladu ac yn y blaen. Tri diwrnod caled wedyn o garto bocsys di-ri yn pwyso unrhywbeth o 3kg i 95kg. Yn gorfod gwneud cadwyn ddynol er mwyn pasio'r bwyd lan o'r cei ac i fewn i'r rhewgell. Tipyn o hwyl - ond dwi llawn cleisiau. Bydda i fel Arnie Schwarzenegger wedi dod nôl!
Ar ôl y gwaith caled caethom gêm o bêl-droed yn erbyn dynion y cwch. Heb eu curo o'r blaen - a colli oedd hi eto 4-1. Ond llwyddes i gymryd dau ohonyn nhw allan. Yn awr rwy'n cael fy enwi 'Killer Bowen' ar y cae! Ha! A sai wedi dechrau ar y bêl-rwyd eto!
Sôn am gleisiau. Dwi wedi derbyn sgiis ac eira-fwrdd hefyd. Wedi cael un tro ar yr eira-fwrdd. Cael hwyl arni. Wedi gallu dod lawr yn weddol.
Yr anifeiliaid yn dod yn nes i'r lan bob dydd. Y morloi, [crabbies a weddels] o fewn troedfeddi. Y pengwiniaid [Adelie] fel clowns bach o fewn dau hyd braich wrthai. Dy'n ni ddim i fod i fynd yn rhy agos, ond mae nhw yn mynnu dod i weld pwy yw'r 'pengwins' mawr oren sydd yn dod atynt! Wedi penderfynu bo fi moyn dod nol fel pengwin! Weles i un yn cwympo ddoe a llwyddo i gael ei ben yn sownd yn yr eira am 2-3 munud - ma' nhw mor dwp!
Yn edrych ymlaen i fynd lawr i Fossil Bluff yn y flwyddyn newydd. Mae e i'r De o fan hyn. Dyna lle mae'r awyrennau yn ail-lenwi â phetrol ar y ffordd i'r maes. Methu aros. Mae yna Aga yn y caban bach er mwyn coginio - cawn weld am y coginio! Er, dwi wedi llwyddo i wneud 'cheesecake' go dda. Sôn am fwyd - cafon ni 'flight' mewn o Punta Arenas tri diwrnod yn ôl. Heblaw'r ost cafwyd lot fawr o fwydydd ffres - bananas, afalau, orennau, avocado, tato, tomatos a letys. Bron anghofio sut oedd llysiau a ffrwythau ffres yn blasu. Erbyn hyn ma' beth sy'n weddill yn edrych bach fel ffrwythau Co-op Rhuthun!
Gwell mynd i wneud peth gwaith. Dyw'r gwyliau ddim yn dechrau tan 13.00 ar noswyl Nadolig. Yn bwriadu gweld fideo Cymru yn erbyn Awstralia heno hefyd. Hwre! Lowri
|