Roedd y Dirprwy Brif Weinidog yn agor y bont ynghyd â'r Cynghorydd Meryl Gravell, Arweinydd Cyngor Sir Gaerfyrddin ar ddydd Iau y 6ed o Ragfyr 2007. Hon yw'r bumed bont yn nhref Caerfyrddin sy'n croesi'r afon Tywi ac fe gostiodd y prosiect £2.8 miliwn a talwyd amdani'n llwyr gan Lywodraeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Ei safon uchel a'r manylion sy'n dangos ôl cryn feddwl yw nodweddion amlycaf y bont ac mae'r adeiladwaith dau fast yn gweddu i'r dim i dirwedd y gwastatir.
Enwyd y bont ar ôl y brodyr Jack a Gwyn King Morgan a fu'n rhedeg fferyllfa enwog yn y dref am ddegawdau a chyfrannu miloedd o bunnoedd i achosion lleol.
Ar ddydd yr agoriad y cyntaf i groesi'r bont roedd plant Ysgol Llangynnwr ar un ochr a phlant Ysgolion Caerfyrddin ar yr ochr arall gan gyfarfod yn y canol lle mae plac sy'n dynodi'r agoriad swyddogol.
Trefnwyd bod lle eang i barcio ceir yn awr wrth yr orsaf ac mae maes parcio bysiau newydd hefyd wrth y bont. Mae'r rheilffordd mor gyfleus bellach i ganol Caerfyrddin, a'r gobaith yn awr yw gweld ardal y cei yn cael ei datblygu fel y bydd glan yr afon yn atyniad pleserus i bawb gan gofio pwysigrwydd hanesyddol y rhan hon o'r dref.
|